Newid hinsawdd

Cyhoeddi yn gyntaf: 23/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mae newid hinsawdd yn golygu newidiadau tymor hir yn nhymheredd, glawiad a phatrymau tywydd ein planed.

Mae rhai newidiadau yn yr hinsawdd yn naturiol. Ond mae gweithgarwch dynol sy'n cynhyrchu allyriadau carbon yn cyflymu'r cynhesu byd-eang sy'n achosi newid yn yr hinsawdd.

Mae cynhesu byd-eang yn golygu gwresogi atmosffer y Ddaear yn y tymor hir a achosir gan ein gweithredoedd. Mae hyn yn bennaf o losgi tanwydd ffosil – fel glo, olew a nwy naturiol – sy’n allyrru carbon deuocsid yn yr aer ac yn dal mwy o wres yr haul, gan godi tymheredd. 

Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bobl ledled y byd mewn sawl ffordd, o gyfnodau o wres eithafol a stormydd cynyddol aml, i darfu ar systemau bwyd a chynnydd mewn clefydau. Mae'n bygwth cymunedau Cymru oherwydd llifogydd, prinder dŵr, tanau gwyllt, tywydd poeth a newidiadau i ansawdd aer. Mae ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, ein hamgylcheddau naturiol a hanesyddol, ein cartrefi a'r busnesau sy'n gyrru ein heconomi – maen nhw i gyd mewn perygl. Dim ond gwaethygu bydd hyn.

Hyd fideo:

1.28 mins

Gwyliwch ar Youtube

Beth allwn ei wneud?

Y nod yw cael Cymru sero net erbyn 2050, sy’n golygu bod y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu tynnu o’r atmosffer mewn cydbwysedd â’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hallyrru. Mae angen i ni gyd weithio gyda’n gilydd i wireddu hyn – Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymunedau, busnesau, a phawb yng Nghymru. 

Yr hyn y gallwn ei wneud yw byw'n fwy cynaliadwy. Gallwn ddefnyddio llai ac ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu mwy; lleihau gwastraff bwyd; prynu dim ond beth sydd ei angen arnom; lleihau ein defnydd o ynni cartref; a mynd ar droed, ar olwyn neu ar feic. Os yw’n bosibl, gallwn hefyd siopa’n fwy cynaliadwy, gan wneud dewisiadau bwyd iachach a mwy cynaliadwy; addasu ein cartrefi ar gyfer gwell effeithlonrwydd ynni; a phan fydd angen newid ein car, dylem ystyried brynu car trydan.

Darganfyddwch y meysydd allweddol lle gallwn weithredu ar newid yn yr hinsawdd, a dod o hyd i atebion i'ch cwestiynau llosg gyda'r Cwestiynau Cyffredin diweddaraf am weithredu ar yr hinsawdd.

Dyma rai meysydd pwysig eraill sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael â newid hinsawdd:

Dyma rai o'r hwyluswyr pwysig ar gyfer gweithredu:

Pam bod angen gweithredu?

Newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf i ni, ein planed a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd trawsnewid ein ffordd o fyw nid yn unig yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ond hefyd yn dod â nifer o fanteision pwysig eraill: 

Health icon

Cymru iachach

Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar ein hiechyd – yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed – gyda gwres eithafol, oerfel, llifogydd a chlefydau. Bydd gweithio i leihau newid hinsawdd yn helpu i frwydro yn erbyn hyn, yn ogystal ag arwain at well ansawdd aer, ffyrdd iachach o deithio, cartrefi a gweithleoedd mwy cyfforddus ac effeithlon, a dietau gwell.

shield icon

Cymru gydnerth

Mae’r newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar ein heconomi, ein hamgylchedd naturiol, trefi a phentrefi ledled Cymru. Drwy weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, gallwn amddiffyn ein cartrefi, ein cymunedau a’n gweithleoedd rhag yr effeithiau rydym eisoes yn eu gweld yn sgil llifogydd a thywydd poeth.

family icon

Cymru decach

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y cymorth ynghylch gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn deg, yn gynhwysol, ac yn cael ei ysgogi gan yr egwyddor arweiniol o ‘adael neb ar ôl’.

Currency_icon

Cymru lewyrchus

Bydd y newid i ffordd fwy cynaliadwy o fyw yn helpu i greu swyddi newydd i ddarparu nwyddau a gwasanaethau carbon isel. Her bwysig i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw nodi lle y gallai swyddi gael eu colli yng Nghymru (er enghraifft ym maes cynhyrchu ynni ffosil a phuro) a chefnogi gweithwyr i fod yn rhan o weithlu â’r sgiliau gwyrdd newydd sydd eu hangen yn y dyfodol.

Beth mae Cymru yn ei wneud?

Yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo’n gyfreithiol (drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) i leihau ein hallyriadau carbon i sero net erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod targedau 10 mlynedd a chyllidebau carbon 5 mlynedd i bennu ein llwybr tuag at sero net. Ein cynllun presennol yw Cymru Sero Net. 

Mae’r cynllun yn cynnwys ein targedau allyriadau cyfredol yn y meysydd canlynol:  

  • Cynhyrchu trydan a gwres 

  • Trafnidiaeth

  • Cartrefi 

  • Diwydiant a busnes 

  • Amaethyddiaeth 

  • Defnydd tir

  • Rheoli gwastraff

     

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol