Cymerwch Rhan

Does dim posibl cyflawni’r newid enfawr sydd ei angen er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd heb agor y drafodaeth. 

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn unigryw i Gymru ac mae’n gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i gynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth wrth wneud penderfyniadau.  

Dyma pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi digon o gyfle i bawb yng Nghymru gael clywed eu lleisiau ar ddatrysiadau er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd; i fod yn weithredwyr (ac nid yn wrthrychau) newid; ac i deimlo bod polisïau hinsawdd y Llywodraeth yn deg, yn gyfiawn ac yn debygol o fod yn effeithiol.  Mae lleisiau'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd yn arbennig o bwysig - o bobl ifanc, i grwpiau lleiafrifoedd ethnig, unigolion bregus a phobl hŷn ymhlith eraill.  

Dysgwch fwy yn Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd Gweithredu Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru.

Cymerwch ran mewn gweithgarwch cenedlaethol 

  • Mynychwch Wythnos Hinsawdd Cymru - Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dod â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus, diwydiant a busnesau, grwpiau amgylcheddol, sefydliadau academaidd, elusennau, rhwydweithiau trydydd sector a grwpiau cymunedol, a phobl o bob cefndir ledled Cymru – ynghyd i rannu arfer gorau ac ystyried atebion ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd. Y canolbwynt yw cynhadledd rithwir 5 diwrnod (a gynhelir i gyd-redeg ag uwchgynhadledd fyd-eang Cynhadledd y Partïon (COP)). Mae'n rhad ac am ddim i fynychu ac mae'n agored i unrhyw un sy'n dymuno ymuno yn y sgwrs. Gallwch wylio recordiadau o sesiynau Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yma 

  • Ymunwch â Sgyrsiau am yr Hinsawdd – I gyd-redeg ag Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, agorodd Llywodraeth Cymru gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb mewn cynnal gweithdai gyda chymunedau lleol ac aelodau’r cyhoedd ledled Cymru. Nod y gweithdai hyn oedd archwilio modd teg o fynd i’r afael â newid hinsawdd. I ddysgu am ddigwyddiadau Sgyrsiau am yr Hinsawdd sy’n digwydd yn eich ardal chi, ewch i: Sgyrsiau am yr Hinsawdd | Wythnos Hinsawdd Cymru (llyw.cymru)

  • Tanysgrifiwch i Fwletin Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru – Byddwch yn derbyn diweddariadau a’r newyddion am bolisïau, digwyddiadau ac ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru drwy danysgrifio i’r Bwletin Newid Hinsawdd

  • Gwnewch Adduned – Ymunwch â rhwydwaith cynyddol o bobl, aelwydydd, ysgolion, cymunedau a busnesau yng Nghymru a gwnewch adduned bersonol i gymryd camau ar newid hinsawdd. Dysgwch fwy yn https://www.smartsurvey.co.uk/s/rx0po/?lang=434121

  • Ymatebwch i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru – Gwnewch yn siŵr fod eich barn yn cael ei chlywed ar bolisïau newydd Llywodraeth Cymru, neu’r rhai sy’n newid, drwy ymateb i ymgynghoriadau ar bynciau amgylcheddol. Mae adrannau'r Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion hyn cyn gwneud penderfyniadau.  

  • Cadwch olwg am sgyrsiau ar Natur – Trefnodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sgwrs genedlaethol Natur a Ni er mwyn cynnwys pawb yng Nghymru mewn trafodaeth agored a gonest am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol. Cadwch olwg am wybodaeth ar y dudalen hon am ddigwyddiadau yn y dyfodol er mwyn dweud eich dweud ar warchod natur a diogelu bioamrywiaeth yng Nghymru.  

  • Ymunwch â’r rhaglen Eco-Sgolion – Mae’r rhaglen Eco-Sgolion yn fenter ryngwladol sydd wedi’i dylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach. Cadwch Gymru’n Daclus sy’n gweinyddu Eco-Sgolion yng Nghymru ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru.


Cymerwch ran mewn gweithredu hinsawdd rhanbarthol a lleol 

  • Cynulliadau hinsawdd rhanbarthol – Cadwch olwg yma am wybodaeth am gynulliadau hinsawdd a gynhelir yn y dyfodol yn ardal eich awdurdod lleol. Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd mewn cynulliad hinsawdd drwy ddarllen am Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent a oedd yn un o’r cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru. 

  • Adnoddau dysgu ar sut i greu Ymarfer y Bobl ar yr Hinsawdd – Mae Academi Wales wedi creu canllawiau defnyddiol ar sut i greu ymarfer y bobl i gynyddu gweithredu lleol ymarferol ar newid hinsawdd. 

  • Rhwydweithiau a digwyddiadau lleol – Cadwch lygad ar y dudalen hon am ddolenni i rwydweithiau a digwyddiadau hinsawdd a natur (i'w cyhoeddi’n fuan). Os hoffech i fanylion eich rhwydwaith hinsawdd neu’ch digwyddiad hinsawdd lleol gael eu cynnwys ar y dudalen hon, yna anfonwch y manylion trwy e-bost at newidhinsawdd@llyw.cymru.  


Dyma ychydig o enghreifftiau o sefydliadau sy'n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau hinsawdd yng Nghymru

  • Rhwydwaith Climate Cymru 
    Mae Climate Cymru yn fudiad hinsawdd sy’n cynnwys dros 15,000 o bobl o bob rhan o Gymru. Maen nhw’n rhannu’r awydd i weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Ychwanegwch eich llais yn Climate.Cymru.  

  • Digwyddiadau Synnwyr Bwyd Cymru  
    Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, y rhai sy’n llunio polisi a’r Llywodraeth ledled Cymru i greu system fwyd a ffermio sy'n dda i bobl ac yn dda i'r blaned. Gweler y digwyddiadau diweddaraf sy'n ymwneud â chynhyrchu bwyd a bwyta yma.   

  • Gweithgarwch lleol Cyfeillion y Ddaear 
    Mae grwpiau gweithredu lleol Cyfeillion y Ddaear yn rhan o'r rhwydwaith ymgyrchu amgylcheddol llawr gwlad mwyaf yn y DU ac maen nhw’n cynnwys pobl yn union fel chi. Darganfyddwch yr hyn sy’n digwydd yn agos atoch chi 

  • Gwirfoddoli i Sustrans 
    Codwch arian ar gyfer Sustrans, cymerwch ran mewn digwyddiad her seiclo neu trefnwch un eich hun.   

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol