Cyhoeddi yn gyntaf: 02/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Ailgylchu

Mae ychydig mwy o ailgylchu ac ychydig yn llai o sbwriel yn ffordd y gallwn ni i gyd gymryd camau yn erbyn newid hinsawdd a diogelu ein hamgylchedd.

Mae'r rhan fwyaf ohonom ni’n gwybod bod ailgylchu’n bwysig, ond mae angen i ni ddefnyddio llai o ddeunyddiau crai yn y lle cyntaf. Gallwn ni wneud hyn drwy leihau faint yr ydyn ni’n ei brynu’n newydd ac ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau gymaint ag sy’n bosibl. Trwy gadw pethau cyhyd ag y gallwn ni, rydyn ni’n helpu i leihau allyriadau carbon niweidiol a achosir gan weithgynhyrchu, dosbarthu a gwaredu nwyddau. 

Beth allwn ni ei wneud?

Dylai’r broses ailgylchu ddechrau wrth i ni feddwl am brynu rhywbeth yn y lle cyntaf. Dydy pawb ddim yn gallu gwneud popeth; gallwn ni i gyd ddim trwsio dillad ac mae’r pethau rydyn ni’n eu prynu yn aml yn dod mewn deunydd pacio, ond mae bob amser rhywbeth y gallwn ni ei wneud. Dyma ychydig o gamau i'w cymryd i geisio osgoi'r angen i ailgylchu cymaint:

Arrow pointing right

Cwtogi ar faint rydyn ni’n ei brynu’n newydd

Mae dim ond prynu’r hyn sydd ei angen arnom yn ffordd wych o osgoi a lleihau gwastraff. Gallwn ni hefyd ddefnyddio ein pŵer prynu i ddewis cynhyrchion sydd â llai o ddeunydd pacio, osgoi cynhyrchion untro, ailddefnyddio cynwysyddion bwyd ac ail-lenwi ein poteli dŵr yn hytrach na phrynu diodydd pan fyddwn ni allan. 

Arrow pointing right

Cadw ac ailbwrpasu

Gallwn gadw’r pethau sydd gennym gyhyd ag y bo modd neu droi’n greadigol a dod o hyd i ffyrdd amgen o’u defnyddio. Mae ailbwrpasu’n ffordd wych o greu rhywbeth newydd allan o gynhyrchion diangen neu hen.

Arrow pointing right

Rhentu neu fenthyca

Gallwch chi rentu neu fenthyca offer garddio a DIY, offer gwersylla a llawer mwy. Dysgwch fwy am yr hyn y gallwch ei fenthyca a sut gan Lyfrgell Pethau.

Arrow pointing right

Ailddefnyddio ac atgyweirio

Yr hiraf y byddwn yn dal i ddefnyddio pethau, po leiaf o adnoddau gwerthfawr yr ydyn ni’n eu defnyddio. Gallwn ni fynd â phethau i gael eu hatgyweirio (neu eu hatgyweirio ein hunain os oes gennym ni’r sgiliau), rhoddi pethau nad oes eu hangen arnom ni mwyach i siopau elusen, mynd â nhw i gyfleusterau ailddefnyddio neu eu gwerthu ar wefannau gwerthu ail-law. 

Os ydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau ac ailddefnyddio, mae'n bryd ailgylchu. Sut allwn ni wneud hyn yn well?

Arrow pointing right

Adnabod eich biniau

Beth sy'n mynd yn y bin ailgylchu gwyrdd? Dysgwch fwy am yr hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu – gellir ailgylchu poteli gwag persawr a phersawr ôl-eillio gartref er enghraifft ond nid gwydrau yfed eto.

Arrow pointing right

Cwtogi ar blastig untro

Ydych chi wedi ystyried a yw’n bosibl ailgylchu plastig untro? Mae’r ateb yn dibynnu ar y math o blastig a’r opsiynau ailgylchu sydd ar gael yn eich ardal chi. Mae pob cyngor yng Nghymru yn casglu poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig. Bydd angen mynd â mathau eraill o blastig i fannau ailgylchu y tu allan i'r cartref, darganfyddwch fwy yma.

Pam gweithredu?

Rydyn ni i gyd wedi gweithio gyda’n gilydd yng Nghymru i ailgylchu cymaint ag sy’n bosibl. Mae mwy y gallwn ni gyd ei wneud o hyd, i adeiladu ar yr hyn yr ydyn ni eisoes wedi'i gyflawni a chyrraedd sefyllfa ddiwastraff. Mae hyn yn golygu, oherwydd ailddefnyddio ac ailgylchu, nad oes fawr ddim yn cael ei gladdu na’i losgi. Gyda’n gilydd, gallwn:

Arrow pointing down

Leihau ein heffaith ar yr amgylchedd

Daw 45% o’n hallyriadau tŷ gwydr o’r cynhyrchion yr ydyn ni’n eu defnyddio a’u prynu. Y ffordd orau o atal hyn yw drwy leihau faint o sbwriel yr ydyn ni’n ei gynhyrchu drwy gwtogi ar faint yr ydyn ni’n ei brynu’n newydd, ailddefnyddio ac atgyweirio lle gallwn ni ac ailgylchu cymaint ag sy’n bosibl.

Currency_icon

Arbed arian

Gallwn arbed arian drwy gwtogi ar yr hyn yr ydyn ni’n ei brynu’n newydd a bod yn fwy effeithlon gyda’r hyn sydd gennym. Er enghraifft, atgyweirio neu ailbwrpasu eitemau yn hytrach na phrynu rhai newydd. Gallwn hefyd roi eitemau nad oes eu hangen arnom i helpu pobl sydd mewn angen. Mae ap rhannu lleol Olio yn fan gwych i gychwyn.

Energy bolt icon

Arbed ynni

Yn aml, mae angen llai o ynni i wneud cynhyrchion o ddeunyddiau eildro o’i gymharu â deunyddiau crai. Mae cynhyrchu alwminiwm newydd o hen gynhyrchion yn defnyddio 95% yn llai o ynni na dechrau o’r dechrau. Mae ailgylchu hefyd yn lleihau’r angen i echdynnu (mwyngloddio, chwarela a thorri coed), puro a phrosesu deunyddiau crai, sy’n lleihau allyriadau carbon.   

Forest icon

Gwarchod ein hadnoddau naturiol

Gallwn helpu i warchod yr hyn sy’n weddill o adnoddau naturiol ein planed. Er enghraifft, mae papur wedi’i ailgylchu yn arbed coed a choedwigoedd, sy’n helpu i warchod ein planhigion a’n bywyd gwyllt ac yn lleihau’r defnydd o ddŵr. Gallwn hefyd atal bygythiadau i fywyd gwyllt arfordirol drwy ddefnyddio llai o blastig untro lle bo hynny’n bosibl. 

compost icon

Creu ynni drwy wastraff bwyd

Defnyddir gwastraff bwyd anfwytadwy wedi'i ailgylchu i greu bio-nwy, sy'n ffynhonnell ynni, ac yn wrtaith naturiol.

Elusen ailgylchu yn arbed tunelli rhag mynd i safleoedd tirlenwi

Mae Wastesavers yn atal dros 1,000 tunnell o eitemau’r cartref rhag mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, wrth arbed cannoedd i deuluoedd.

Dewch i wybod mwy

Beth mae Cymru’n ei wneud?

Hyd fideo:

30 eiliadau

Gwyliwch ar Youtube

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol