Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Hedfan llai

Ychydig llai o hedfan ar gyfer busnes ac ychydig mwy o wyliau yn nes at adref yw un o’r ffyrdd gorau y gallwn leihau allyriadau carbon.

Mae allyriadau awyrennau yn ffynhonnell sylweddol o nwyon tŷ gwydr a llygryddion eraill sy’n effeithio ar yr hinsawdd. Y prif allyriadau yw carbon deuocsid (CO2) sy’n cael ei gynhyrchu trwy losgi tanwydd jet ac mae’n dibynnu ar y math o awyren, nifer y teithwyr ac effeithlonrwydd tanwydd. Mae sylweddau eraill, gan gynnwys tarth anwedd mwg gwacáu, huddygl ac ocsidau nitraidd, i gyd yn dal gwres ychwanegol ar uchder hedfan, hefyd. 

Plane wing

Beth allwn ni ei wneud?

Mae hedfan yn ffynhonnell sylweddol o nwyon tŷ gwydr gan gyfran gymharol fach o'r boblogaeth. Yn y DU, dim ond 15% o'r boblogaeth sy'n gyfrifol am 70% o'r holl hediadau

Er bod llawer ohonom yn dewis hedfan i ymweld â theulu a ffrindiau, mynd ar wyliau neu deithio ar gyfer busnes dramor, mae yna ffyrdd y gallwn leihau’r effaith pan fyddwn yn gwneud hynny, gan gadw allyriadau mor isel â phosibl. Dyma ychydig o bethau i roi cynnig arnynt:

Arrow pointing right

Ystyriwch ffyrdd eraill o deithio yn lle hediadau domestig neu deithiau byr

Gall taith fer gynhyrchu cyfartaledd uwch fesul cilomedr o ôl troed carbon oherwydd y swm enfawr o allyriadau a ryddheir yn ystod esgyn a glanio. Ystyriwch ffyrdd eraill o deithio yn y DU neu i gyrchfannau taith fer. Os yw’n bosibl gwneud eich taith ar fws neu drên, dylai fod yn llawer mwy cyfeillgar i’r hinsawdd na hedfan. Yn aml, gall hefyd fod yn rhatach ac yn gynt na theithio awyr ar gyfer pellteroedd byrrach, o ystyried yr amser y mae’n ei gymryd i gyrraedd y maes awyr, cofrestru, ciwio wrth y gwiriad diogelwch ac aros am fagiau ar ôl glanio.

Arrow pointing right

Ewch ar wyliau dinas ar y trên

Mae gwyliau mewn dinas ar y trên yn aml yn llawer mwy cyfleus na theithio awyr, gan fod llawer o drenau yn cysylltu’n uniongyrchol rhwng canol dinasoedd. Bachwch sedd ffenestr a chewch gyfle i weld pob cyrchfan rydych chi’n teithio drwyddi. Hefyd, mae’n haws codi a cherdded o gwmpas ar drên, a allai fod yn fwy cyfforddus i rai.
 

Arrow pointing right

Gwyliau yn nes at adref

Edrychwch ar wefan Croeso Cymru am ysbrydoliaeth ar wyliau a gwyliau teuluol yng Nghymru. Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru am arbedion a chynigion ar deithio ar reilffyrdd.

Arrow pointing right

Lleihau hedfan ar gyfer busnes

Mae gan fusnesau ran i’w chwarae hefyd, drwy leihau gofynion ar staff i hedfan. Gall blaenoriaethu galwadau cynhadledd neu fideo, caniatáu i staff gyfuno teithiau busnes â gwyliau, neu ganiatáu amser gwyliau ychwanegol iddynt https://www.climateperks.com/ i fynd ar y trên i gyd helpu gyda hyn.

Arrow pointing right

Gostwng eich ôl troed hedfan

Gostwng eich ôl troed hedfan
Pan fyddwn yn hedfan, gallwn olrhain allyriadau hedfan ac ymchwilio i weld pa gwmnïau hedfan sy’n defnyddio’r awyrennau diweddaraf sy’n bosib ar gyfer eich llwybr. Mae awyrennau mwy newydd fel arfer yn tueddu i fod yn fwy effeithlon na modelau hŷn ac yn cynhyrchu llai o allyriadau. Mae hefyd yn well archebu tocyn economi yn hytrach na mynd mewn dosbarth busnes neu ddosbarth cyntaf. Mae tocyn dosbarth cyntaf ar daith hir yn allyrru, ar gyfartaledd, bedair gwaith cymaint â sedd economi ar yr un awyren, oherwydd bod seddi drutach yn cymryd mwy o le a phwysau ar yr awyren. Bydd lleihau faint o fagiau rydych chi’n mynd gyda chi hefyd yn helpu, gan fod mwy o bwysau yn golygu llosgi mwy o danwydd. Gall hedfan heb aros helpu hefyd: po fwyaf o weithiau y bydd yr awyren yn cychwyn, y mwyaf o danwydd a ddefnyddir. 

Arrow pointing right

Deall cyfyngiadau gwrthbwyso carbon

Gallech ystyried gwneud yn iawn am allyriadau hedfan trwy brynu rhywbeth sy'n gwrthbwyso carbon. Fodd bynnag, mae'n anodd bod yn siŵr y bydd gwrthbwyso yn ‘amsugno’ allyriadau’r hediad yn barhaol. Mae coed, er enghraifft, angen blynyddoedd i dyfu digon i ailamsugno'r carbon o'r hediad, ac mae'n anodd gwarantu y byddant yn cael eu gadael i sefyll yn ddigon hir i wrthweithio'r allyriadau. Mae hefyd yn anodd gwybod a yw gwrthbwyso ar ffurf prosiectau ynni adnewyddadwy yn ychwanegol h.y. eu bod yn cefnogi prosiectau na fyddent wedi digwydd fel arall. 

Pam gweithredu?

family icon

Cefnogi economïau lleol:

Mae mynd ar wyliau yng Nghymru a'r DU yn cefnogi'r economi leol a busnesau annibynnol, gan helpu i greu swyddi a meithrin cymunedau bywiog. Mae hefyd yn ein helpu i greu cyfleoedd lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

terrain icon

Cyfle i weld mwy

Mae teithio ar y trên yn eich galluogi i gysylltu'n hawdd o ddinas i ddinas a gan fod gorsafoedd trên yn aml yng nghanol y dref mae'n eich galluogi i gyrraedd canol lleoliad yn hawdd ac yn gyflym ar ôl cyrraedd. 

Arrow pointing down

Lleihau eich effaith ar yr hinsawdd yn sylweddol

Hedfan yw'r math o drafnidiaeth sy'n cael yr effaith fwyaf ar yr hinsawdd. Gall un teithiwr sy'n teithio ar hediad domestig ym Mhrydain arwain at effeithiau hinsawdd sy'n cyfateb i 254g o CO2 am bob cilomedr y mae'n teithio, yn ôl Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU (BEIS). Mae'r un cyfrifiadau'n amcangyfrif y gall hediad pellter hir ryddhau'r hyn sy'n cyfateb i 102g o CO2 ar gyfer pob cilomedr – ffigur sy'n is ar gyfartaledd fesul cilomedr oherwydd y swm enfawr o allyriadau a ryddheir wrth  esgyn a glanio. Ond mae trên rhyng-ddinas yn rhyddhau'r hyn sy'n cyfateb i ddim ond 41g am bob milltir gan deithiwr, tra bod teithio ar fws yn rhyddhau hyd yn oed yn llai.  

Pam gweithredu?

  • Sero Jet: Mae penderfyniadau yn ymwneud â’r newidiadau sydd eu hangen i ostwng allyriadau carbon o’r diwydiant awyrennau yng ngofal Llywodraeth y DU (gan nad yw polisi awyrennau wedi’i ddatganoli). Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion i gynyddu effeithlonrwydd tanwydd mewn awyrennau, datblygu awyrennau allyriadau sero a chyflymu’r broses o gyflenwi a defnyddio tanwyddau hedfan cynaliadwy. Darllenwch fwy am strategaeth Sero Jet Llywodraeth y DU.

  • Datgarboneiddio Maes Awyr Caerdydd: Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar Faes Awyr Caerdydd ac mae’n ei gefnogi i gyflawni ei addewid i ddatgarboneiddio gweithrediadau tir, i hyrwyddo’r defnydd o danwydd hedfan cynaliadwy ac, yn y pen draw, technoleg hedfan dim allyriadau yng Nghymru.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol