Cyhoeddi yn gyntaf: 29/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Allyriadau carbon

Mae ein ffordd o fyw yn cael effaith ar y byd. Mae gyrru i'r swyddfa neu'r ysgol, gwresogi neu oeri ein cartrefi a phrynu cynhyrchion ynni-ddwys newydd yn creu allyriadau carbon. Mae'r rhain yn niweidiol oherwydd pan gânt eu rhyddhau i'r atmosffer, maen nhw’n dal gwres ac yn gwneud ein planed yn gynhesach. Mewn geiriau eraill, maen nhw’n achosi newid yn yr hinsawdd.  

Beth allwn ni ei wneud?

Mae angen i bawb – Llywodraeth Cymru, busnesau mawr a bach, diwydiannau fel amaethyddiaeth ac ynni, a ninnau – gydweithio i leihau allyriadau carbon yn sylweddol.  

Er mwyn lleihau ein hallyriadau carbon, mae angen i ni weithredu nawr, i wneud dewisiadau gwyrdd i ddiogelu'r amgylchedd a ninnau. Mae'r rhain yn cynnwys:

Arrow pointing right

Defnyddio ynni yn fwy effeithlon.

Bydd lleihau ein defnydd ynni nid yn unig yn ein helpu i arbed arian ond bydd hefyd yn lleihau ein hallyriadau carbon. Gallwch ddechrau gyda chamau syml fel golchi ar 30 gradd, lleihau tymheredd llif eich boeler neu wneud buddsoddiadau mwy os gallwch, fel newid i offer sy'n effeithlon o ran ynni a defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy fel pympiau gwres.

Arrow pointing right

Gwneud eich teithiau'n wyrddach

Trafnidiaeth yw'r trydydd sector allyrru carbon mwyaf yng Nghymru – sy'n golygu bod angen i bob un ohonom ddewis ffyrdd mwy egnïol a charbon is i deithio o gwmpas lle bo hynny'n bosibl. Lle y bo'n bosibl, beth am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach a gyrru llai? Ceisiwch gerdded i'r ysgol, rhannu teithiau car gyda'ch cydweithwyr neu, os gallwch chi, buddsoddi mewn e-feic neu gerbyd trydan i leihau’ch effaith ar yr amgylchedd.

Arrow pointing right

Gwneud dewisiadau dyddiol sy’n fwy gwyrdd

Prynwch dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch a siopa'n gynaliadwy i gefnogi busnesau lleol ac arbed arian. Er mwyn lleihau’ch effaith ar yr amgylchedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu mwy, arbed dŵr a gwastraffu llai – gan fod cynhyrchu cynhyrchion bob dydd yn gyfrifol am 45% o allyriadau byd-eang

Arrow pointing right

Gwneud dewisiadau bwyd cynaliadwy

Mae gwastraff bwyd yn cyfrannu 8-10% o'r holl allyriadau carbon, ond gallwn leihau hyn trwy ddim ond prynu'r bwyd sydd ei angen arnom, ei storio'n gywir, gan ddefnyddio unrhyw fwyd dros ben a chompostio. Gall dewis cynnyrch lleol a bwyta diet cytbwys hefyd leihau allyriadau carbon niweidiol o gludo a chynhyrchu bwyd.

Pam mae angen gweithredu?

Yn 2019, fe gyfrannodd Gymru 7.8% o gyfanswm allyriadau'r Deyrnas Unedig (DU) a 12.5% o allyriadau cynhyrchu trydan a gwres y DU. Mae’r effeithiau' hyn yn cynnwys: 

Forest icon

Newid hinsawdd

Allyriadau carbon yw prif achos newid yn yr hinsawdd. Pan fydd allyriadau niweidiol fel carbon deuocsid a methan yn cronni yn yr atmosffer, maen nhw’n dal gwres yr haul ac yn cynhesu'r tymheredd byd-eang cyfartalog sy'n achosi tywydd eithafol.

air icon

Llygredd aer a chlefydau anadlol

Mae allyriadau carbon o adeiladau, cynhesu ac oeri cartrefi, cynhyrchu pŵer, amaethyddiaeth a diwydiant yn llygru’r aer. Gall hyn fod yn niweidiol i'n hiechyd ac achosi problemau fel problemau anadlu.

buildings icon

Cymdeithas a'r economi

Gall newid yn yr hinsawdd arwain at ddigwyddiadau tywydd eithafol, fel sychder a thonnau gwres, llifogydd a chorwyntoedd, a all niweidio ein cartrefi, seilwaith a chynhyrchu bwyd. Bydd hyn yn effeithio ar ein heconomi, ein hiechyd, ein mynediad at ddŵr glân ac yn achosi prinder bwyd yn y dyfodol.

Water drop icon

Colli Bioamrywiaeth

Mae cyswllt anorfod rhwng hinsawdd ac argyfyngau natur. Ni ellir datrys y naill heb y llall. Mae gweithgarwch dynol yn achosi effeithiau negyddol uniongyrchol ar ein tir, aer, dŵr, pridd a bywyd gwyllt, sy’n cyfrannu tuag at golli bioamrywiaeth a newid hinsawdd.

family icon

Tegwch a chydraddoldeb

Mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom, ond nid yw'n effeithio arnom yn gyfartal. Os na fyddwn yn cymryd rhan mewn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, bydd y bwlch anghydraddoldeb yn tyfu ymhellach. Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd sicrhau bod unrhyw gamau a gymerwn yn deg i bawb, ac nad ydynt yn creu anghydraddoldeb pellach. Er enghraifft, nid yw pawb ar draws poblogaeth Cymru yn creu allyriadau carbon yn gyfartal. Mae'r rhai mewn cymdeithas sy'n fwy tueddol o gynhyrchu mwy o allyriadau carbon. Yn y cyfamser, mae'r tlotaf a'r mwyaf bregus – sydd fel arfer yn cynhyrchu llai – eisoes yn dioddef yn anghymesur o gyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd.

Beth mae Cymru yn ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i leihau allyriadau carbon. Mae'r cynlluniau sydd ar waith yn cynnwys:

  • Cymru Sero Net 

    Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynllun i ddod yn genedl sero-net erbyn 2050. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw allyriadau carbon a gynhyrchwn yn cael eu cydbwyso drwy leihau ac amsugno carbon, megis drwy ddulliau naturiol fel coed a mawndiroedd, fel nad ydynt yn achosi niwed i'r amgylchedd.  


    Er mwyn cyflawni'r nod hwn, bydd Cymru yn sicrhau bod ansawdd aer, lleihau allyriadau carbon, diogelu anifeiliaid a bywyd gwyllt a gofalu am ein hadnoddau naturiol yn flaenoriaeth.   

  • Arwain trwy esiampl 

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i gyflawni sero net fel sefydliad erbyn 2030. Yn ogystal â hyn, mae gan y sector cyhoeddus yng Nghymru uchelgais ar y cyd i fod yn sero net erbyn 2030 a lleihau allyriadau'n radical gan dros 780 o sefydliadau cyhoeddus i drawsnewid eu perthynas â natur.  

  • Ymgyrch Addewid 

    Mae'r Ymgyrch Addewid wedi derbyn dros 139 o Addewidion ar hyn o bryd gyda busnesau, y sector cyhoeddus, cymunedau a disgyblion ysgol yn gweithio gyda'i gilydd ar gyfer dyfodol gwyrddach a thecach i Gymru.   

  • Buddsoddi mewn arloesi  

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth sy'n amlinellu sut y bydd arloesedd yn cael ei ddefnyddio i wella bywydau pobl yng Nghymru.  

  • Creu sgiliau gwyrdd a chyfleoedd gyrfa 

    Mae cynllun gweithredu sgiliau sero net yn nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sgiliau sydd eu hangen arnom wrth i ni symud tuag at ein dyfodol sero-net.  

Rhagor o wybodaeth

  • Gweithredu ar yr Hinsawdd Cymru – strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd - mae’r Strategaeth hon yn cynnig egwyddorion canllaw a fframwaith ar gyfer Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i weithio gyda’i gilydd i helpu i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy hwylus ac yn fwy fforddiadwy i bawb yng Nghymru.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol