Cyhoeddi yn gyntaf: 05/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Ymaddasu i’r hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn digwydd – eisoes, rydym yn gweld yr effaith yng Nghymru ar ffurf digwyddiadau hinsawdd fel sychder a llifogydd, ac yn fyd-eang ar ffurf mwy o danau gwyllt. Mae angen i ni gymryd camau uniongyrchol nawr i wneud ein cartrefi, ein cymunedau a’n hamgylchedd lleol yn fwy gwydn i newid hinsawdd, a sicrhau ein bod wedi paratoi’n dda ar gyfer yr effeithiau y byddwn yn parhau i’w gweld yn y dyfodol. 

Beth allwn ni ei wneud?

Bydd lleihau allyriadau carbon niweidiol yn ein helpu i osgoi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd – ond mae angen inni addasu i’r effeithiau rydym eisoes yn eu gweld hefyd. 

Mae llywodraethau’n chwarae rhan hanfodol drwy bennu polisïau cenedlaethol sy’n sbarduno ymaddasu i’r hinsawdd, megis ymgorffori mwy o wydnwch mewn safonau adeiladu, rheoli adnoddau dŵr ac atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli peryglon llifogydd. Dysgwch ragor am sut y gall natur ein hamddiffyn rhag effaith newid hinsawdd. 

Ond gallwn ni gyd chwarae ein rhan. Felly, beth allwn ni ei wneud? 

Arrow pointing right

Plannu coed

Mae coed mewn strydoedd a pharciau yn helpu i gadw ardaloedd trefol yn oerach yn yr haf ac yn rhoi cysgod i bobl ac adeiladau. Maent hefyd yn lleihau’r pwysau ar systemau draenio trwy amsugno dŵr a fyddai fel arall yn llifo oddi ar yr arwynebau caled helaeth sydd gennym yn ein trefi, dinasoedd a phentrefi. Darllenwch fwy am systemau draenio cynaliadwy.

Arrow pointing right

Arbed dŵr

Mae angen i gwmnïau dŵr fod yn barod i ddelio â phrinder dŵr, ond gallwn hefyd feddwl am ein defnydd ni o ddŵr er mwyn sicrhau bod gan bawb ddigon yn ystod tywydd poeth neu sychder. Mae ffyrdd syml o arbed dŵr yn ein cartrefi, megis rhoi cynnig ar fesurydd dŵr a chymryd cawodydd byrrach. Mae arbed dŵr hefyd yn arbed ynni, gan ei fod yn golygu bod angen llai o buro, pwmpio a phrosesu.

Arrow pointing right

Iechyd y pridd

Gall pridd iach amsugno dŵr, a’n hamddiffyn rhag sychder a llifogydd. Gyda’n priddoedd yn erydu ac yn dirywio, gallwn ni gyd helpu i adfer iechyd y pridd trwy gyfoethogi ein gerddi gyda chompost cartref. Dysgwch fwy am sut i warchod eich pridd gartref. 

Arrow pointing right

Mae cynnal a chadw yn bwysig

Cadw adeiladau mewn cyflwr da yw'r cam cyntaf i'w gwneud yn fwy cadarn i'r hinsawdd sy'n newid. Rydym eisoes wedi gweld yr effeithiau mawr y mae llifogydd ac erydu arfordirol wedi'u cael ar gartrefi ledled Cymru ac mae'n debygol y bydd effeithiau tymor hwy, llai uniongyrchol na allwn eu rhagweld eto. Cynnal a chadw yw'r cam cyntaf tuag at gadernid yn yr hinsawdd ac effeithlonrwydd ynni. Darllenwch fwy yn Cynnal a Chadw! | Cadw (gov.wales) ac edrychwch ar nyth.llyw.cymru am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael.

Arrow pointing right

Amddiffyn rhag gwres

Mae angen i ni hefyd roi mesurau ar waith i amddiffyn ein hunain rhag tymereddau uwch a'r risg o straen gwres, a sicrhau ein bod yn gofalu am bobl hŷn a'r mwyaf bregus. Mae yna lawer o bethau syml y gallwn ni eu gwneud i amddiffyn ein hunain rhag effeithiau gormod o wres a haul. Gweler Iechyd Cyhoeddus Cymru am fwy o wybodaeth ar sut i gadw allan o'r gwres, oeri a chadw'ch amgylchedd ar dymheredd cyfforddus.

Arrow pointing right

Amddiffyn rhag llifogydd

Mae newid yn yr hinsawdd (gan arwain at lawiad mwy dwys a chynnydd yn lefel y môr) a newidiadau dynol i'r amgylchedd, e.e. o drefoli gan arwain at gynnydd mewn cyfaint a chyfradd dŵr ffo, yn golygu y bydd nifer y bobl a'r cartrefi sy'n agored i lifogydd yn parhau i godi. Mae angen i ni i gyd fod yn barod i amddiffyn ein hunain, ein cartrefi a'n cymunedau rhag perygl llifogydd. Gwybodaeth am sut i baratoi'ch cartref ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl digwyddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Arrow pointing right

Atal tanau gwyllt a’n hamddiffyn ein hunain rhagddynt

Mae llai o law a sychder, tymereddau poethach a gwynt i gyd yn rysáit perffaith ar gyfer tanau gwyllt. Mae newid yn yr hinsawdd yn arwain at danau gwyllt mwy aml, eang a dwys yn y DU. Mae haenau o redyn marw ar lethrau bryniau Cymru hefyd yn gweithredu fel tanwydd ar gyfer tanau gwyllt. Darllenwch awgrymiadau ar sut y gallwn ni helpu i atal tanau gwyllt, a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl tân gwyllt ar wefan Y Groes Goch Brydeinig.

Pam mae angen gweithredu?

Er mwyn addasu i newid hinsawdd a lleihau’r peryglon i’n bywydau a ddaw yn ei sgil, mae angen i ni adeiladu mwy o wydnwch yn wyneb ei effaith ar ein hiechyd, ein cartrefi a’n cymunedau. Mae hyn yn golygu rhoi mesurau ar waith i amddiffyn rhag tywydd eithafol gan gynnwys llifogydd, sychder, tymereddau uchel a thanau, lefelau môr yn codi, mwy o lif mewn afonydd, erydiad a chynnydd mewn plâu. Mae effaith y rhain yn cynnwys:

Forest icon

Gall tywydd eithafol effeithio ar ein pridd, ein cnydau a’n da byw, a allai effeithio ar yr hyn yr ydym yn ei dyfu a’i gynhyrchu, a sut rydym yn gwneud hynny yng Nghymru

transport issues icon

Gallai lifogydd a thywydd eithafol arall effeithio ar drafnidiaeth, gydag amharu, colli gwasanaeth neu dymereddau anghysurus o uchel ar drafnidiaeth gyhoeddus

buildings icon

Mae risg i fusnesau ac adeiladau o lif uchel mewn afonydd, erydiad a thywydd eithafol. Gall adeiladau hefyd fod yn rhy gynnes oherwydd tymereddau uwch, gan beryglu iechyd a lles pobl

Water drop icon

Mae sychder yn rhoi cyflenwadau dŵr yn y fantol, a gall tymheredd uwch beri i’r dŵr sydd wedi ei storio anweddu ynghynt. Hefyd, mae sychder yn cynyddu’r perygl y bydd tanau gwyllt yn digwydd.

Prosiect bywyd gwyllt cymunedol

Aeth y prosiect bywyd gwyllt hwn, a gafodd ei ariannu, ati i drawsnewid tir segur yn Aberdâr a dod â'r gymuned ynghyd.

Rhagor o wybodaeth

Beth mae Cymru’n ei wneud?

Hyd fideo:

30 eiliadau

Gwyliwch ar Youtube

Mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chyrff eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cymryd camau i addasu i effaith newid hinsawdd. Bydd hyn y lleihau bygythiadau newid hinsawdd, yn enwedig i gymunedau mwy agored i niwed. Hefyd, mae’r sector cyhoeddus yn gweithio gyda chymunedau i’w helpu i wrthsefyll risgiau newid hinsawdd yn well. I ddysgu rhagor, gweler Cynllun Addasu Hinsawdd cyfredol Llywodraeth Cymru, sef Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd, ac Asesiad Annibynnol o Risg Newid Hinsawdd gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.

Mae’r prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys: 

  • Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

  • Diogelu cyflenwadau dŵr rhag sychder.

  • Diogelu a gwella ecosystemau naturiol.

  • Cynllun ffermio cynaliadwy er mwyn sicrhau bod dulliau rheoli tir ac amrywogaethau cnydau’n addas i hinsawdd y dyfodol.

  • Annog mwy o goetiroedd a mwy o gynefinoedd eraill er mwyn helpu natur ac ansawdd yr aer, ynghyd â diogelu priddoedd a lleihau perygl llifogydd.

  • Creu mwy o fannau gwyrdd agored mewn trefi a dinasoedd, fel parciau, caeau chwarae, rhandiroedd, gerddi preifat, glaswelltiroedd, pyllau a choetiroedd, gan greu amgylchedd sy’n dda i lesiant pobl ac i’r hinsawdd.

  • Ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni er mwyn sicrhau y bydd llai o wres yn dianc yn ystod tywydd oer ac er mwyn helpu i gadw adeiladau’n oerach yn ystod tywydd poeth mewn 148,000 o dai erbyn 2025.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol