Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Gweithredu yn y Sector Cyhoeddus

Gyda mwy na 780 o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, mae maint a dylanwad y sector hwn yn golygu bod ganddo rôl allweddol o ran helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Dyma’r ddau faes lle mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus weithredu:

Arrow pointing right

Rhoi cymorth

Mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau hanfodol, y seilwaith a’r cymorth sy’n angenrheidiol er mwyn helpu i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy cyfleus ac yn fwy fforddiadwy i aelwydydd, cymunedau a busnesau ledled Cymru. Yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gan sefydliadau’r sector cyhoeddus rwymedigaeth gyfreithiol i gynnwys pobl o bob oed a chefndir wrth wneud penderfyniadau.

Arrow pointing right

Arwain trwy esiampl

Yn ogystal â’n cynorthwyo ni i gymryd camau, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn gyfrifol am ymgorffori ffyrdd gwyrdd o ymddwyn yn eu gwaith eu hunain, gan wneud yn siŵr bod eu harweinwyr, eu rheolwyr a’u staff yn cael eu harwain trwy esiampl.

 

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i’n helpu i wneud dewisiadau gwyrdd?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o sefydliadau’r sector cyhoeddus i gyflawni Sero Net, trwy gyfrwng polisïau a rhaglenni cymorth:

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn arwain trwy esiampl?

  • Gweledigaeth: Mae Cymru Sero Net yn pennu’r weledigaeth ar gyfer cael sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. Mae hyn yn golygu lleihau allyriadau’n fawr trwy’r sefydliadau hyn yn ogystal â thrawsnewid eu perthynas gyda natur.

  • Targedau: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun strategol sero net ei hun, lle nodir y targedau, y dull llywodraethu a’r mentrau ar gyfer cyrraedd sefyllfa sero net erbyn 2030.

  • Gweithredu ysbrydoledig: Mae nifer o gyflogwyr yn sector cyhoeddus Cymru yn cynnal rhwydweithiau staff gwirfoddol er mwyn annog ffyrdd gwyrdd o ymddwyn. Mae gan staff Llywodraeth Cymru, er enghraifft, rwydwaith gwirfoddol o’r enw ‘Byw’n Gynaliadwy’ sy’n cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddysgu sut y gallant fyw’n fwy cynaliadwy a lleihau eu hôl troed carbon gartref ac yn y swyddfa.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol