Cyhoeddi yn gyntaf: 02/06/2023 -

Wedi diweddaru: 12/07/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Teithio llesol

Cerdded, olwynio, sgwtera neu feicio

Mae ychydig mwy o deithio llesol ac ychydig llai o amser yn y car yn wych i’ch iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl ac mae’n ffordd werdd a chynaliadwy o fynd o le i le. 

Mae teithio llesol yn golygu cymryd taith mewn ffordd sy’n egnïol yn gorfforol. Mae mathau o deithio llesol yn cynnwys cerdded, olwynio (os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn), defnyddio sgwter neu feicio.

Trafnidiaeth yw’r cynhyrchydd allyriadau carbon niweidiol trydydd mwyaf yng Nghymru, sy’n cyfrannu’n fawr at newid hinsawdd. Mae llai o geir ar y ffordd yn golygu ffyrdd mwy diogel ac aer glanach, felly daw teithio llesol â buddion enfawr i ni, ein teuluoedd, ein cymunedau a’n planed. 

Beth allwn ni ei wneud?

Gwyddom na fydd pawb yn gallu teithio mewn ffordd lesol drwy’r amser, ond mae rhywbeth o hyd y gall y rhan fwyaf ohonom ei wneud. Dyma rai syniadau:

Arrow pointing right

Dechrau gydag un daith yr wythnos

Yn y DU, mae tua 20% o deithiau ceir yn fyrrach na milltir. Os gallwch chi, beth am geisio gadael y car gartref pan fyddwch yn teithio i rywle agos? Gallech ddechrau gydag un daith yr wythnos i roi cynnig arni.

Arrow pointing right

Cynllunio ymlaen llaw

Meddyliwch am ba lefydd y gallwch gerdded, beicio neu olwynio iddynt a chynlluniwch eich taith ymlaen llaw, gan ystyried ffactorau fel diogelwch a thraffig. Dechreuwch gyda phellteroedd byr a chynyddwch hyd eich taith wrth i chi ddod yn fwy hyderus. Anogwch ffrindiau a theulu i gymryd rhan yn y cynllunio os ydych yn teithio gyda’ch gilydd.

Arrow pointing right

Archwiliwch lwybrau newydd

Dewch o hyd i lwybrau beicio a cherdded yng Nghymru gan ddefnyddio Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol. Wedi'i greu gan awdurdodau lleol yng Nghymru, mae'r rhain yn dangos llwybrau sydd ar gael ar hyn o bryd – llwybrau bob dydd sydd eisoes yn bodloni safonau teithio llesol Llywodraeth Cymru, a llwybrau yn y dyfodol – gwelliannau sydd wedi'u cynllunio i lwybrau presennol a llwybrau newydd a gynigir ar gyfer y dyfodol. Gallwch hefyd gael mynediad at daflenni a mapiau teithio llesol am ddim o Sustrans.

Arrow pointing right

Cerddwch i'r Ysgol

Mae cerdded, olwynio, sgwtera neu feicio i'r ysgol yn ffordd wych o gadw'n heini, treulio amser gyda'ch gilydd ac osgoi straen mynd â'r car i'r ysgol. Cynlluniwch eich llwybr, darllenwch yr awgrymiadau hyn ar gyfer cerdded yn ddiogel a rhowch gynnig arni. Gofynnwch i'ch ysgol a ydyn nhw'n rhan o raglen Teithio Llesol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a all helpu i fynd i'r afael â materion teithio penodol o amgylch ardal yr ysgol.

Arrow pointing right

Teithio gyda’ch gilydd

Mae teithio llesol yn ffordd wych o gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau. Beth am geisio cerdded i’r ysgol gyda rhieni eraill a’u plant neu feicio i’r gwaith gyda chydweithiwr? Dewch at eich gilydd er mwyn cynllunio beth allwch chi ei wneud.

Arrow pointing right

Rhoi nod i chi eich hun a chadw golwg ar eich cynnydd

Defnyddiwch eich ffôn clyfar, os oes gennych chi un, i weld faint o gamau rydych chi’n eu cymryd yn ystod eich teithiau bob dydd. Gosodwch her i’ch hunan a chynyddwch nifer y camau dros amser. Cyn bo hir byddwch yn cerdded neu’n beicio’n rhwydd i lefydd ymhellach i ffwrdd. Er mwyn ei gadw’n ddiddorol, gwrandewch ar bodlediadau neu lyfrau llafar. Er mwyn cynyddu eich stamina, gallech ymuno â grŵp cerdded neu feicio lleol.

Arrow pointing right

Beth am feicio

Archwiliwch y gwahanol gynlluniau llogi e-feiciau a benthyca e-feiciau sydd ar gael yng Nghymru, os ydych yn byw mewn ardal sydd â chynlluniau o’r fath (er enghraifft, y cynllun llogi e-feic ym Mro Morgannwg neu’r prosiect E-Symud). Gallech hefyd brynu beic ail-law fforddiadwy gan y Prosiect Uwchgylchu Beiciau yn Sir y Fflint, sy’n ailwampio beiciau sydd wedi’u gadael o gwmpas y lle. Mae llawer o brosiectau fel hyn ledled Cymru, chwiliwch am un sy’n agos atoch chi, neu gallwch ddod o hyd i feiciau ar werth ar nifer o wefannau gwerthu ail-law. Os ydych eisoes yn berchen ar feic neu sgwter, gwnewch yn siŵr ei fod mewn cyflwr da a bod y goleuadau’n gweithio. Chwiliwch beth sydd ar gael yn eich ardal chi – mae rhai elusennau’n helpu plant gyda beiciau ail-law er enghraifft, neu gallwch logi beiciau fesul awr mewn nifer o drefi a dinasoedd.

Arrow pointing right

Trefnu i’w atgyweirio yn rhad ac am ddim

Ar ôl i chi gael gafael ar feic, mae mwy a mwy o gyfleoedd ar gyfer eu hatgyweirio mewn gorsafoedd atgyweirio beiciau fel rhain ar draws y Fro.

Arrow pointing right

Cyfuno â thrafnidiaeth gyhoeddus

Cerddwch, beiciwch neu olwynwch i'r orsaf fysiau neu reilffordd a gallwch deithio pellteroedd hirach gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Manteisiwch ar rwydwaith bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol Trafnidiaeth Cymru, sy'n galluogi teithiau cysylltiedig i wneud teithio cynaliadwy yn haws. Os na allwch gymryd rhan mewn teithio llesol, ceisiwch rannu ceir neu drafnidiaeth gyhoeddus fel opsiwn teithio gwyrdd.

Arrow pointing right

Teithiwch i'r gwaith yn wyrddach

Cerddwch neu olwynwch i'r gwaith os allwch chi (gallai buddsoddi mewn e-feic helpu gyda theithiau hirach neu i fyny'r allt), neu rannu reidiau gyda chydweithwyr i ostwng eich allyriadau a nifer y cerbydau ar y ffordd. Gall trefnu cyfarfodydd rhithiol a gweithio gartref pan fo'n bosibl hefyd helpu i leihau nifer y teithiau y mae angen i chi a'ch cydweithwyr eu gwneud i'r gwaith.

Pam gweithredu?

Bydd defnyddio llai ar y car a chadw’n heini yn cael effaith gadarnhaol ar eich sefyllfa ariannol, eich iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl. Yn ogystal â hynny, mae’n un o’r ffyrdd mwyaf costeffeithiol o leihau llygredd aer, tagfeydd ac allyriadau niweidiol. Dyma ychydig o resymau dros gerdded, beicio neu olwynio, os gallwch:

Health icon

Gwella eich iechyd a’ch lles

Mae gweithgarwch corfforol yn ddewis iach, sydd wedi’i brofi’n feddygol i leihau’r risg o glefydau cronig a hyd yn oed iselder a dementia. Yn ogystal â hynny, trwy ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eich bywyd bob dydd chi a’r teulu, gallwch osgoi gorfod dod o hyd i amser ac arian ychwanegol i gadw’n heini.

family icon

Mwynhau cwmni’r teulu

Mae cerdded adref o’r ysgol, er enghraifft, yn rhoi cyfle i chi sgwrsio â’ch plant am eu diwrnod. Mae’n gyfle gwych i gysylltu.

Arrow pointing down

Lleihau eich effaith ar yr amgylchedd

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gallai lleihau eich defnydd o’ch car un chwarter a dewis cerdded, beicio neu olwynio yn lle hynny arbed hyd at £345 mewn costau tanwydd a 570kg o garbon deuocsid y flwyddyn – mae hynny’n cyfateb i wefru 69,336 ffôn clyfar.

Currency_icon

Arbed arian

Mae teithio llesol yn ffordd ratach o fynd o le i le, boed hynny’n gerdded i’r ysgol, i’r gwaith neu i’r siopau, gan leihau costau teithio, megis petrol, cynnal a chadw’r car a pharcio – a does dim angen i chi dreulio amser yn chwilio am le parcio.

Car icon

Mynd i’r afael â llygredd aer a sŵn

Trwy gerdded neu feicio byddwch yn lleihau tagfeydd, a llygredd aer a sŵn – ac yn helpu Cymru i leihau’r nifer o geir sy’n tagu ein ffyrdd, a dyfodd 45% rhwng 1993 a 2019.

explore icon

Dod i adnabod eich ardal

Byddwch yn gweld mwy wrth deithio heb y car. Crwydrwch eich cynefin, dewch o hyd i leoedd newydd a rhyngweithiwch â phobl – gall hyn helpu i wella eich iechyd meddwl a meithrin yr ymdeimlad o gysylltu â’ch cymuned.

Beth mae Cymru’n ei wneud?

Hyd fideo:

27 eiliadau

Gwyliwch ar Youtube

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol