Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Defnyddiwch lai o ddŵr

Mae arbed ychydig mwy o ddŵr ac ychydig llai o wastraff yn ein helpu ni i gyd i warchod adnoddau gwerthfawr ein planed – ac mae’n gallu arbed arian i ni ar filiau dŵr ac ynni.

Gall tywydd eithafol a achosir gan newid hinsawdd arwain at brinder dŵr i natur ac i ni. Felly mae angen i ni arbed dŵr a newid y ffordd yr ydym yn ei ddefnyddio gartref er mwyn sicrhau y bydd digon ar gael i ni a chenedlaethau’r dyfodol. Mae trin dŵr gwastraff domestig gan gwmnïau dŵr (i drin a phwmpio dŵr ar gyfer ein haelwydydd) yn cyfrif am 8% o allyriadau'r sector gwastraff yng Nghymru. Os defnyddiwn ni lai, gallwn helpu i ostwng hyn. 

Beth allwn ni ei wneud?

Ar gyfartaledd, mae pob aelwyd yn y DU yn defnyddio 345 litr o ddŵr bob dydd

Ceir nifer o ffyrdd hawdd a diogel o leihau eich defnydd o ddŵr yn y cartref a allai arbed arian ar eich biliau ynni. Ni allwn ni gyd wneud popeth – er enghraifft os ydych yn rhentu eich cartref, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu gosod mesurydd dŵr – ond mae bob amser newidiadau llai y gellir eu gwneud. Dyma ychydig o syniadau ar gyfer defnyddio dŵr yn ddoethach: 

Arrow pointing right

Cymerwch gawodydd byrrach

Mae cymryd cawod 10 munud bob dydd yn defnyddio'r un faint o ddŵr â dros 100,000 o wydrau o ddŵr yfed bob blwyddyn. Lle bynnag bo modd, gall cyfyngu eich defnydd o’r gawod i lai na phedair munud arbed hyd at £95 y flwyddyn ar eich biliau ynni. A chofiwch ddiffodd y dŵr wrth i chi ddefnyddio’r siampŵ.

Arrow pointing right

Defnyddiwch eich peiriant golchi yn ddoeth

Newidiwch i offer sy’n effeithlon o ran ynni os gallwch, a sicrhewch fod eich peiriant golchi a’ch peiriant golchi llestri yn llawn cyn dechrau i wneud y mwyaf o arbed dŵr. Defnyddiwch osodiadau eco lle bo modd – mae hyn yn defnyddio tymheredd golchi a rinsio is, felly mae angen llai o ynni i gynhesu’r dŵr. Sychwch eich golch yn yr awyr agored yn hytrach na ddefnyddio peiriant sychu, i arbed ynni  - bydd yn helpu i leihau eich bil trydan yn ogystal. 

Arrow pointing right

Diffoddwch eich tapiau

Sicrhewch eich bod yn diffodd eich tapiau pan na fyddwch yn eu defnyddio, er enghraifft wrth frwsio’ch dannedd. Mae hon yn ffordd hawdd o ddysgu'ch plant am arbed dŵr hefyd; dysgwch iddynt yr arfer o ddiffodd y tap wrth frwsio. Os ydych yn golchi llestri yn y sinc, ceisiwch ei lenwi â dŵr sebonllyd yn hytrach na gadael i’r dŵr redeg.

Arrow pointing right

Gosodwch ddyfeisiau arbed dŵr

Mae sawl ffordd o uwchraddio eich cartref ac arbed dŵr, ynni ac arian, megis defnyddio pen cawod sy’n arbed dŵr, plygiau cyffredinol ac awyryddion tapiau’r gegin. Dysgwch fwy am gynhyrchion arbed dŵr a all eich helpu i leihau’r defnydd o ddŵr yn y cartref.

Arrow pointing right

Buddsoddwch mewn toiled fflysio deuol

Bydd hyn yn eich helpu i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio wrth fflysio a gallai eich helpu i arbed hyd at 12,500 litr y flwyddyn – sy’n cyfateb i 150 bath safonol.

Arrow pointing right

Newidiwch i fesurydd dŵr

Gall mesuryddion dŵr eich helpu i ddeall faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio a gwneud newidiadau i leihau gwastraff dŵr ac arbed arian. Rhowch gynnig ar y cyfrifiannell mesurydd dŵr hwn i wirio eich arbedion posibl.

Arrow pointing right

Dewiswch y planhigion cywir

Dyfriwch eich planhigion yn y bore neu gyda’r nos i leihau anweddu – gan ddefnyddio can dŵr. Os oes gennych ardd, rhowch gynnig ar seri-lunio – dull tirlunio sy’n gofyn am blanhigion isel eu defnydd o ddŵr ac sy’n helpu i arbed dŵr.

Arrow pointing right

Bwytwch fwy o lysiau

Mae angen llawer iawn o ddŵr i gynhyrchu rhai bwydydd cyffredin, megis cig. Yn gyffredinol, mae llysiau’n defnyddio llai o ddŵr.

Arrow pointing right

Casglwch ddŵr glaw

Mae casgen ddŵr yn gasgen fawr i ddal dŵr glaw. Gallwch ddefnyddio’r dŵr hwn ar eich planhigion, a byddwch yn elwa’n ogystal o leihau eich defnydd o ddŵr a hyd yn oed arbed arian ar eich biliau dŵr o bosib. Dysgwch fwy am gasglu, storio a defnyddio dŵr glaw.

Pam mae angen gweithredu?

Mae ein defnydd o ddŵr wedi treblu dros y 50 mlynedd diwethaf – tra bod sychder, cynnydd mewn tymheredd a thonnau gwres yn dod yn fwyfwy cyffredin yng Nghymru. Er mwyn sicrhau y bydd digon o gyflenwad dŵr i genedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni wneud ychydig o newidiadau. Bydd lleihau’r defnydd o ddŵr yn ein helpu i:

Energy bolt icon

Arbed ynni

Mae cynhyrchu, trin a dosbarthu dŵr yn brosesau sy'n defnyddio llawer iawn o ynni ac yn cyfrannu at allyriadau carbon ein cartrefi. Gall defnyddio llai o ddŵr helpu i leihau ein defnydd o ynni i leihau effaith newid hinsawdd. 

Currency_icon

Arbed arian

Bydd defnyddio llai o ddŵr nid yn unig yn eich helpu i achub y blaned ond bydd hefyd yn lleihau eich biliau dŵr - yn enwedig o ystyried mai £405 yw’r bil cyfartalog dŵr a charthffosiaeth ar gyfer cartrefi yn y DU sydd â mesuryddion. Gallai sychder amaethyddol hefyd gael effaith niweidiol ar faint o gnydau a gynhyrchir, a fyddai yn ei dro yn effeithio ar gost bwyd.

Arrow pointing down

Lleihau ein hôl troed carbon

Daw tua 6% of allyriadau carbon y DU o ddefnyddio dŵr poeth. Er mwyn lleihau ein hallyriadau carbon yn ogystal â’n defnydd ynni a’n biliau, mae angen i ni ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon.

Forest icon

Gwarchod adnoddau naturiol

Dim ond llai na 1% o gyflenwad dŵr y ddaear y gallwn ei ddefnyddio’n ddŵr yfed. Mae gwarchod adnoddau dŵr croyw prin ein planed yn golygu y gallwn sicrhau cyflenwad dŵr glân a diogel i bawb.

Water drop icon

Hyrwyddo iechyd ecosystemau

Mae angen lefelau digonol o ddŵr ar lawer o famaliaid dyfrol i oroesi mewn llynnoedd, afonydd a gwlyptiroedd. Mae'n hanfodol bod yn ystyriol o'n defnydd o ddŵr er mwyn cynnal ecosystem gytbwys.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol