Cyhoeddi yn gyntaf: 26/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Sut mae Pedal Power yn ein helpu i fod yn fwy egnïol pan fyddwn yn teithio

Wedi’i leoli ym Mharc Carafanau Pontcanna a Bae Caerdydd, mae Pedal Power yn cynnig amrywiaeth eang o feics safonol, hygyrch a fforddiadwy i’w llogi, yn ogystal â sesiynau beicio dan arweiniad. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu ac annog mwy o bobl i ystyried beicio fel dewis da a hyfyw o ran teithio. O ganlyniad, maen nhw wedi prynu fflyd o e-feics yn ddiweddar. Y nod yw gwneud beicio dros bellter hirach yn haws ac annog mwy o bobl i ystyried beicio fel ffordd o deithio ar draws Caerdydd.

Sut mae Pedal Power yn ein helpu i wneud dewisiadau sy’n wyrdd?

Mae Pedal Power yn ein helpu i wneud dewisiadau gwyrdd drwy roi'r dewis a'r hyder i ni feicio. 

Daeth Meena Habib, meddyg gyda’r GIG o'r Eglwys Newydd, Caerdydd, o hyd i Pedal Power y llynedd. Gan nad oedd wedi beicio ers 30 mlynedd, roedd yn bryderus i ddechrau, ond roedd am ddwyn ynghyd ei phrofiadau o feicio yn ystod ei phlentyndod yn ogystal â'i hangerdd heddiw dros gynaliadwyedd at ei gilydd. Teimlai mai dyna oedd ei dewis gorau o ran teithio o amgylch y ddinas mewn ffordd fyddai’n ‘wyrddach’. 

Ar ôl bod yn bresennol mewn sawl sesiwn beicio dan arweiniad a drefnwyd gan Pedal Power, roedd Meena wedi magu hyder newydd mewn reidio ar ddwy olwyn. Mae hefyd wedi annog ei dau fab i ddechrau beicio. 

Mae hi bellach yn beicio o amgylch y ddinas, yn cymdeithasu ac yn treulio amser gyda’i meibion. Nid yn unig mae’n ffordd wych i ymarfer y corff ac yn helpu i leddfu straen, mae Meena hefyd yn helpu i leihau ei hôl troed carbon. 


Pam gweithredu?

Gan ddechrau fel prosiect bychan mewn ysbyty yng Nghaerdydd ym 1996 ar gyfer beicwyr anabl, nod Pŵer Pedal ydy annog a galluogi pobl o bob oed a gallu i brofi manteision beicio. Maen nhw hefyd yn ymdrechu i gael gwared ar y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu. 

Yn ôl Sian Donovan, Cyfarwyddwr:

Nod Pedal Power yw helpu pawb i fwynhau manteision beicio. Os ydy beicio’n cael ei weld fel ateb i beidio â defnyddio car a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, yna mae’n rhaid iddo gynnwys pobl sydd â gwahanol anghenion ac oedrannau a’r rhai sydd â diffyg hyder. Bod yn gynhwysol yw’r allwedd er mwyn annog mwy o bobl i ddewis trafnidiaeth wyrddach.


Beth mae Cymru yn ei wneud?  

Yn ôl Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth:

Mae gan drafnidiaeth rôl arwyddocaol iawn i’w chwarae wrth helpu Cymru i gyrraedd sero net. Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer gwell cysylltedd ffisegol a digidol, mwy o wasanaethau lleol, mwy o weithio gartref ac o bell, a mwy o fynediad at deithio actif.

  • Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig a fydd yn gwella teithio ac a fydd yn rhoi pobl a newid hinsawdd yn ganolbwynt ein system drafnidiaeth 

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynyddu cyllid ar gyfer llwybrau a chyfleusterau teithio llesol, i helpu awdurdodau lleol greu rhwydweithiau cynhwysfawr o lwybrau beicio a cherdded newydd a gwell yng Nghymru. Buddsoddwyd dros £50 miliwn yn 2022-23, ac mae mwy wedi’i glustnodi ar gyfer 2023-24. 

  • Mae Llywodraeth Cymru yn galluogi mynediad pellach at feiciau trydan a beiciau cargo mewn pum tref a dinas yng Nghymru drwy'r prosiect e-symud

  • Rhagwelir erbyn 2025 y bydd 48% o werthiannau ceir newydd heb allyriadau carbon, a bydd cyfran sylweddol o fysiau a thacsis wedi trosglwyddo i gerbydau sy'n rhydd o allyriadau carbon. 

  • Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwefru cerbydau trydan i helpu awdurdodau lleol i gynyddu nifer y cyfleusterau gwefru. 


Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol