Dewisiadau teithio gwyrdd

Cyhoeddi yn gyntaf: 14/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mae ychydig mwy o gerdded, beicio neu olwynio ac ychydig llai o amser mewn ceir ac awyrennau yn ddewisiadau gwyrdd y gallwn eu gwneud i leihau ein heffaith ar y blaned

Trafnidiaeth yw’r sector trydydd mwyaf yng Nghymru o ran allyrru carbon. Mae’r Llywodraeth yn gweithio ar ffyrdd i leihau allyriadau carbon niweidiol pan fyddwn yn teithio drwy ei gwneud yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cyfleus i ni i gyd ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a symud o gwmpas mewn ffordd fwy llesol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cyfleus, a blaenoriaethu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Am gyngor a chymorth i'ch helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw ewch i llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw. I gael gwybodaeth am deithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus gweler TrC - Eich Cerdyn Teithio Rhatach

Hyd fideo:

31 eiliad

Gwyliwch ar Youtube

Beth allwn ni ei wneud?

Mae nifer o ddewisiadau teithio llesol a theithio ar y cyd ar gael i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Er mwyn gwneud ein teithiau yn wyrddach, gallwn:

Pam gweithredu?

Mae’r ffordd yr ydym yn teithio yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran amddiffyn y blaned. Bydd trafnidiaeth wyrddach yn helpu i leihau allyriadau carbon. Gwyddom nad yw’n hawdd i bawb adael y car ar ôl; os ydych yn byw yng nghefn gwlad, mae’n bosib na fydd gennych drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd, felly mae rhannu ceir yn nod mwy realistig. Mae llawer o resymau dros feddwl am deithio mewn ffordd wyrddach. Dyma rai ohonynt:

Arrow pointing down

Lleihau llygredd aer a sŵn

Mae lleihau nifer y ceir ar y ffyrdd yn lleihau llygredd aer a sŵn yn ogystal ag allyriadau carbon. Bydd hyn yn creu amgylchedd iachach i ni ac i genedlaethau’r dyfodol.

Currency_icon

Arbed arian

Gall cyfuno dulliau teithio cynaliadwy, megis trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol eich helpu i osgoi traffig yn ystod oriau brig ac arbed costau tanwydd, parcio a chynnal a chadw.

Health icon

Gwella’ch iechyd

Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd o gerdded, defnyddio sgwter, olwyno neu feicio helpu i wella eich iechyd corfforol a meddyliol. Yn ogystal â helpu i leihau'r risg o glefydau; rheoli cyflyrau presennol a'i gwneud hi'n haws cynnal pwysau iach, gall cynnwys teithio llesol yn eich trefn ddyddiol roi hwb i'ch hwyliau a lleihau lefelau gorbryder. Gallai cyfnewid y car am drafnidiaeth gyhoeddus pan fo'n bosibl hefyd eich helpu i ymlacio – gan leihau'r straen o yrru.

family icon

Cysylltu â phobl

Mae teithio ar y bws, neu’r trên, neu rannu car yn annog rhyngweithio cymdeithasol. Gall eich helpu i ddod i adnabod pobl a threulio amser gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Car icon

Gwella diogelwch ar y ffyrdd

Gall helpu pobl i deimlo'n fwy diogel wrth gerdded, beicio neu olwyno annog teithio llesol yn ein cymunedau. Gall gyrru'n arafach, rhoi blaenoriaeth i gerddwyr, beicwyr a marchogion ac osgoi parcio ar balmentydd i gyd wneud gwahaniaeth a hefyd lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd.

Beth mae Cymru’n ei wneud?

Mae Cymru am gynyddu cyfran y teithiau a wneir trwy ddulliau llesol 33% erbyn 2030 a’r gyfran ar drafnidiaeth gyhoeddus 7% erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Llywodraeth yn gwneud dulliau llesol o deithio yn ddiogel ac yn fwy hygyrch, gan annog pawb i ddewis dulliau amgen gwyrdd o deithio.  

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd camau i:   

  • Wella trafnidiaeth gyhoeddus  

    Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio i greu system drafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a fforddiadwy. Bydd y prosiectau Metro yng ngogledd a de Cymru yn creu rhwydwaith o fysiau, trenau a theithio llesol, felly bydd yn haws cysylltu a theithio mewn modd cynaliadwy. Ym mis Mawrth 2023 cyflwynwyd trenau cyntaf Metro De Cymru. 

  • Gwneud gorsafoedd rheilffyrdd yn wyrddach  

    Mae prosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru yn gwella’r amgylchedd naturiol mewn 25 gorsaf reilffordd yng Nghymru, gan greu gofodau gwyrdd a gwella bioamrywiaeth.  

  • Buddsoddi mewn teithio llesol 

    Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £75m yn 2021-22 mewn llwybrau a chyfleusterau teithio llesol i helpu awdurdodau lleol i greu rhwydwaith o lwybrau beicio a cherdded newydd a gwell yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys rhwydweithiau ardaloedd cyfan o draciau beicio gwell, mwy diogel – wedi’u gwahanu’n ffisegol oddi wrth draffig, gan gynnwys rhwydweithiau sy’n cysylltu pentrefi â threfi mewn ardaloedd gwledig. Mae hwn yn brosiect cyfredol, ac mae’r Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn teithio llesol i ddarparu llwybrau ychwanegol i gwmpasu hyd yn oed mwy o ardaloedd y wlad.  


    Mae awdurdodau lleol a chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill ledled Cymru hefyd yn cynnig cynlluniau llogi e-feiciau (fel y fenter ranbarthol hon) a benthyg e-feiciau (er enghraifft E-Symud ar gyfer rhai sy’n byw yn Aberystwyth, Rhyl, Y Barri, Abertawe, Y Drenewydd a’r ardaloedd cyfagos) 

  • Hyrwyddo’r rhwydwaith cymdeithasol go iawn  

    Nod y rhwydwaith cymdeithasol go iawn yw ysbrydoli pobl i deithio’n fwy cynaliadwy pan fyddant yn cwrdd â ffrindiau, yn teithio am resymau hamdden neu’n dychwelyd i’r gwaith.  

  • Cyflwyno bysiau trydan 

    Bellach gallwch ddefnyddio bysiau trydan ar gyfer llwybr T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Mae Bws Caerdydd wedi bod yn cyflwyno fflyd o fysiau trydan di-allyriadau i’n prifddinas sy’n golygu gwell ansawdd aer a ffyrdd tawelach.  

  • Moderneiddio gwasanaethau tacsi  

    Mae’r Llywodraeth yn gweithio ar wneud gwasanaethau tacsi yng Nghymru yn fwy diogel, yn wyrddach ac yn fwy teg.  

  • Cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar geir a faniau di-allyriadau 

    Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynlluniau i roi terfyn ar werthu ceir a faniau petrol a diesel newydd o 2030, ac i bob car a fan newydd fod yn ddi-allyriadau erbyn 2035. 

  • Buddsoddi mewn seilwaith gwefru ar gyfer cerbydau trydan 

    Mae’r seilwaith gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn cael ei ehangu i ganiatáu mynediad haws i bob un ohonom. Mae dros £20m eisoes wedi’i fuddsoddi mewn gwefru ar gyfer cerbydau trydan. 

  • Adolygu prosiectau ffyrdd 

    Fydd Llywodraeth Cymru ond yn buddsoddi mewn ffyrdd ar gyfer prosiectau sy’n lleihau allyriadau carbon, cefnogi newid i drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, gwella diogelwch a helpu ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd. 

  • Terfyn cyflymder 20mya  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder 20mya ledled Cymru ar ffyrdd mewn ardaloedd preswyl a strydoedd sy’n brysur â cherddwyr. Er bod hyn yn cael ei gyflwyno i greu cymunedau mwy diogel ac iachach, mae hefyd yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Un o’i nodau yw annog mwy o bobl i gerdded a beicio, er mwyn lleihau allyriadau carbon. 

  • Cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 

    Mae hyn yn nodi ffyrdd o wella ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru, a fydd yn helpu i leihau effaith allyriadau niweidiol ar ein hiechyd, economi, natur a bioamrywiaeth. 

  • Annog gweithio o bell  

    Anogir gweithio o bell neu weithio’n agos i gartref, lle bo hynny’n bosibl, er mwyn lleihau traffig.  

  • Lleihau allyriadau awyrennau 

    Mae Llywodraeth y DU yn dwyn ymlaen gynigion i gynyddu effeithlonrwydd tanwydd mewn awyrennau, datblygu awyrennau di-allyriadau a chyflymu’r cyflenwad a’r defnydd o danwydd awyrennau cynaliadwy.  

  • Annog teithio llesol i'r ysgol

    Darganfyddwch sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog teithio llesol i'r ysgol a darganfyddwch sut y gallwch chi gymryd rhan yn Rhaglen Teithio Llesol Ysgolion Sustrans.


Rhagor o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth ar fanteision trafnidiaeth werdd ac ar sut y gall helpu i leihau eich ôl troed carbon, archwiliwch yr adnoddau hyn.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol