Adnoddau

Helpwch ni i ledaenu’r gair am newid hinsawdd a’r camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i fynd i’r afael ag ef. 

Ar y dudalen hon, rydym wedi casglu dolenni i fideos defnyddiol a deunydd ysgrifenedig i chi ei rannu gyda'ch rhwydweithiau, gan gefnogi'r alwad i bawb gymryd rhan. Yn ogystal, rydym wedi casglu cyfres o adroddiadau a chyhoeddiadau ar newid hinsawdd sydd i'w gweld ar wefan Wythnos Hinsawdd Cymru.  

Os oes gennych unrhyw ddeunydd addas yr hoffech i ni ei gynnwys ar y dudalen hon (neu ar wefan Wythnos Hinsawdd Cymru) yna e-bostiwch fanylion at newidhinsawdd@llyw.cymru.

Hinsawdd a Natur 

  • Gweithredu ar Hinsawdd Cymru ac asedau ymgyrchoedd amgylcheddol (Llywodraeth Cymru) 

    Lawrlwythwch a rhannwch asedau ymgyrch Gweithredu ar Hinsawdd Cymru, ac asedau ymgyrchoedd amgylcheddol cysylltiedig eraill. Mae rhagor o wybodaeth yma a gallwch gofrestru i gael mynediad yma 

  • Ffilm Gweledigaeth Hinsawdd (Llywodraeth Cymru) 

    Mae’r ffilm fer hon yn cyfleu'r weledigaeth ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach, decach.  

  • Ffilmiau Lleisiau Cymunedol (Llywodraeth Cymru) 

    Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad at gyfres o ffilmiau byr sy'n cyfleu barn pobl am newid hinsawdd, tegwch, busnes a gwaith, trafnidiaeth, pweru a gwresogi cartrefi, bwyta a rheoli gwastraff.  

  • Newid hinsawdd a ffeithlun iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) 

    Archwiliwch y ffeithlun Iechyd Cyhoeddus Cymru hwn sy'n tynnu sylw at effaith newid hinsawdd ar ein hiechyd a'n lles, a rôl natur wrth gefnogi ein hiechyd a'n lles.    

  • Deall Newid Hinsawdd (Earthrise) 

    Mae’r Breakdown yn gyfres 5 rhan fer sy'n archwilio'r argyfwng hinsawdd drwy edrych ar sut y cyrhaeddom ni yma, i ba gyfeiriad rydym yn mynd, a beth allwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth i gyflwr yr amgylchedd.   

  • Siarad â'ch plant am Newid Hinsawdd (Unicef) 

    Mae’n gallu bod yn anodd gwybod pa mor fanwl neu onest y dylech fod gyda phlant wrth drafod yr argyfwng hinsawdd. Yn ffodus, mae ffyrdd gobeithiol a phriodol yn ddatblygiadol o fynd i'r afael â'r drafodaeth, fel bod plant yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u grymuso. Mae UNICEF yn rhannu'r awgrymiadau defnyddiol hyn ar sut i drafod newid hinsawdd gyda phlant o bob oed.  

  • Adnoddau Addysg i blant, rhieni ac athrawon (Maint Cymru) 

    Mae Maint Cymru yn darparu adnoddau addysgol rhad ac am ddim sy'n cefnogi gwersi ar newid hinsawdd a choedwigoedd trofannol.  


Dewisiadau Ynni Gwyrdd ar gyfer y Cartref 

  • Awgrymiadau am arbed ynni yn y cartref (Ymddiriedolaeth Arbed Ynni) 

    Dilynwch awgrymiadau’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am ffyrdd cyflym a hawdd o arbed ynni, gostwng eich biliau a lleihau eich ôl troed carbon.  


Dewisiadau Trafnidiaeth Gwyrdd 

  • Ap teithio symudol (Trafnidiaeth Cymru) 

    Mae ap Trafnidiaeth Cymru yn eich helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac osgoi unrhyw oedi neu newidiadau.    

  • Taflenni teithio llesol rhad ac am ddim (Sustrans) 

    Gallwch gael taflenni teithio llesol a mapiau rhad ac am ddim gan Sustrans

  • Mapiau rhwydwaith teithio llesol (MapDataCymru) 

    Dod o hyd i lwybrau beicio a cherdded yng Nghymru gan ddefnyddio Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol.   

  • Map o bwyntiau gwefru cerbydau trydan (Trafnidiaeth Cymru) 

    Gweler Trafnidiaeth Cymru ar gyfer map o bwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru. 


Dewisiadau Bwyd Gwyrdd 

  • Canllaw ar fwyta deiet iach a chytbwys (Llywodraeth Cymru) 

    Lawrlwythwch y canllaw Bwyta'n Dda sy'n dangos y cyfrannau o wahanol fathau o fwydydd sydd eu hangen i gael diet cytbwys ac iach. 

  • Pecyn cymorth cynaliadwyedd bwyd (Llywodraeth Cymru) 

    Mynnwch awgrymiadau gwych ar sut i leihau eich gwastraff bwyd, pecynnu a defnydd ynni yn y gegin gyda'r pecyn cymorth bwyta cynaliadwy hwn. Dewch i ddarganfod ryseitiau 'dim gwastraff', yn ogystal â phrydau tymhorol blasus eraill gan yr eco-gogydd Tom Hunt, a ffyrdd o fwyta'n gynaliadwy ar gyllideb. Darllenwch neu lawrlwythwch y pecyn cymorth yma.    

  • Calendr tymhorol (Llywodraeth Cymru) 

    Edrychwch ar y Canllaw hawdd i'w defnyddio hwn i ddarganfod gwybodaeth am fwydydd tymhorol a phryd maen nhw ar gael.  Mae bwyta'n dymhorol yn golygu eich bod chi'n cael cynnyrch ar ei orau, pan fydd yn blasu ar ei orau, am y pris gorau, heb amharu ar y blaned. Defnyddiwch yr allwedd i adnabod bwyd tymhorol a phryd mae ar gael. 


Dewisiadau Dyddiol 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol