Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae ychydig mwy o deithio ar y trên a’r bws ac ychydig llai o amser yn y car yn ddewis gwyrdd y gall llawer ohonom ei wneud i leihau ein heffaith ar y blaned, a gwneud Cymru’n lle gwell fyth i fyw.

Trafnidiaeth yw’r achos allyriadau carbon trydydd fwyaf yng Nghymru – yn gyfrifol am 17% o’r allyriadau yn 2019. Trwy ddefnyddio llai ar ein ceir, gallwn leihau’r allyriadau niweidiol hyn a llygredd aer er mwyn helpu i wneud ein cymunedau’n iachach.

Beth allwn ni ei wneud?

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gadael i rywun arall wneud y gyrru er mwyn i chi allu treulio’ch taith yn gwneud rhywbeth arall – boed hynny’n darllen llyfr, cael cyntun, neu gael hwyl gyda’ch teulu.

Er bod defnyddio’r car weithiau’n fwy ymarferol – os ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn er enghraifft – gall defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhatach os oes llawer ohonoch. Os gallwch chi, beth am roi cynnig ar drafnidiaeth gyhoeddus? Dyma rai syniadau i’ch rhoi ar ben ffordd:

Arrow pointing right

Archwilio eich opsiynau

Os ydych yn gyrru i rywle fel arfer, archwiliwch os gallwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny am un daith yr wythnos. A oes bws neu drên y gallwch ei gymryd i’r gwaith? A oes taith fyrrach y gallwch ei cherdded, beicio neu olwynio yn lle hynny?  Darganfyddwch a yw eich cyflogwr yn annog staff i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gyda chynllun benthyciad ar gyfer tocyn tymor, er enghraifft. Os yw hygyrchedd yn hanfodol, gwiriwch a fydd eich opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus lleol yn gweithio i chi.  

Arrow pointing right

Bod yn drefnus

Cyn teithio, gwiriwch amserlenni er mwyn dod o hyd i’r ffordd fwyaf cyfleus a chyflym o gyrraedd pen y daith.

Arrow pointing right

Chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf

Gall apiau a gwefannau ar eich ffôn clyfar, megis ap Trafnidiaeth Cymru, eich helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich taith ac osgoi unrhyw oedi neu newidiadau. Yn ogystal â hynny, gallwch chwilio’n hawdd am amserlenni a dod o hyd i’r llwybrau a’r cysylltiadau gorau pan fyddwch ar eich ffordd. 

Arrow pointing right

Chwilio am ostyngiadau

Archwiliwch wahanol opsiynau tocynnau, oherwydd mae’n bosibl y cewch docynnau rhatach drwy eu prynu ar-lein. A ydych chi’n defnyddio’r bws neu’r trên yn rheolaidd? Chwiliwch a ydych yn gymwys i gael pàs teithio neu gerdyn rheilffordd sy’n cynnig prisiau rhatach i fyfyrwyr, pobl dros 65 oed neu deuluoedd.

Arrow pointing right

Cyfuno â theithio llesol

Cerddwch, olwynwch, sgwterwch neu feiciwch yn lle defnyddio'ch car ar gyfer teithiau byrrach, er enghraifft i'r bws neu'r orsaf drenau. Yna teithiwch bellteroedd hirach ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Pam gweithredu?

Erbyn 2030, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio lleihau nifer y milltiroedd y mae pob unigolyn yn ei deithio o 10%. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis teithio cynaliadwy a all ein helpu i gyrraedd y targed hwn.

Felly, pam dylem ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle cerbydau personol? Mae defnyddio llai ar y car yn helpu i wneud y canlynol: 

Car icon

Leihau eich effaith ar yr amgylchedd

Mae’r amgylchedd yn elwa mewn sawl ffordd os defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, er engraifft mae llai o geir yn helpu i leihau llygredd a gwella ansawdd yr aer. 

Health icon

Gwella eich iechyd

Gallwch gerdded, olwynio neu feicio i’r orsaf fysiau a theithio ymhellach ar drafnidiaeth gyhoeddus i’ch cadw’n heini. Bydd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn eich galluogi i ymlacio ac osgoi’r straen o yrru sy’n fuddiol i’ch lles meddyliol.

time icon

Arbed amser

Gall bysiau a threnau fod yn ffordd wych o osgoi tagfeydd yn ystod oriau brig – diolch i lonydd bysiau a threnau cyflym. Yn ogystal â hynny, gallwch dreulio amser gwerthfawr gyda’ch plant, eich cydweithwyr neu ar eich pen eich hun, yn cymdeithasu, yn gweithio neu’n gwrando ar gerddoriaeth.

Currency_icon

Arbed arian

Gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhatach na defnyddio’ch car eich hun, yn enwedig os ydych yn teithio ar eich pen eich hun, gan na fydd rhaid i chi wario ar danwydd, parcio na chostau cynnal a chadw.

parking icon

Does dim angen poeni am barcio

Mae bysiau a threnau’n aml yn mynd â chi i ganol tref neu ddinas fel y gallwch neidio oddi arnynt a bod yn union le mae angen i chi fod, heb orfod dod o hyd i le parcio na thalu amdano.

public transport

Cynnydd enfawr mewn gwasanaethau bws

Dysgwch sut y mae gwasanaeth bws hyblyg wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr wrth iddynt archwilio dulliau teithio mwy cynaliadwy.

Find out how

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol