Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Ailddefnyddio ac atgyweirio

Mae ychydig mwy o ailddefnyddio, atgyweirio a benthyca, ac ychydig llai o brynu pethau newydd, yn ddewisiadau gwyrdd sy’n helpu i leihau gwastraff ac arbed arian.

Gallwn roi bywyd newydd i bopeth bron – o drwsio dillad ac eitemau cartref bob dydd, i'n dodrefn, offer ac electroneg sydd wedi'u difrodi. Mae cadw, rhentu ac ailbwrpasu eitemau yn defnyddio llai o adnoddau ein planed ac yn ein galluogi i fod yn greadigol a dysgu sgiliau newydd.  

Beth allwn ni ei wneud?

Efallai na all pawb wnïo botwm neu greu dodrefn o bren sgrap, ond efallai bod gennym siop elusen gerllaw y gallwn roi eitemau diangen iddi, neu gallwn fenthyca yn lle prynu. Mae camau y gallwn eu cymryd o hyd i ailddefnyddio ac atgyweirio mwy. Dyma ychydig o syniadau:

Arrow pointing right

Rhentu, benthyca neu rannu

eitemau yr ydych ond yn eu defnyddio o bryd i’w gilydd. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu benthyca’r hyn sydd ei angen arnoch gan eich ffrindiau, teulu neu gymdogion, o ddillad i offer, teclynnau a dyfeisiau. Gallwch hefyd rentu eitemau o’ch Llyfrgell Pethau leol neu eich siop rhentu leol.

Arrow pointing right

Cadw

Po hiraf y byddwn yn parhau i ddefnyddio pethau, y lleiaf y bydd angen defnyddio adnoddau naturiol ein planed i greu rhai newydd. Arhoswch a meddyliwch cyn prynu – a oes wir angen ffôn clyfar newydd arnoch neu a yw’r un sydd gennych nawr yn addas ar gyfer eich anghenion ac yn gweithio’n dda?

Arrow pointing right

Ailbwrpasu

Mae’n syndod faint o bethau y gellir eu defnyddio at bwrpas amgen. Er enghraifft, gallwch droi jariau yn wydrau yfed, troi poteli yn ffiolau neu ddalwyr canhwyllau, a throi hen grysau-T yn glytiau glanhau. Bydd chwiliad sydyn ar-lein am ‘syniadau uwchgylchu’ yn rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi.

Arrow pointing right

Ail-lenwi

Ceisiwch beidio defnyddio deunydd pacio untro diangen a chynhyrchion tafladwy bywyd byr. Ceisiwch brynu ffrwythau ffres heb eu lapio ac os ydych chi i ffwrdd o’r tŷ ac angen diod, gofynnwch am ddŵr tap neu defnyddiwch botel y gellir ei hail-lenwi.

Arrow pointing right

Ailddefnyddio

Rhowch fywyd newydd i'r eitemau nad oes eu hangen arnoch drwy eu rhoi i'ch ffrindiau a'ch teulu. Rhoddwch nhw i siop elusen neu ganolfan ailddefnyddio, rhannwch nhw gyda'ch cymuned leol trwy lwyfannau fel Freecycle neu Freegle, neu werthwch nhw ar-lein. Pan ewch chi siopa, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cario'ch bag eich hun. Ydych chi'n meddwl tybed a oes anfanteision i ail-ddefnyddio bagiau plastig? Cofiwch mai'r dewis mwyaf cynaliadwy yw'r bag sydd gennych eisoes – p'un a yw hwnnw’n blastig neu’n brethyn.

Arrow pointing right

Atgyweirio yn lle newid

Gellir atgyweirio’r rhan fwyaf o bethau yn rhad ac am ddim os gwnawn ni hynny ein hunain, neu’n weddol rad gan weithwyr proffesiynol mewn siopa neu gaffis atgyweirio. Dysgwch sut i drwsio dillad ac eitemau bob dydd y cartref sydd wedi torri neu fynd â nhw i siop atgyweirio leol.

Pam mae angen gweithredu?

Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i leihau allyriadau a achosir gan wastraff. Mae ailddefnyddio ac atgyweirio yn ffyrdd ardderchog o leihau’r angen am ailgylchu a mynd ymhellach fyth i leihau’r hyn a daflwn yn y bin a’n heffaith ar yr amgylchedd. Erbyn 2050, bydd popeth yng Nghymru yn cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu, gyda tharged diwastraff eisoes wedi’i osod ar gyfer 2025. Gyda’n gilydd, gallwn:

Forest icon

Helpu’r amgylchedd

Mae peidio â thaflu pethau’n gyflym a’u gwneud i bara’n hirach yn lleihau faint o sbwriel a daflwn; daw 45% o nwyon tŷ gwydr o gynhyrchion yr ydym yn eu defnyddio a’u prynu. Mae prynu llai ac ailddefnyddio mwy yn lleihau nwyon tŷ gwydr ac yn helpu natur, gan fod cynhyrchu eitemau bob dydd neu adeiladau yn gofyn am fwyngloddio adnoddau naturiol ynghyd â’r lle i dyfu cynhwysion, sy’n arwain at ddatgoedwigo a dinistrio cynefinoedd pwysig. 

Currency_icon

Arbed arian

Fel arfer, mae atgyweirio pethau yn rhatach na’u prynu’n newydd – tra bod prynu dillad neu ddodrefn ail-law hefyd yn llai costus na’u prynu’n newydd.

tools icon

Dysgu sgiliau newydd

Gall ailddefnyddio ac atgyweirio fod yn ffordd greadigol o roi cynnig ar bethau newydd, ennill sgiliau defnyddiol, gwerthfawrogi’r hyn sydd gennym eisoes a dod o hyd i ffyrdd newydd o gael y defnydd gorau ohonynt.

Water drop icon

Gwarchod adnoddau naturiol ein planed

Pan fyddwn yn ailddefnyddio neu’n atgyweirio, rydym yn helpu i arbed adnoddau megis ynni a dŵr.

Ar waith

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol