Cyhoeddi yn gyntaf: 23/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Diogelu’r amgylchedd

Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd a gweithredu i ddiogelu ein hamgylchedd a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae llygredd i'n haer, tir a dŵr yn niweidiol i'n hiechyd ac i'r amgylchedd, a gall synau a seiniau hefyd effeithio ar ein llesiant corfforol a meddyliol. Mae llygredd yn cael ei achosi gan bethau fel allyriadau niweidiol o gerbydau petrol a diesel, llosgi tanwydd ffosil (fel glo a nwy), carthffosiaeth a chemegau yn ein dŵr, a sbwriel a gwastraff ar ein tir ac yn ein moroedd. Gall arwain at salwch, fel clefydau anadlol, lleihau faint o ddŵr glân y gellir ei yfed sydd ar gael, a niweidio anifeiliaid a phlanhigion. Mae amgylchedd glanach yn iachach, yn fwy diogel ac yn gwella ein lles.

Beth allwn ei wneud? 

Mae ansawdd ein hamgylchedd lleol yn effeithio ar ein ffordd o fyw, ble rydym yn gweithio a sut rydym yn mwynhau ein hamser hamdden. Mae cysylltu â byd natur hefyd yn bwysig i'n hiechyd meddwl. Mae angen i ni ddysgu sut i barchu natur, i'w ddiogelu, i atgyweirio difrod a gwneud ein rhan i helpu i leihau effaith newid hinsawdd. Sut allwn ni i gyd wneud hyn yn well?   

Arrow pointing right

Cael gwared ar nwyddau’r cartref yn gyfrifol

Fel deiliaid tai, mae gennym ddyletswydd gofal gwastraff. Mae hyn yn golygu mai dim ond i rywun sydd wedi'i awdurdodi i'w dderbyn y gallwn ni drosglwyddo gwastraff. Yn ogystal â'n gwastraff wythnosol arferol, mae gwastraff cartref hefyd yn cynnwys dodrefn, eitemau trydanol, gwastraff adeiladu a gwastraff gwyrdd. Trwy sicrhau bod popeth rydych chi'n ei waredu yn cael ei drin yn ddiogel a'i drosglwyddo i bobl sydd wedi'u hawdurdodi i'w dderbyn yn unig, gallwn ni ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl. Gwiriwch bob amser ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bod y person rydych yn ei ddefnyddio i fynd â’ch gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig

Arrow pointing right

Peidio â thaflu sbwriel

Mae gollwng sbwriel neu dipio anghyfreithlon yn anghyfreithlon a gall niweidio pobl, bywyd gwyllt ac anifeiliaid anwes a all ddod i gysylltiad â chemegau gwenwynig neu wrthrychau miniog. Yn ogystal â gwneud i ni deimlo'n anhapus am y lleoedd rydyn ni'n byw neu'n ymweld â nhw, mae hefyd yn costio arian i glirio sbwriel y gellid ei wario'n well er mwy gwella amgylcheddau lleol. Lle y bo'n bosibl, mae'n well ailddefnyddio, cyfrannu ac ailgylchu eitemau diangen i gadw deunyddiau mewn defnydd a lleihau gwastraff. Gweler gwefan Cadwch Gymru'n Daclusam syniadau ar sut i helpu i gadw'ch ardal leol yn lân, a darllen Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Llywodraeth Cymru i ddysgu am gamau sy'n cael eu cymryd i helpu i leihau gwaredu eitemau gwastraff yn amhriodol ac yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Arrow pointing right

Defnyddio llai o becynnu plastig

Mae gweithgynhyrchu plastig lle mae’n bosib ei ddefnyddio unwaith yn unig yn cynhyrchu allyriadau niweidiol. Yn aml nid yw'n pydru os bydd yn gwneud hynny, gall gymryd amser maith a phydru'n ficro-blastigau sy'n niweidio pridd, dyfrffyrdd a hyd yn oed yr aer. Mae pecynnu plastig wedi’i daflu fel sbwriel hefyd yn llygru ein moroedd.

Arrow pointing right

Dewis cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na’r rhai y gallwch eu defnyddio unwaith yn unig

Bydd Cymru yn cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2025. Mae hyn yn dilyn deddfwriaeth i wahardd nifer o blastigau untro. Gallwn hefyd chwarae ein rhan trwy gario bagiau siopa y gellir eu hailddefnyddio, yfed coffi o gwpan y gellir ei hailddefnyddio, osgoi dŵr potel, prynu dillad wedi'u gwneud o ffibrau naturiol, mynd â chyllyll a ffyrc y gellir eu hailddefnyddio gyda ni a phacio ein cynwysyddion bwyd ein hunain.

Arrow pointing right

Bod yn berchennog ci cyfrifol

Mae baw cŵn yn cario bygiau niweidiol a all arwain at haint, asthma a hyd yn oed dallineb, a gall y bacteria fyw mewn pridd ymhell ar ôl i'r baw cŵn ddadelfennu. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus. Mae codi baw ci yn hawdd, a gellir ei roi mewn biniau penodol i faw cŵn neu gellir cael gwared ar faw cŵn mewn biniau sbwriel cyffredinol hefyd. Os nad oes bin gerllaw, ewch ag ef gyda chi i gael gwared arno gartref. Gweler Cadwch Gymru'n Daclus am ragor o wybodaeth.

Arrow pointing right

Gofalu am eich gardd yn naturiol

I'r rhai ohonom sydd â gerddi, gallwn ofalu amdanyn nhw'n fwy naturiol trwy dorri'r lawnt yn llai aml a gadael toriadau glaswellt ar y lawnt unwaith y bydd y gwaith wedi'i wneud. Mae hyn yn caniatáu dadelfennu naturiol, sy'n ffynhonnell dda o nitrogen, sydd ei angen ar lawntiau. Gall osgoi plaladdwyr gwenwynig a chwynladdwyr hefyd eich helpu i greu lle cyfeillgar i fywyd gwyllt – gweler gwefan RSPB am awgrymiadau ar reoli plâu heb ddefnyddio cemegion.

Arrow pointing right

Diogelu dŵr

Ceisiwch ddefnyddio eitemau cosmetig, cynhyrchion glanhau a garddio nad ydyn nhw’n cynnwys cemegau sy'n niweidio ein hamgylchedd. Lleihewch nifer y cynhyrchion sydd gennych yn yr ystafell ymolchi, defnyddiwch sebon yn lle hylif golchi dwylo a gwahanol fathau o hylif sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio yn y gawod. Beth am fynd ati hefyd i wneud eich glanhawyr cartref eich hun gyda chynhwysion naturiol. Defnyddiwch lai o ddŵr, er enghraifft trwy gyfyngu cawodydd i bedwar munud lle bo modd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar gemegau a meddyginiaethau cartref yn briodol.

Arrow pointing right

Diogelu systemau carthffosiaeth

Dim ond gwastraff dynol naturiol a phapur toiled y dylech ei fflysio neu ei ddraenio i helpu i atal rhwystrau, llifogydd carthffosydd a llygredd. Taflwch bob math o wipes (gall hyd yn oed y rhai sy’n dweud y gellir eu fflysio achosi rhwystrau), eitemau glanweithiol, ffyn cotwm a chewynnau yn y bin. Yn y gegin, sychwch sosbenni ac eitemau seimllyd eraill gyda phapur cegin cyn eu golchi a rhowch y papur cegin yn y bin. Arllwyswch olew coginio oer nad yw'n cael ei ddefnyddio i gynhwysydd i'w waredu, neu mae modd ei ailgylchu os ydy eich awdurdod lleol yn caniatáu hynny. Crafwch fwyd i’r bin ac nid y sinc.

Arrow pointing right

Lleihau cemegau yn yr aer.

Mae cemegau fel  Amrywiolion sy’n Peri Pryder (VOCs) a rhai atalyddion fflam yn effeithio ar ansawdd aer dan do, a’n hiechyd ein hunain a’n teulu. Maen nhw i’w cael mewn pethau fel paent, cadwolion pren, carpedi, dodrefn a ffitiadau, cynhyrchion erosol ac inc mewn argraffydd. Ceisiwch ddefnyddio llai o erosolau a newidiwch i rai sy’n defnyddio pwmp neu roler. Gwiriwch gynhwysion yr hyn rydych chi'n ei brynu bob amser; gallwch ddisodli paent â thoddyddion gyda dŵr, er enghraifft.

Arrow pointing right

Meddwl am goginio a gwresogi

Mae llosgi glo a biomas (e.e. pren) yn cyfrannu at lygredd aer cartrefi pan fyddant yn cael eu defnyddio i goginio, a llygredd aer awyr agored wrth eu defnyddio i wresogi. Gwiriwch y sgôr effeithlonrwydd ar gyfer systemau gwresogi cartref a stofiau coginio i ddefnyddio modelau sy'n arbed arian ac yn diogelu iechyd. Mae cynnal a chadw ein stofiau coed, llefydd tân, systemau awyru/aerdymheru a phympiau gwres yn rheolaidd, i'w cadw i weithredu'n effeithlon ac yn dawel, defnyddio tanwydd glanach, defnyddio pren sych yn hytrach na llaith neu â gorchudd, defnyddio purwyr aer, ochr yn ochr ag insiwleiddio ein cartrefi, yn rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud i wella ansawdd ein hamgylchedd.

Arrow pointing right

Gyrru llai

Lle bo modd, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu fynd ar droed i deithio. Ystyriwch gerbydau allyriadau isel neu ddim allyriadau o gwbl os oes angen car. Mae cerbydau diesel, yn enwedig rhai hŷn, yn gyfranwyr mawr o garbon du sy'n garsinogenig i iechyd ac yn niweidiol i'n hinsawdd. Gyrrwch yn llai aml ac yn llai cyflym i leihau'r defnydd o danwydd a llygredd aer a sŵn

Arrow pointing right

Atal tanau

Weithiau, mae tanau yn digwydd yn naturiol, yn cael eu tanio gan wres o'r haul neu streic mellt. Fodd bynnag, gyda newid yn yr hinsawdd yn arwain at dywydd poeth amlach, mae'r risg o danau gwyllt a achosir gan ddiofalwch dynol ar gynnydd. Gweler y wefan Y Groes Goch Brydeinig am wybodaeth ar sut y gallwn helpu i atal ac amddiffyn ein hunain, ein cartrefi a'n cymunedau rhag tanau gwyllt.

Arrow pointing right

Lleihau llygredd sŵn

Gall seiniau a synau sy'n cystadlu'n barhaus am ein sylw effeithio arnom pan fyddwn yn effro ac yn cysgu, gan effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Mae sawl ffordd y gallwn helpu i leihau llygredd sŵn: O yrru'n llai aml, yn arafach ac osgoi gadael i gerbydau segura, i ystyried cerbyd trydan pan fydd angen newid ein car petrol/disel a diffodd eitemau trydanol pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Gall plannu coed neu lwyni mewn gerddi neu dyfu planhigion mewn potiau ar falconïau neu dan do hefyd helpu i leihau lefelau sŵn. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Sŵn a Seinwedd newydd, sy'n nodi blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys lleihau tebygolrwydd, difrifoldeb ac amlder sŵn sy'n gysylltiedig â thechnolegau ynni adnewyddadwy, fel pympiau gwres a thyrbinau gwynt ar y tir.

Pam bod angen gweithredu? 

Pa elfennau o'n hamgylchedd sy'n cael eu heffeithio gan weithgarwch dynol a newid hinsawdd? 

air icon

Aer

Llygredd aer yw'r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU. Mae allyriadau, gan gynnwys o ffynonellau fel adeiladau, gwresogi ac oeri cartrefi, cynhyrchu ynni, amaethyddiaeth a diwydiant, yn llygru'r aer. Maent yn tarfu ar gydbwysedd naturiol ein hecosystemau. Er enghraifft, mae angen nitrogen ar blanhigion, ond mae llygredd aer yn cyfrannu at ormodedd o nitrogen a all eu niweidio mewn gwirionedd. Gall newidiadau yn yr hinsawdd effeithio ar ansawdd aer hefyd. Gall hafau poeth arwain at fwy o lygredd, fel mwrllwch. 

well-being icon

Seinwedd

Mae angen i ni newid sut rydym yn byw i liniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Gall y newidiadau hyn mewn ffordd o fyw ein gwneud ni a'n cymdogion yn agored i gymysgedd gwahanol o synau na'r rhai yr oeddem yn gyfarwydd â nhw o'r blaen. Mae angen mabwysiadu a defnyddio technoleg a ffyrdd newydd o weithio, nad ydyn nhw’n effeithio’n negyddol ar iechyd a llesiant pobl.

Water drop icon

Dŵr

Hyd yn oed ar ôl trin dŵr, gall y cemegau a ddefnyddiwn fynd i mewn i'r dŵr a chael effeithiau andwyol ar fywyd dyfrol. Mae ffosffadau mewn cynnyrch golchi dillad a glanedydd peiriant golchi llestri yn cael effaith wrteithio, sy'n sbarduno twf eang o algâu sy'n cymryd ocsigen y dŵr, gan leihau bioamrywiaeth a tharfu ar gydbwysedd maetholion. Mae newid yn yr hinsawdd hefyd yn effeithio ar ddŵr y byd a bydd yn lleihau faint ohono sydd ar gael 

Water drop icon

Mawndiroedd

Mae mawndiroedd yn amsugno ac yn storio allyriadau carbon yn ddiogel, gan eu hatal rhag cael eu rhyddhau i'n hatmosffer. Mae ein mawndiroedd yn sychu ac yn erydu o ganlyniad uniongyrchol i newid hinsawdd. Mae hyn yn golygu eu bod yn rhyddhau allyriadau carbon i'r atmosffer, sy'n ychwanegu ymhellach at y broblem o hinsawdd sy'n newid.

Forest icon

Coedwigoedd

Gall rhai cynhyrchion a ddefnyddiwn lygru ein dyfrffyrdd a'n haer neu hybu datgoedwigo a dinistrio cynefinoedd dramor. Gallai hyn fod yn gynhyrchion ar gyfer porthiant da byw yng Nghymru, olew palmwydd a ddefnyddir mewn eitemau cosmetig bob dydd, coco a ddefnyddir mewn danteithion a phwdinau, neu hyd yn oed rwber a ddefnyddir i gynhyrchu latecs neu deiars car.

terrain icon

Cloddio tir

Mae llawer o’n heconomi’n dibynnu ar yr hyn a elwir yn ‘ddeunyddiau crai hanfodol’ fel lithiwm a thantalwm sydd i’w cael mewn ffonau symudol. Mae llawer o’r deunyddiau hyn yn brin ac maen nhw’n gallu bod yn ddeunyddiau ‘risg uchel’ gan achosi difrod sylweddol wrth gloddio a phrosesu. Mae cloddio am yr adnoddau hynny hefyd yn achosi datgoedwigo ac yn dinistrio cynefinoedd pwysig.

wave icon

Moroedd

Mae sbwriel yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, yn enwedig ein moroedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i gymryd camau i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan lygredd plastig a sbwriel morol.

Beth mae Cymru yn ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid eisoes yn gweithio ar ffyrdd y gallan nhw leihau llygredd aer, dŵr a sŵn a rheoli ein tir i gefnogi bioamrywiaeth a gwrthbwyso allyriadau carbon. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn maen nhw’n ei wneud: 

  • Gwella ansawdd aer  

    Mae Bil Aer Glân (Cymru) yn nodi’r cynllun i wella ansawdd aer a lleihau effaith llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’n heconomi, yn ogystal â gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n lleol ac yn rhanbarthol i leihau llygredd aer drwy osod targedau ansawdd aer. 

  • Terfynau cyflymder 20mya  

    O 17 Medi 2023, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru. Yn ogystal â gwneud strydoedd yn fwy diogel, y bwriad yw lleihau llygredd aer o draffig yn ein dinasoedd, trefi a phentrefi. 

  • Rheoli tir 

    Mae Sero Net Cymru (cynllun lleihau allyriadau cyfredol Cymru) yn ymrwymo i nifer o bolisïau a chynigion sy’n gysylltiedig â rhyddhau tir, cynyddu faint o goetiroedd sy’n cael eu creu, a diogelu a chynyddu storfeydd carbon mewn priddoedd a biomas. 

  • Rheoli sŵn 

    Rheoli Sŵn – Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Sŵn a Seinwedd ar gyfer ymgynghoriad. Dyma fydd strategaeth genedlaethol gyntaf Cymru ar seinweddau o dan y Bil Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).

  • Ansawdd dŵr 

    Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wella ansawdd dŵr. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i gymryd camau i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan lygredd plastig a sbwriel morol. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal rhaglen gwaith cyfalaf gwerth miliynau o bunnoedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i fynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n wynebu afonydd Cymru, gan gynnwys effeithiau ar ansawdd dŵr. 

  • Diogelu ein hamgylchedd 

    Bydd cynlluniau fel gwahardd plastig y gellir ei ddefnyddio unwaith yn unig, a pharhau i ddefnyddio adnoddau gyhyd â phosibl ac annog pobl i ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu o help mawr i ddiogelu ein hamgylchedd. Gweithredu economi gylchol yng Nghymru

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol