Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -
Wedi diweddaru: 21/03/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Awgrymiadau ar gyfer Arbed Ynni
Mae defnyddio'r peirian sychu dillad ychydig yn llai ac addasiad bach i ostwng gosodiadau thermostat a rheiddiaduron yn ffyrdd cost isel, cyflym a hawdd i leihau ein defnydd o ynni. Mae yna lawer o gamau syml a all helpu i leihau biliau nwy a thrydan, yn ogystal â faint o allyriadau carbon niweidiol y mae ein cartrefi yn eu cynhyrchu.
Gall y ffyrdd yr ydym yn gwresogi ac yn oeri ein cartrefi gyfrannu at newid yn yr hinsawdd. O ganlyniad i'r argyfwng costau byw, mae nifer cynyddol o aelwydydd eisoes yn treialu'r hyn y gallan nhw ei leihau i lefel gyfforddus.
Beth allwn ni ei wneud?
Os ydych chi wedi ystyried sut i leihau eich biliau ynni, dyma chwe syniad da na fydd yn costio ceiniog i chi. Os ydych yn rhentu neu’n berchen ar eich eiddo, dylai’r camau hyn fod yn bosibl i’r rhan fwyaf ohonom sydd â boeleri combi nwy.
Cofiwch, dylech geisio cadw eich cartref yn ddigon cynnes. Mae cartref sy’n rhy oer yn effeithio ar eich iechyd a’ch lles a gall hefyd arwain at leithder. Sicrhewch fod isafswm y tymheredd tu mewn rhwng 18°C a 21°C – dylai eich thermostat ddangos y tymheredd i chi.
Gwisgwch ddillad cynnes a gostwng tymheredd y thermostat
Gall gosod thermostat eich ystafell 1°C yn is nag arfer leihau eich biliau gwresogi hyd at 10%. Gallech ychwanegu haen o ddillad thermal i’ch cadw’n gynnes.
Lleihau tymheredd llif eich boeler
Mae llawer o foeleri wedi’u gosod i wresogi dŵr i 75-80°C. Os oes gennych foeler combi, dylai 60°C fod yn ddigon cynnes. Gallai gwneud hyn arbed rhwng 8 a 13% ar eich bil nwy. Gallwch ostwng y tymheredd eich hun; mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ganllaw defnyddiol sy’n dangos sut i wneud hyn.
Gostwng gwres rheiddiaduron
Gallai hyn eich helpu i ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir o gysur ac effeithlonrwydd ynni ac arbed hyd at £70 y flwyddyn i chi.
Diffoddwch yr opsiwn rhagboethi
Mae swyddogaeth rhagboethi eich boeler combi yn cadw dŵr yn boeth ac yn barod i’w ddefnyddio wrth droi’r tap. Byddai diffodd hyn yn golygu y byddai’n rhaid i chi aros am gyfnod byr i’r dŵr gynhesu bob tro y byddwch am gymryd cawod, ond bydd yn arbed arian i chi. Gwiriwch eich llawlyfr i ddarganfod sut i wneud hyn – os nad oes gennych lawlyfr, dylech allu dod o hyd iddo ar-lein neu siaradwch â pheiriannydd gwresogi neu eich cwmni ynni.
Rhowch gynnig ar sychu dillad yn yr aer
Gall defnyddio rhesel grasu dillad yn lle peiriant sychu leihau eich defnydd o ynni yn sylweddol, lleihau eich biliau, a hyd yn oed ymestyn oes eich dillad. Sicrhewch nad ydych yn sychu dillad ar reiddiaduron oherwydd gall hyn achosi llwydni, a dylech sychu dillad dan do dim ond mewn mannau lle gallwch agor ffenestri. Os gallwch sychu eich dillad ar y lein y tu allan, dyma’r dewis gorau.
Sicrhewch eich bod yn awyru a chysgodi’n ddigonol
Agorwch y ffenestri pan fo hynny’n bosibl, fel bod awyr iach yn dod i mewn i’ch cartref. Ystyriwch ddewisiadau cysgodi naturiol megis tyfu coed neu blanhigion deiliog ger ffenestri er mwyn osgoi defnyddio gwyntyllau ac aerdymheru mewn tywydd poeth a chreu amgylchedd dymunol. Gall llenni a bleindiau eich helpu i rwystro golau haul uniongyrchol a lleihau gwres hefyd.
Dyma ragor o gamau y gallwch eu cymryd i leihau eich defnydd o ynni yn y cartref, o awgrymiadau di-gost a fforddiadwy i fuddsoddiadau mwy a allai arbed arian i chi yn y tymor hir:
Peidiwch â gorchuddio rheiddiaduron
Ddylech chi ddim rhoi dillad gwlyb na dodrefn yn rhy agos at reiddiadur. Mae hyn yn bwysig am resymau diogelwch ond bydd hefyd yn gadael i wres y rheiddiaduron ledaenu’n gyflymach a bydd eich cartref yn cynhesu’n gyflymach.
Defnyddiwch ffynonellau gwres naturiol
Pan fydd golau haul, agorwch y llenni i gadw eich cartref yn gynnes – ond cofiwch eu cau yn y nos i gadw aer cynnes y tu mewn.
Diffoddwch y goleuadau
Cofiwch ddiffodd y goleuadau pan nad oes eu hangen arnoch a thynnwch blygiau offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Defnyddiwch lai o ddŵr
Mae gwresogi dŵr ar gyfer cawodydd a thapiau yn defnyddio ynni. Gall defnyddio llai o ddŵr helpu i leihau faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio.
Atal drafft
Sicrhewch eich bod yn atal drafft o unrhyw fylchau, er enghraifft mewn ffenestri neu dan ddrysau, er mwyn cadw’r gwres i mewn. Mae dewisiadau fforddiadwy eraill i gadw gwres i mewn yn ystod y misoedd oer, er enghraifft, ychwanegu haen inswleiddio ar eich ffenestri, a defnyddio llenni a rygiau â leinin thermal.
Cadwch y tŷ yn oer yn yr haf
Gall haen inswleiddio a chadw llenni ar gau helpu i gadw eich eiddo yn oer pan fydd hi’n boeth y tu allan. Ceisiwch beidio â defnyddio ffwrn ar ddiwrnodau poeth iawn ac agorwch ffenestri yn y nos (os yw’n ddiogel) er mwyn gadael i aer oer ddod i mewn. Gall hyn osgoi’r angen am aerdymheru costus.
Arhoswch tan yn hwyrach yn y tymor i droi’r gwres ymlaen
Bydd hyn yn eich helpu i arbed arian ar eich biliau ynni a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd. Bydd hefyd yn rhoi mwy o amser i chi sicrhau bod eich system wresogi mewn cyflwr da ac yn rhedeg yn effeithlon.
Rhag-gynheswch eich cartref.
Felly, beth yw rhag-gynhesu? Os yw eich cartref wedi’i inswleiddio a thermostat rhaglenadwy gennych chi, gallwch ei rag-gynhesu cyn yr oriau brig i fanteisio ar dariffau rhatach. I rag-gynhesu eich cartref, trowch eich thermostat i dymheredd uwch cyn bod angen y gwres arnoch.
Defnyddiwch eich ffôn clyfar
Os gallwch eu fforddio, prynwch offer clyfar am eu bod yn gallu eich helpu i fanteisio ar dariffau ynni newydd sy’n cael eu treialu ar hyn o bryd. Gallwch hefyd ddefnyddio eich dyfeisiau clyfar i raglennu eich systemau gwresogi ac arbed hyd at £60 y flwyddyn – maent yn ffordd wych o reoleiddio tymheredd eich cartref a rheoli eich defnydd o ynni yn fwy effeithlon. Er enghraifft, gallwch reoli’r gwres o bell trwy osod rheolaethau wedi’u hawtomeiddio.
Ymchwilio i osod systemau ynni adnewyddadwy
Mae systemau ynni adnewyddadwy, o bympiau gwres i baneli solar, yn fuddsoddiadau mawr ond pwysig sy'n helpu i leihau allyriadau carbon a lleihau biliau tanwydd. Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru yma.
Pam gweithredu?
Mae system ynni Cymru yn cynhyrchu’r symiau uchaf erioed o ynni gwyrdd bob blwyddyn. Ond sut bydd mabwysiadu arferion ynni gwyrdd yn ein helpu ni a’r blaned?
Lleihau allyriadau carbon
Er mwyn lleihau allyriadau carbon ein cartrefi, mae angen i ni newid sut yr ydym yn defnyddio ynni a’r math o ynni a ddefnyddiwn. Trwy wneud dewisiadau ynni gwyrdd yn y cartref gallwn ni i gyd ostwng ein hallyriadau carbon a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’n gilydd.
Arbed arian
Bydd defnyddio llai o ynni yn lleihau ein biliau tanwydd ac yn arbed arian. Mae hyd yn oed y newidiadau lleiaf yn gallu cyfrif a gwneud gwahaniaeth.
Beth mae Cymru’n ei wneud?
Hyd fideo:
27 eiliadau