Dewisiadau ynni gwyrdd

Cyhoeddi yn gyntaf: 04/05/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mae defnyddio ychydig mwy o ynni adnewyddadwy, megis ynni’r haul ac ynni gwynt, defnyddio pympiau gwres y ddaear a’r aer, a defnyddio ychydig llai o ynni yn y cartref, oll yn ddewisiadau gwyrdd y gallwn ni eu gwneud er mwyn lleihau allyriadau carbon niweidiol.

Mae defnyddio ychydig llai o ynni gartref ac ychydig mwy o gynllunio i wneud ein cartrefi yn fwy ynni effeithlon yn ddewisiadau gwyrdd y gallwn ni eu gwneud i leihau allyriadau carbon niweidiol.

Mae system ynni Cymru yn parhau i fod yn ddibynnol ar danwydd ffosil, sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Priodolir bron i chwarter y defnydd o ynni yng Nghymru i wresogi gofod a dŵr yn ein cartrefi. O'r galw hwn, mae 85% yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd trwy danwydd ffosil, gan wneud gwres domestig yn brif ffynhonnell allyriadau ledled y wlad (10%).

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i'n helpu ni i gyd i wneud dewisiadau ynni gwyrdd, nad yw'n dasg fach, gan fod gwres i gyfrif am tua 50% o gyfanswm y defnydd o ynni yng Nghymru ac mae ein cartrefi ymhlith yr hynaf a'r lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan trwy leihau a bod yn fwy effeithlon gyda'n defnydd o ynni gartref, sydd nid yn unig o fudd i'r amgylchedd ond a fydd yn ein helpu i ostwng biliau ein cartrefi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cyfleus, a blaenoriaethu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Am gyngor a chymorth i'ch helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw ewch i llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw, ac am gyngor diduedd am ddim i helpu i wneud eich cartref yn gynhesach ac yn fwy ynni-effeithlon, gweler https://nyth.llyw.cymru/cymorth

Hyd fideo:

31 eiliad

Gwyliwch ar Youtube

Beth allwn ni ei wneud?

Mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud er mwyn lleihau ein defnydd o ynni a lleihau ein hallyriadau carbon. Cliciwch ar y dolenni i ddysgu rhagor am sut y gallwch weithredu:

Pam gweithredu?

Mae defnyddio ynni yn fwy effeithlon yn ffordd wych o leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a lleihau ein costau cartref, gan helpu i:

Energy bolt icon

Lleihau biliau ynni:

Gall hyd yn oed y camau symlaf, megis diffodd goleuadau wrth adael ystafell, gostwng tymheredd eich thermostat a dad-blygio offer trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, helpu i leihau eich biliau ynni. Sicrhewch eich bod yn gwresogi’ch cartref yn ddigonol – mae gwres yn bwysig yn ystod y misoedd oer a gwlyb er mwyn osgoi lleithder a llwydni.

Arrow pointing down

Lleihau allyriadau carbon

Daw llawer o allyriadau carbon niweidiol Cymru o losgi tanwydd ffosil, megis olew a nwy, sydd ar hyn o bryd yn helpu llawer ohonom i gynhesu ein cartrefi. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu pobl ledled Cymru i newid i ynni gwyrdd yn ein cartrefi, ond gallwn ni gyd arbed arian a lleihau allyriadau carbon nawr trwy ddefnyddio llai o ynni. 

Currency_icon

Cynyddu gwerth eich cartref

Mae cartrefi sy’n effeithlon o ran ynni yn ddewis poblogaidd gyda phrynwyr tai a rhai darparwyr morgeisi, gan eu bod yn rhatach i fyw ynddynt ac yn fwy cynaliadwy. Os yw’r eiddo yn hen, gall hefyd gynyddu arwyddocâd a gwerth treftadaeth eich cartref.

family icon

Gwella eich iechyd a’n cymunedau

Bydd llai o allyriadau carbon niweidiol yn golygu aer glanach er budd ein llesiant corfforol a’n cymunedau.

Beth mae Cymru yn ei wneud?

Fe wnaeth cyfanswm yr allyriadau o’r sector cynhyrchu trydan a gwres ostwng 35% yng Nghymru rhwng 1990 a 2019. Roedd hyn yn bennaf yn sgil defnyddio llai o lo a mwy o ynni adnewyddadwy.  

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd?

Erbyn 2025 bydd oddeutu 148,000 o dai ledled Cymru yn derbyn mesurau ôl-osod i leihau colli gwres. 

Mae gan Gymru gartrefi o bob math a maint, a llawer ohonynt yn adeiladau hŷn. Mae gennym hefyd gyfran ychydig yn uwch o dai waliau cadarn o’i gymharu â gweddill y DU, sy’n golygu y gall ein tai fod yn ddrytach i’w hinswleiddio. Nid oes unrhyw ddull sy’n addas i bawb; mae angen gwerthuso pob eiddo yn unigol i ddod o hyd i’r ateb inswleiddio cywir. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar nifer o bolisïau er mwyn ein helpu ni i gyd i ôl-osod mesurau effeithlon o ran ynni yn ein cartrefi, gan ddechrau gyda thai cymdeithasol.  

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig help i insiwleiddio eich cartrefi trwy weithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol fel rhan o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a bod yn fwy effeithlon o'n defnydd o ynni.

  • Eisoes yng ngham tri a chydag ymrwymiad i wario £60m rhwng 2022 a 2023, mae wedi’i gynllunio i wneud tai cymdeithasol yn fwy effeithiol o ran ynni. Y nod yw gosod mesurau arbed ynni i leihau colli gwres mewn 148,000 o gartrefi ledled Cymru erbyn 2025.  

  • Mae Cynllun Cartrefi Clyd Nyth hefyd yn cynnig cyngor effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim ac yn cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim i aelwydydd sy’n pryderu am filiau ynni.  

  • Erbyn 2025 nod y Llywodraeth yw cynyddu cyfran y gwres trydan 3% er  mwyn lleihau’r defnydd o danwydd ffosil. Ei nod yn ogystal yw bodloni 100% o’i anghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. 

  • Erbyn 2025 bydd pob cartref fforddiadwy newydd yng Nghymru yn cael ei adeiladu i garbon sero-net, a’r uchelgais yw bod datblygwyr pob tŷ newydd yn mabwysiadu’r safonau hyn. 

  • Bydd datblygwr ynni newydd sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn adeiladu ffermydd gwynt ar gyfer cynhyrchu pŵer a fydd o fudd uniongyrchol i bobl Cymru.  

  • Mae'r Hwb Cymru Carbon Sero Net, a lansiwyd yn gynnar yn 2024, yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru fel asiantaeth i Gymru gyfan i helpu datblygwyr, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol preswyl i leihau effeithiau negyddol cartrefi, o ran adeiladu a gweithredu.

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad strategaeth Wres newydd i Gymru | LLYW.CYMRU, gan geisio barn y cyhoedd ar y dull o ddatblygu system wres datgarboneiddio, gan gynnwys cynhesrwydd fforddiadwy i gartrefi.   

Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi: 

  • Grwpiau cymunedol sy’n datblygu cwmnïau cydweithredol ynni adnewyddadwy drwy’r Gwasanaeth Ynni a chyda chyllid Banc Datblygu Cymru. Enghraifft o hyn yw fferm wynt Graig Fatha, sy’n cael ei rhedeg gan Ripple Energy. 

  • Datblygu Strategaethau Ynni Rhanbarthol a Chynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol manwl. 


Gwybodaeth Bellach

Am ragor o fanylion ynghylch yr hyn y mae’r llywodraeth yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau a lleihau allyriadau niweidiol, ynghyd â’r hyn y gallwch chi ei wneud, cliciwch ar un o’r dolenni isod. 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol