Cyhoeddi yn gyntaf: 05/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Lleihau gwastraff bwyd

Mae lleihau gwastraff bwyd bwytadwy drwy brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch a defnyddio popeth rydych chi’n ei brynu yn arbed arian ac yn eich helpu i leihau eich effaith ar yr amgylchedd. Felly, mae ychydig llai o wastraff bwyd ac ychydig mwy o gompostio yn helpu i gadw ein priddoedd yn iach, gan droi gwastraff eich cegin yn fwyd llawn maethynnau i blanhigion.

Mae gwastraff bwyd yn cael effaith enfawr ar ein hamgylchedd. Po leiaf o fwyd bwytatwy rydyn ni'n ei daflu, y lleiaf yw'r effaith ar yr amgylchedd.

Mae cynhyrchu, cludo, storio a rheoli gwastraff bwyd i gyd yn cael effaith amgylcheddol.

Pan fydd gwastraff organig yn cael ei gladdu mewn safleoedd tirlenwi mae'n cynhyrchu methan, allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, gan nad yw'n gallu pydru'n iawn. Mae compostio gwastraff bwyd, fel bwyd heb ei goginio, sbarion llysiau, coffi mâl a phlisgyn wyau, yn llawer gwell i'r amgylchedd.

Bydd lleihau gwastraff trwy storio a defnyddio bwyd bwytadwy yn gywir hefyd yn helpu i leihau effeithiau carbon cynhyrchu bwyd a gallai arbed arian i chi.

Beth allwn ni ei wneud?

Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da.

Mae cyfanswm yr allyriadau o’r sector gwastraff yng Nghymru wedi gostwng 64% rhwng 1990 a 2019. Er mwyn cynnal y momentwm hwn, mae angen i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i leihau gwastraff. Dyma ychydig o syniadau sut i leihau eich gwastraff bwyd: 

Arrow pointing right

Dod o hyd i fwy o ffyrdd i leihau gwastraff bwyd

Gwnewch i’ch bwyd fynd ymhellach drwy storio bwyd yn iawn a defnyddio bwyd sydd dros ben. Prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig, gan osgoi cynhyrchion diangen sydd ag oes silff fer a defnyddiwch yr hyn rydych yn ei brynu trwy goginio sypiau a rhewi. 

Arrow pointing right

Dysgu sut i ailgylchu gartref

Ar ôl i chi fwyta’r hyn rydych wedi’i brynu, os na allwch gompostio gartref, gallwch bob amser ailgylchu eich gwastraff bwyd anfwytadwy. Caiff y bwyd a gesglir i’w ailgylchu ei droi’n fio-nwy, sy’n ffynhonnell ynni, neu’n wrtaith. Dysgwch sut y gallwch ailgylchu gwastraff bwyd yn y cartref neu ble mae’r man ailgylchu lleol agosaf.

Arrow pointing right

Rhoi cynnig ar ryseitiau addas ar gyfer y teulu cyfan

Gall fod yn anodd osgoi gwastraff bwyd os ydych yn rhiant prysur sy’n ceisio dod o hyd i fwyd y mae eich plant yn ei fwynhau. Mae gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff ryseitiau hawdd a hwyliog y gallwch eu gwneud gyda’ch plant – maen nhw’n ffordd wych o ddefnyddio’r bwyd sydd gennych yn yr oergell er mwyn osgoi gwastraff.

Arrow pointing right

Rhoi bwyd diangen yn rhodd

Gallwch roi bwyd nad oes ei angen arnoch i fanciau bwyd lleol. Mae gan rai archfarchnadoedd fannau lle gallwch wneud hyn, neu gallwch chwilio am fanciau bwyd yn eich ardal leol. Fel arall, rhowch gynnig ar ap rhannu lleol megis Olio neu grŵp ailddosbarthu arall. I gael gafael ar fwyd dros ben, gall elusennau a grwpiau cymuned gofrestru ar gyfer sefydliadau fel FareShare Go neu Neighbourly.

Arrow pointing right

Ymchwilio i gompostio

Os oes gennych ardd, gallwch greu system gompostio. Mae gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol ganllaw da i’ch rhoi ar ben ffordd. Os nad yw hynny’n bosibl, gallwch roi cynnig ar systemau compostio dan do fel compostio bokashi neu gompostio llyngyr. Fel arall, gallwch gompostio ar y cyd â ffrindiau a chymdogion sydd â gardd.

Arrow pointing right

Dysgu am gynhwysion compost

Ni all pob eitem gwastraff bwyd fynd i’ch bin compostio. Dysgwch ragor am yr hyn y gallwch ac na allwch ei gompostio.

Arrow pointing right

Lleihau arogleuon

Cadwch wastraff bwyd y gellir ei gompostio allan o finiau cartref neu safleoedd tirlenwi er mwyn osgoi arogleuon annymunol.

Pam mae angen gweithredu?

Gyda’n gilydd gallwn leihau faint o fwyd bwytadwy sy’n cael ei daflu. Bydd hyn yn eich helpu i:

Currency_icon

Arbed arian

Prynwch y bwyd sydd ei angen arnoch yn unig, defnyddiwch y bwyd dros ben a cheisiwch leihau taflu gwastraff bwyd bwytadwy trwy naill ai ailgylchu neu gompostio. Mae hyn yn arbed arian gan y byddwch yn prynu llai o fwyd.

shield icon

Gwarchod adnoddau ein planed

Pan fyddwch yn taflu bwyd, rydych yn gwastraffu’r adnoddau a ddefnyddiwyd i’w dyfu, ei gynhyrchu, ei becynnu a’i gludo. Gall lleihau eich gwastraff bwyd leihau eich ôl troed carbon hyd at 300 cilogram o CO2e y flwyddyn – mae hynny’n cyfateb i yrru car 769 o filltiroedd.

compost icon

Gwella iechyd y pridd

Mae compostio gartref yn cynhyrchu ffynhonnell bwyd planhigion sy’n naturiol heb gemegau a all wella cyfansoddiad ac ansawdd maethol pridd. Mae hefyd yn arbed defnyddio gwrteithiau cemegol a phlaleiddiaid a all fod yn ddrud ac yn niweidiol i’r amgylchedd.

Arrow pointing down

Lleihau arogleuon

Mae hefyd yn bwysig cadw gwastraff bwyd y gellir ei gompostio allan o finiau’r cartref neu safleoedd tirlenwi er mwyn osgoi’r arogl annymunol y gall ei gynhyrchu.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol