Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Insiwleiddio'ch cartref

Mae ychydig mwy o inswleiddio ac ychydig yn llai o golli gwres yn un o’r pethau gorau y gallwn ei wneud i leihau allyriadau carbon ac arbed ar filiau ynni.

Gall inswleiddio atig, waliau, llawr, ffenestri a phibellau ein cartrefi arwain at golli llawer llai o wres. Er y gallech arbed yn y tymor hir, gall fod yn wariant cychwynnol drud, felly gwiriwch y cynllun Nyth - Gwneud Cymru’n Glyd er mwyn darganfod a ydych yn gymwys i gael gwelliannau ynni cartref am ddim, ac ar gyfer ffynonellau cymorth Llywodraeth Cymru.  

Beth allwn ni ei wneud?

O atebion cyflym i osodiadau proffesiynol, ystyriwch y mesurau inswleiddio hyn yn dibynnu ar eich cyllideb a’r math o eiddo rydych chi’n byw ynddo.  

Arrow pointing right

Ceisiwch atal drafft cymaint ag y gallwch

Mae lleihau gollyngiadau aer ac ymdreiddiad aer yn cael effaith sylweddol ar yr ynni y mae cartref yn ei ddefnyddio, ar yr amod bod gennych awyru digonol ac effeithiol o hyd. Mae stribedi gwrth-ddrafft yn opsiwn defnyddiol a rhad. Maent yn cael eu gosod o dan ffenestri a drysau er mwyn helpu i atal aer oer rhag mynd i mewn, ac aer cynnes rhag dianc.  

Arrow pointing right

Ychwanegwch haen inswleiddio at ffenestri

Mae haen ffenestr yn haen ychwanegol o inswleiddio i chi ac mae’n opsiwn gwych os na allwch fforddio gwydr dwbl. Mae’n hawdd ei ffitio ac yn cadw gwres i mewn yn ystod y misoedd oer, yn ogystal â lleihau gwres o olau’r haul i gael cartref oerach yn yr haf. Gallech fynd un cam ymhellach ac ychwanegu llenni wedi’u leinio â thermol i gadw ystafelloedd hyd yn oed yn gynhesach yn y gaeaf.

Arrow pointing right

Inswleiddio dŵr poeth

Gall inswleiddio pibellau, tanciau a rheiddiaduron fod yn ffordd gyflym, hawdd a fforddiadwy o arbed arian ar filiau ynni. Er enghraifft, gallech osod paneli adlewyrchu y tu ôl i reiddiaduron ar waliau allanol, er mwyn atal y gwres rhag gadael eich cartref. Neu rhowch siaced o amgylch eich silindr dŵr poeth i helpu dŵr poeth i aros yn gynhesach am fwy o amser.

Arrow pointing right

Ffenestri gwydr dwbl

Mae gan wydr dwbl ddwy haen o wydr gyda bwlch rhyngddynt, gan gynnig inswleiddio rhagorol yn erbyn colli gwres. Mae’r ateb effeithlon hwn yn cadw’ch cartref yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf, gan ei wneud yn effeithlon o ran ynni trwy gydol y flwyddyn. Gall gwydr eilaidd, sy’n cynnwys gosod ffenestr “eilaidd” neu ffenestr fewnol gwbl annibynnol ar ochr ystafell y brif ffenestr, fod yn ddewis arall da ar gyfer adeiladau traddodiadol a gwarchodedig, lle nad yw ailosod ffenestri yn opsiwn addas. Gall hefyd fod yn llai dwys o ran carbon i uwchraddio gyda gwydr eilaidd na cholli’r carbon ymgorfforedig yn y ffenestri presennol.

 

Arrow pointing right

Inswleiddio waliau

Mae tua thraean o’r gwres yn cael ei golli trwy’r waliau mewn cartref sydd heb ei inswleiddio, felly gyda’r fanyleb, y dull dylunio a gosod cywir, gall inswleiddio waliau fod yn fuddsoddiad effeithiol iawn. Ystyriwch unrhyw risgiau bob amser a cheisiwch gyngor proffesiynol yn gyntaf, oherwydd gall y math anghywir o inswleiddio ei gwneud hi’n anos cadw cartref yn oer, a gwneud anwedd yn waeth. Edrychwch ar wefan Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i gael arweiniad ynghylch a oes gan eich eiddo waliau solet neu geudod, a beth i’w wneud nesaf.

Arrow pointing right

Inswleiddio to

Gall tai golli hyd at 25% o’u gwres drwy’r to. Mae inswleiddio’r daflod neu’r to yn ffordd syml ac effeithiol o gyfyngu ar y golled honno a gostwng biliau gwresogi. Ond meddyliwch am ddeunyddiau. Fel pob deunydd adeiladu, mae gan ddeunydd inswleiddio ‘garbon ymgorfforedig’ – y CO2 sy’n gysylltiedig â’i weithgynhyrchu, ei gludo, yr adeiladu ac ati. Mae dewis deunyddiau sydd â charbon ymgorfforedig isel yn lleihau effeithiau amgylcheddol.

Arrow pointing right

Inswleiddio llawr

Fel arfer dim ond y llawr gwaelod sydd angen ei inswleiddio, felly i’r rhai ohonom sy’n byw mewn tŷ, byngalo neu fflat llawr gwaelod, mae hon yn ffordd wych o gadw’r eiddo’n gynnes. Ar gyfer datrysiad cyflym, seliwch y bylchau rhwng byrddau llawr a’r sgertin heb eu gorchuddio gan ddefnyddio tiwb o sêl calcio o unrhyw siop DIY, ac ychwanegwch lenwad bwlch bwrdd llawr i leihau drafftiau. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn blocio fentiau a griliau dan y llawr, oherwydd gallai hynny arwain at broblemau wrth i leithder gronni, fel pydredd trawstiau llawr.

Mae’r canllaw hwn gan Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn egluro pob un o’r uchod mewn ychydig mwy o fanylder, gan gynnwys mwy ar ba mor hawdd yw eu gosod a’u manteision. Gallwch hefyd ddarganfod mwy yng Nghanllaw defnyddwyr ar brynu cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd Llywodraeth y DU.

Ar gyfer unrhyw waith mawr, dewch o hyd i osodwr dibynadwy yn eich ardal. Lle da i ddechrau yw TrustMark – cynllun a gymeradwyir gan y Llywodraeth ar gyfer gwaith a wneir i’ch cartref.  

Pam gweithredu

Arrow pointing down

Lleihau allyriadau carbon

Bydd cartref wedi’i inswleiddio’n dda yn helpu i leihau’r defnydd o ynni ac, yn ei dro, y defnydd o danwydd ffosil a chynhyrchu allyriadau carbon. Gall gwella effeithlonrwydd ynni cartref, trwy well inswleiddio, er enghraifft, leihau ei ôl troed carbon hyd at 900 cilogram o CO2e y flwyddyn.

Currency_icon

Arbed arian

Mae lleihau faint o ynni sydd ei angen i gynhesu ein cartrefi yn arbed arian ar filiau cyfleustodau.

 

Arrow pointing down

Atal llwydni

Mae inswleiddio (ac awyru) yn chwarae rhan wrth reoli anwedd ac atal twf llwydni o amgylch y cartref. Cofiwch ofyn am gyngor proffesiynol a dewis y deunyddiau cywir ar gyfer y math o gartref rydych chi’n byw ynddo.

Home Insulation

Rhaglen Ôl-osod Optimeiddio

Cafodd Jayne Martin o Bontardawe inswleiddio to a waliau allanol ei thŷ fel rhan o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Dysgwch sut y gwnaeth hynny helpu Jayne i deimlo’n fwy cyfforddus ac arbed arian iddi.

Darllenwch stori Jane

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol