Dewisiadau dyddiol gwyrdd

Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Bydd ychydig mwy o arbed, ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu, ac ychydig llai o wastraffu yn gostwng faint o allyriadau carbon niweidiol sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer, sef prif sbardun newid hinsawdd.

Mae cynhyrchu cynhyrchion bob dydd yn gyfrifol am 45% o allyriadau byd-eang. Yma yng Nghymru, gall pawb weithio gyda’i gilydd i wneud rhywbeth ynglŷn â hyn – yn ogystal ag arbed arian.


Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cyfleus, a blaenoriaethu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Am gyngor a chymorth i'ch helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw ewch i llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw.

Hyd fideo:

31 eiliad

Gwyliwch ar Youtube

Beth allwn ni ei wneud?

Pam gweithredu?

Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gyrraedd ein targed o sicrhau bod Cymru’n genedl ddiwastraff erbyn 2050. Rydym eisoes yn arwain y byd o ran ailgylchu – gadewch inni fynd ymhellach. Trwy wneud dewisiadau gwyrdd bob dydd er mwyn lleihau’r hyn rydyn ni’n ei brynu’n newydd a’r hyn rydyn ni’n ei daflu, gallwn gyrraedd y nod. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i:

Currency_icon

Arbed arian

Mae cadw pethau gyhyd ag y bo modd, atgyweirio, prynu’n ail law, ail-bwrpasu a benthyca, bron bob tro, yn rhatach na phrynu’n newydd. Gallwch hefyd ennill arian trwy werthu eitemau diangen ar-lein neu mewn arwerthiant cist car.

diamond icon

Cael rhywbeth unigryw

Mae siopa’n ail law yn gyffrous am na wyddoch beth ddewch chi ar ei draws. Gallwch ail-bwrpasu neu greu rhywbeth hollol newydd hefyd.

family icon

Helpu pobl eraill

Mae cyfrannu i siopau elusen yn ffordd o gefnogi achos da yn ogystal ag osgoi taflu eitemau y gellir eu defnyddio eto – a byddwch yn helpu’r blaned hefyd.

tools icon

Dysgu sgiliau newydd

Awydd rhoi bywyd newydd i hen ddodrefnyn? Gallwch ei baentio neu ychwanegu ychydig o bapur wal addurniadol. Dysgwch sut i wnïo er mwyn trwsio eich dillad neu dysgwch sut mae pethau’n gweithio er mwyn gweld a allwch chi eu hatgyweirio. Mae yna fideos YouTube i ddysgu pob sgil dan haul – beth am chwilio i weld os oes rhywbeth yr hoffech ei ddysgu?

Arrow pointing down

Lleihau allyriadau carbon niweidiol

Mae cynhyrchu a chludo cynhyrchion newydd yn defnyddio ynni ac yn cyfrannu at allyriadau carbon. Mae prynu a thaflu llai yn golygu llai o sbwriel, sy’n helpu’r amgylchedd. 

Water drop icon

Arbed dŵr

Mae disgwyl y bydd gwres mawr a sychder yn rhan o newid hinsawdd, felly po fwyaf y dŵr a arbedwn, y mwyaf o ddŵr fydd gennym ar gyfer sefyllfaoedd tywydd eithafol, i ofalu am ein hiechyd a’r byd naturiol.

Forest icon

Gwarchod fforestydd glaw

Mae Cymru’n mewnforio symiau mawr o nwyddau, ac mae rhai ohonynt yn achosi difrod i fforestydd glaw a chynefinoedd anifeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys olew palmwydd a ddefnyddir mewn eitemau cyffredin a geir mewn archfarchnadoedd megis sebon neu gynnyrch cosmetig a rwber. Po leiaf y nwyddau rydym yn eu prynu, po leiaf sydd angen eu mewnforio a’r mwyaf y gallwn wneud ein rhan i warchod yr amgylchedd naturiol.

Beth mae Cymru’n ei wneud?

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gynlluniau ar waith i helpu pobl i wneud dewisiadau dyddiol gwyrdd a hyrwyddo ailgylchu. 

  • Hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio 

    Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghymru, gan gynnwys rhoi grantiau i awdurdodau lleol sydd wedi’u defnyddio i greu siopau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol trefi a chyfleusterau ailddefnyddio eraill mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref


    Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grantiau hefyd i gefnogi sefydliadau allweddol sy’n rhoi cyfleoedd i bobl fenthyca o Benthyg Cymru ac atgyweirio eu heitemau eu hunain gyda chymorth arbenigwyr lleol mewn Caffis Trwsio.   

  • Cynllun dychwelyd ernes  

    Mae adborth o ymgynghoriad ar y cyd â Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i gynllunio Cynllun Dychwelyd Ernes newydd ar gyfer cynwysyddion diodydd, a fydd yn golygu y byddwn yn talu blaendal bychan pan brynwn ddiod mewn cynhwysydd untro ond wrth ddychwelyd potel neu dun bydd hwnnw’n cael ei ad-dalu’n ôl i ni. 

  • Pecyn Caffael Cymdeithas Llywodraeth Leol 

    Mae Llywodraeth Cymru yn helpu awdurdodau lleol i gyflwyno cynaliadwyedd i bopeth a wnânt, yn enwedig o ran lleihau allyriadau o’r nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddiant.  

  • Ymgyrch Bydd Wych  

    Mae’r Ymgyrch Bydd Wych yn gofyn i bawb gwneud newidiadau bychan ond pwysig i’r ffordd y maent yn ailgylchu, gyda’r nod o fod ar frig rhestr y byd.  

  • Gwahardd plastigau untro 

    Cymru fydd cenedl gyntaf y DU i wahardd gwerthu cynhyrchion untro diangen i ddefnyddwyr. O hydref 2023, bydd gan awdurdodau lleol y pŵer i orfodi’r drosedd o gyflenwi neu gynnig cyflenwi eitemau sy’n cael eu taflu fel sbwriel cyffredin gan gynnwys cyllyll a ffyrc a chaeadau polystyren. 

  • Ailgylchu 

    Rydym yn arweinydd byd-eang o ran ailgylchu yn y cartref; cesglir gwastraff bwyd o bob cartref ac mae canolfannau ailgylchu yn esblygu’n eco-barciau modern i barhau’r defnydd o adnoddau.  


    Fe wnaeth WRAP Cymru adrodd ar ei wefan Fy Ailgylchu Cymru fod 403,000 o dunelli o allyriadau CO2 wedi’u hosgoi drwy ailgylchu yn 2019/20 – mae hynny’n cyfateb i 81,356 o geir petrol yn cael eu gyrru am flwyddyn. 


    Ar hyn o bryd, mae Cymru’n ailgylchu 65.2% o wastraff trefol, sef un o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd. Ond mae angen i ni wneud mwy dros yr amgylchedd drwy leihau faint o sbwriel yr ydym yn ei gynhyrchu. Erbyn 2025, nod y Llywodraeth yw lleihau gwastraff bwyd y gellir ei osgoi 50%, lleihau pob gwastraff 26% a chynyddu’r gyfradd ailgylchu 70%. Dysgwch ragor am sut y byddwn yn cyrraedd y targedau hyn.  

  • Gwella casglu gwastraff busnesau Cymru.
    Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle wahanu deunydd ailgylchadwy yn yr un ffordd ag y mae’r rhan fwyaf o dai yn gwneud. Bydd hyn yn gwella ansawdd a maint y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff. 

  • Gwahardd plastigau untro.
    Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i gymryd camau yn erbyn plastigau untro wedi i’r Senedd gymeradwyo deddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion untro, diangen – gan gynnwys cyllyll a ffyrc, caeadau polystyren, gwellt yfed a ffyn balŵns.  

  • Gwella ailgylchu deunydd pacio.
    Cyflwynodd Strategaeth Mwy nag Ailgylchu gynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo costau diwedd oes llawn eu deunydd pacio a chyrraedd targedau ailgylchu deunydd pacio Cymru. Bydd hyn yn cynnwys labelu i’w gwneud yn haws i bobl ddeall yr hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu.  

  • Cymorth ariannol gyda biliau dŵr 

    Fe wnaeth Dŵr Cymru fuddsoddi £12 miliwn yn 2022 i gefnogi ei gwsmeriaid mwyaf agored i niwed yn ystod yr argyfwng costau byw. Dysgwch ragor am sut y gall helpu drwy roi cymorth ariannol ac anariannol.  

  • Ffitiadau dŵr ac offer effeithlon o ran ynni 

    Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynllun labelu ar gyfer ffitiadau dŵr ac offer a allai leihau’r defnydd o ddŵr yn sylweddol dros 25 mlynedd trwy sicrhau bod cynhyrchion yn fwy effeithlon o ran dŵr. 

  • Cynlluniau clytiau golchadwy 

    Mae cynlluniau lleol yn cynnwys y North Wales Nappy Collective, sy’n cynnig cyngor a benthyca pecynnau clytiau golchadwy. Maent yn amcangyfrif eu bod wedi atal dros dair miliwn o glytiau a 26 miliwn o gynhyrchion mislif rhag mynd i safleoedd tirlenwi ers 2015. Dysgwch ragor am fanteision defnyddio clytiau golchadwy yma . 


Gwybodaeth bellach 

Er mwyn dysgu rhagor am y dewisiadau dyddiol y gallwch chi eu gwneud i leihau eich effaith ar yr amgylchedd ac arbed arian, cliciwch ar un o’r dolenni isod:

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol