Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Effeithlonrwydd ynni

Gall arbed ychydig mwy o ynni a gwastraffu ychydig llai o ynni fynd yn bell os ydych chi am leihau eich biliau a lleihau faint o allyriadau carbon niweidiol sy’n dod o’ch cartref.

Bydd ychydig mwy o gynllunio i wneud ein cartrefi yn fwy ynni effeithlon yn helpu i leihau costau biliau a lleihau allyriadau carbon niweidiol.

Trwy ddeall faint o ynni y mae'ch cartref yn ei ddefnyddio nawr, gallwch weithio allan sut i ddefnyddio llai.

Cyn i chi fuddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni, ystyriwch y ffabrig neu'r deunyddiau y mae eich cartref wedi'u gwneud ohonynt, sut mae ynni yn cyrraedd eich cartref a'r ffordd y mae eich cartref yn cael ei gynhesu ac yn storio ynni. Bydd hyn yn eich helpu i wneud cynllun sy'n iawn ar gyfer eich cyllideb a'ch cartref. 

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon – o gamau gweithredu dyddiol syml, i ddewis offer ynni effeithlon, atal drafft ac inswleiddio.

Er y gall rhai mesurau olygu costau drud ymlaen llaw, gallant helpu i leihau eich biliau cyfleustodau dros amser a gallent hyd yn oed gynyddu gwerth eich eiddo. Edrychwch ar gynllun Cartrefi Clyd Nyth i weld a ydych yn gymwys i gael ffynonellau cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Beth allwn ni ei wneud?

Mae nifer o ddewisiadau i'w hystyried wrth geisio gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref, yn rhai mawr ac yn rhai bach. Dydy pawb ddim yn gallu gwneud popeth. Er enghraifft, dydy hi ddim mor hawdd inswleiddio os ydych chi yn denant neu’n byw mewn fflat. Ond, mae rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud, hyd yn oed dim ond cau'r llenni ym mhob ystafell gyda'r nos i leihau colli gwres trwy'r ffenestri. Dyma rai syniadau i'ch rhoi ar ben ffordd:

Arrow pointing right

Darllenwch ein hawgrymiadau arbed ynni

O droi'ch thermostat i lawr, gostwng gosodiadau ar reiddiaduron a sychu aer, mae'r wefan hon yn llawn awgrymiadau arbed ynni [link to ‘green energy actions’ page renamed as ‘energy saving tips’] i ddefnyddio llai o ynni ac arbed arian.

Arrow pointing right

Cynnal a chadw eich cartref

Gall archwiliad cynnal a chadw rheolaidd o'ch cartref atal problemau mwy difrifol, fel pydredd sych, a gallai arbed arian trwy atgyweirio, yn hytrach na newid nodweddion drud, fel ffenestri. Mae hyn yn helpu gydag effeithlonrwydd ynni hefyd – mae eiddo sych yn cymryd llawer llai o egni i'w wresogi nag un llaith.

Arrow pointing right

Gosod ffilm inswleiddio ar eich ffenestri

Mae ffilm ar gyfer ffenestri'n rhoi haen ychwanegol o inswleiddio i chi ac mae'n opsiwn gwych os na allwch fforddio gwydr dwbl. Mae'n hawdd ei ffitio ac yn cadw gwres i mewn yn ystod y misoedd oerach, yn ogystal â lleihau gwres o olau'r haul er mwyn cadw eich cartref yn oerach yn yr haf. Ychwanegwch lenni wedi'u leinio â deunydd thermol i gadw'ch cartref yn glyd yn y gaeaf.

Arrow pointing right

Ymchwiliwch i offer ynni effeithlon

Er mwyn lleihau gwastraff, ceisiwch wneud y gorau o bopeth rydych chi'n ei brynu, gan gynnwys offer. Does dim angen prynu eitemau trydanol newydd nes bod wir raid i chi wneud hynny, ond pan fyddwch chi'n gwneud hynny, po fwyaf effeithlon o ran ynni ydyn nhw, y mwyaf y byddan nhw'n lleihau'r defnydd o drydan ac yn helpu i ostwng eich biliau ynni. I gael help i ddeall effeithlonrwydd ynni offer, a beth i'w wneud â hen rai, darllenwch ganllaw syml Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Arrow pointing right

Os oes gennych silindr dŵr poeth yn eich cartref o hyd yna rhowch siaced inswleiddio arno.

Gallai inswleiddio silindr dŵr poeth sydd heb ei inswleiddio â siaced 8Omm o drwch arbed tua £230 a 690 kg o garbon deuocsid y flwyddyn.

Arrow pointing right

Tyfu coed

Os na allwch wneud newidiadau mawr y tu mewn, cymerwch gamau y tu allan trwy blannu coed a llwyni ger ffenestri ar gyfer cysgod naturiol yn yr haf. Gallai hyn leihau'r angen am ffaniau ac aerdymherwyr ar ddiwrnodau poeth. Cofiwch y gall pobl fregus ddioddef yn y gwres yn ogystal â'r oerfel, felly cadwch lygad arnyn nhw i sicrhau eu bod yn cadw'n gyfforddus mewn tywydd poeth.

Cyn i chi ystyried buddsoddiadau mwy sylweddol ar gyfer eich cartref, darganfyddwch ei effeithlonrwydd ynni cyffredinol, a'r gwelliannau y gallech chi eu gwneud i gynyddu ei sgôr ynni.

Dechreuwch drwy ddeall pa mor effeithlon o ran ynni yw'ch cartref:

Arrow pointing right

Darganfyddwch a oes gennych EPC

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) eich cartref yn dweud wrthych pa mor effeithlon o ran ynni yw eich cartref. Mae'n rhoi sgôr ynni i'ch eiddo o A (mwyaf effeithlon) i G (lleiaf effeithlon) ac mae'n ddilys am 10 mlynedd. Mae hefyd yn argymell gwelliannau i'ch cartref a allai gynyddu eich sgôr ynni. Mae angen EPC pryd bynnag y caiff eiddo ei adeiladu, ei werthu neu ei rentu.Edrychwch am eich un chi yma.  Os nad oes gennych EPC, oherwydd eich bod wedi byw yn eich eiddo ers amser maith, bydd cael un newydd yn costio rhwng tua £35 a £120 i chi. Fodd bynnag, mae EPCs yn cael eu cynhyrchu o feddalwedd safonol, felly dylid eu gweld fel man cychwyn. Os gallwch chi, siaradwch ag asesydd ynni cymwys a phrofiadol a all gynnig yr argymhellion cywir ar gyfer eich anghenion a'ch amgylchiadau.

Arrow pointing right

Siaradwch â'ch landlord

Os ydych yn rhentu'ch eiddo, gallwch weld eich EPC ar-lein o hyd. Efallai y bydd hyn yn rhestru ffyrdd o gynyddu sgôr ynni eich cartref, y gallwch ei roi i'ch landlord i ofyn a fyddan nhw'n gwneud gwelliannau. Os oes angen eu hargyhoeddi, gallech dynnu eu sylw at y ffaith y bydd hyn yn gwella ansawdd yr eiddo, yn helpu i amddiffyn rhag problemau fel lleithder ac y gallai gynyddu ei werth.

Unwaith y byddwch yn gwybod beth yw eich sgôr effeithlonrwydd ynni, y cam nesaf ydi gweld beth sy’n bosib ei wneud i’w gwella. Mae hyn yn dibynnu ar eich cyllideb a’r math o eiddo sydd gennych ac mae’n cynnwys camau gweithredu fel:

Arrow pointing right

Atal drafft

Mae atal drafft yw un o'r ffyrdd mwy fforddiadwy o leihau colli gwres ac mae'n helpu i atal aer oer rhag mynd i mewn i'ch cartref a gwres rhag dianc trwy fylchau o amgylch drysau a ffenestri. P'un ai eich bod yn defnyddio dulliau eich hun neu'n cyflogi gweithiwr proffesiynol, osgowch 'selio' eich cartref yn llwyr – mae digon o awyru yn helpu i atal lleithder, llwydni ac ansawdd aer gwael, a all niweidio'ch iechyd.

Arrow pointing right

Insulation

Gall inswleiddio eich to, atig, waliau, llawr a phibellau neu osod gwydr dwbl leihau colli gwres cartref. Darganfyddwch fwy am bob opsiwn ar Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. I ddod o hyd i osodwr dibynadwy yn eich ardal, dechreuwch ymchwilio i TrustMark – y cynllun a gymeradwywyd gan y Llywodraeth ar gyfer gwaith a wneir o amgylch eich cartref. 

Arrow pointing right

Systemau ynni adnewyddadwy

Mae systemau ynni adnewyddadwy, fel pympiau gwres a phaneli solar, ymhlith y buddsoddiadau mwy sylweddol y gallwch chi eu gwneud i leihau biliau tanwydd ac allyriadau carbon eich cartref. Ond byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr ac yn arbed arian i chi yn y tymor hir. Cysylltwch â chynllun Cartrefi Clyd Nyth i gael cyngor am ddim ar welliannau ynni cartref ac i ddarganfod a ydych yn gymwys i gael pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim.

Pam gweithredu?

Bydd deall faint o ynni y mae'ch cartref yn ei ddefnyddio nawr yn eich helpu i asesu'r hyn rydych chi'n ei wario ar ynni a'r hyn y gallwch chi ei wneud er mwyn gwario llai. Gall rhai o'r dewisiadau gwyrdd a wnawn o ran gwresogi a defnyddio ynni cartref gael effaith fawr ar leihau allyriadau carbon niweidiol. Mae buddion eraill hefyd:

Health icon

Cymryd mwy o reolaeth

Gall meddwl am effeithlonrwydd ynni, costau byw a sut i wneud gwelliannau i'ch cartref fod yn llethol. Mae deall defnydd ynni eich cartref yn ffordd syml o gymryd rheolaeth a deall eich dewisiadau.

buildings icon

Darganfod sut i arbed arian

Gallai EPC eich helpu i wybod mwy am effeithlonrwydd ynni eich cartref. Gallai gweithiwr proffesiynol cymwys a phrofiadol ddarparu argymhellion pwrpasol sydd wedi'u teilwra i'ch anghenion chi. Yna gallwch chi benderfynu beth ydi'r penderfyniadau sy’n addas i chi, a hynny o fewn eich cyllideb.

Arrow circle up

Cynyddu gwerth eich eiddo

Mae effeithlonrwydd ynni eiddo yn ystyriaeth allweddol i ddarpar brynwyr gan y bydd yn dangos iddyn nhw faint y bydd yn ei gostio i fyw yno os byddan nhw’n penderfynu prynu. Bydd hysbysebion tai yn cynnwys copi o'r Dystysgrif Perfformiad Ynni. Roedd astudiaeth gan Lywodraeth y DU yn dangos y gall gradd EPC dda gynyddu gwerth y cartref o hyd at 14%.

family icon

Lleihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon

Bydd cartref sydd wedi'i insiwleiddio'n dda yn helpu i leihau'r defnydd o ynni ac, yn ei dro, y defnydd o danwydd ffosil a chynhyrchu allyriadau carbon. Gall gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref, er enghraifft trwy well insiwleiddio, leihau eich ôl troed carbon hyd at 900 cilogram o CO2e y flwyddyn.

Cut Icon

Lleihau eich biliau oeri a gwresogi

Mae lleihau faint o ynni sydd ei angen i wresogi ein cartrefi’n arbed arian. Gall rhai atebion, fel inswleiddio, hefyd gadw cartrefi'n oerach yn ystod y misoedd cynhesach trwy gadw gwres allan. Byddai hynny'n lleihau'r angen am ffan neu ddull arall o awyru.

Arrow pointing down

Lleihau llygredd sŵn

Gall inswleiddio amsugno sain, gan greu amgylchedd tawelach i chi a'ch teulu. 

Water drop icon

Rheoli cyddwysiad

Mae inswleiddio ac awyru yn chwarae rhan wrth reoli cyddwysiad ac atal twf llwydni ar waliau a nenfydau. Ceisiwch gyngor proffesiynol i sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir yn gweddu i'r math o gartref rydych chi'n byw ynddo.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol