Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 02/09/2025 -

Wedi diweddaru: 02/09/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru

Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bawb. Dyma sut rydyn ni'n dod at ein gilydd i’w daclo yng Nghymru.

Mae ein hinsawdd yn newid. Yng Nghymru, rydyn ni’n gweld gaeafau gwlypach, hafau poethach a thywydd mwy eithafol.

Mae angen i ni gymryd camau brys. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi camau gweithredu sy'n deg, yn ymarferol ac o fewn cyrraedd pawb – ac a fydd yn ein gwneud ni'n iachach, yn helpu gyda chostau byw, yn rhoi hwb i'n heconomi, yn creu swyddi newydd ac yn diogelu Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae angen i bob un ohonom geisio gwneud yr hyn y gallwn: Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ein cymunedau, busnesau, ysgolion, a phobl o bob cefndir.

Rydyn ni eisoes yn gwneud cynnydd. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd, ond mae gan bawb y potensial i fod â rhan bwysig wrth greu Cymru lanach, tecach ac iachach.

Ein nodau gwyrdd

Mae gan Gymru uchelgais fawr: cyrraedd sero net erbyn 2050. Mae hynny'n golygu y byddwn yn cydbwyso faint o nwyon tŷ gwydr niweidiol rydyn ni'n eu rhyddhau i'r atmosffer â faint rydyn ni'n ei dynnu allan.

Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, rydyn ni wedi gosod targedau clir – o nifer y cartrefi y mae angen eu pweru â thrydan glân i faint o wastraff rydyn ni'n ei ailgylchu. Rydyn ni'n olrhain ein cynnydd a gallwn weld lle mae angen i ni wella.

Rydyn ni ar ein ffordd. Dyma beth mae Cymru yn ei wneud i wireddu ein nodau gwyrdd.

Ein dewisiadau bob dydd

Mae gweithredu ar yr hinsawdd yn dechrau gartref – ac ar y cyd â phartneriaid cyflawni, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn haws i bob cartref gyfrannu er mwyn i Gymru ddod yn genedl ddiwastraff. Mae hynny'n golygu lleihau'r hyn rydyn ni'n ei brynu’n newydd, ailddefnyddio ac atgyweirio'r hyn y gallwn, ac ailgylchu'r gweddill.

Yng Nghymru, rydyn ni wedi arwain y ffordd gyda pholisïau i ddiogelu'r amgylchedd. Rydyn ni wedi cymryd camau i ddileu plastigau untro, gwahardd gwerthu fêps tafladwy neu untro, a chyflwyno cyfraith ailgylchu yn y gweithle genedlaethol.

Rydyn ni hefyd yn cefnogi ymdrechion cymunedol i wneud i nwyddau bara'n hirach, fel caffis atgyweirio, elusennau ailddefnyddio a llyfrgelloedd pethau.

compost icon

Ailgylchu

Yn 2025, fe wnaethom gyrraedd ein targed o ailgylchu 70% o'r holl wastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu.

block icon

Mynd yn sero wastraff

Rydyn ni ar y ffordd i fod â dim gwastraff erbyn 2050, pan fydd dim yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Arrow circle up

Anelu at #1

Mae Cymru eisoes yn cael ei chydnabod fel yr ail genedl orau yn y byd ar gyfer ailgylchu – a’n nod yw cyrraedd y safle uchaf.

Hyrwyddo teithio cynaliadwy

Mae angen i ni i gyd fynd o A i B, p'un a ydym yn casglu'r plant, yn mynd i'r gwaith, neu'n ymweld â ffrindiau. Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'n partneriaid cyflawni yn gweithio i wneud teithio cynaliadwy yn haws i bawb, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus gwell, mwy dibynadwy a llwybrau cerdded a beicio mwy diogel.

Mae hynny'n golygu llai o dagfeydd, mwy o ymarfer corff, aer glanach, a lleoedd iachach i fyw.

Car icon

Gyrru glanach

Bydd pob car a fan newydd sy'n cael ei werthu yng Nghymru yn ddi-allyriadau erbyn 2035.

Energy bolt icon

Cynyddu gwefrwyr

Rydyn ni wedi cynyddu nifer y gwefrwyr cyhoeddus ar gyfer cerbydau trydan yng Nghymru 87% mewn dwy flynedd, ac rydyn ni’n buddsoddi £6m yn fwy eleni i gefnogi eu gosod.

well-being icon

Teithio llesol

Erbyn 2040, byddwn yn ei gwneud hi'n bosibl i 45% o deithiau gael eu gwneud ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Glanhau ynni

Efallai mai glo yw treftadaeth ddiwydiannol Cymru, ond mae ein dyfodol mewn ynni adnewyddadwy glân. Mae llawer o fanteision – mwy o ddiogeledd ynni trwy lai o ddibyniaeth ar ynni wedi'i fewnforio, swyddi gwyrdd, biliau rhatach a mwy.

Mae dileu tanwydd ffosil yn rhan hanfodol o hyn. Ond mae angen i ni hefyd leihau ein gofynion am ynni trwy adeiladau wedi'u hinswleiddio’n well a thechnolegau ynni-effeithlon.

Trwy elwa i’r eithaf o ynni gwynt, dŵr a solar, gallwn greu'r seilwaith a fydd yn pweru ein cartrefi a'n bywydau am ddegawdau i ddod.

air icon

Cynhyrchu ynni glanach

Mae cynhyrchu trydan adnewyddadwy yng Nghymru wedi treblu ers 2008 ac wedi dyblu ers 2012. Daw tua 70% o hyn o ynni gwynt ar y tir ac ar y môr.

Energy bolt icon

Trydan Gwyrdd Cymru

Nod cwmni ynni cyhoeddus newydd, Trydan Gwyrdd Cymru, yw cynhyrchu trydan i bweru 180,000 o gartrefi erbyn 2030 – a thair gwaith yn fwy erbyn 2040.

buildings icon

Gwella effeithlonrwydd ynni

Y llynedd, gwnaethom ymrwymo £256 miliwn i wella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasol yng Nghymru – gan gynnwys systemau gwresogi carbon isel.

Gwneud bwyd yn fwy cynaliadwy

Mae ein dewisiadau bwyd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd ac ar ein lles.

Mae hyn yn sgil llawer o wahanol ffactorau: sut a ble mae'r bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i becynnu, p'un a yw’n dymhorol ai peidio, faint ohono na chaiff ei fwyta, a beth sy'n digwydd i'r gwastraff.

Trwy weithredu i leihau gwastraff bwyd, gallwn leihau allyriadau carbon niweidiol a hefyd eich helpu i arbed arian a bwyta'n fwy iach.

compost icon

Lleihau gwastraff bwyd

Rydyn ni’n darparu cefnogaeth i elusennau cymunedol sy'n atal bwyd dros ben rhag cael ei wastraffu, gan ei roi i bobl mewn angen.

Rhoi ein gwastraff at ddefnydd da

Am fwy na 10 mlynedd, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi bod yn casglu gwastraff cegin pobl yn wythnosol (a nawr o weithleoedd hefyd). Fe'i defnyddir naill ai i gynhyrchu bionwy ar gyfer ynni a bio-wrtaith ar gyfer ffermio, neu mae’n cael ei gompostio.

Gwarchod ein tirweddau a'n natur

Mae Cymru yn wlad werdd a hardd. Mae natur yn rhan o bwy ydym ni: yr arfordiroedd, y mynyddoedd, ein bywyd gwyllt, a'n tir amaethyddol. Ond mae o dan bwysau.

Rydyn ni’n cynyddu ein hymdrechion i gyd-fyw â natur, gan ei amddiffyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Os gallwn ni wneud hyn, bydd natur yn ein hamddiffyn rhag llifogydd, rhag gorboethi, a hyd yn oed rhag ansicrwydd bwyd – a bydd yn helpu i amsugno mwy o garbon o'r atmosffer.

wave icon

Gwarchod tir

Ein nod yw gwarchod 30% o ardaloedd tir, dŵr croyw a morol Cymru ar gyfer natur erbyn 2030.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Rydyn ni wedi dechrau gweithio ar Goedwig Genedlaethol Cymru – rhwydwaith o goetiroedd sy'n rhedeg ar hyd a lled Cymru, fydd o fudd i'n hiechyd a'n hamgylchedd.

terrain icon

Adfer mawndiroedd

Rydyn ni wedi bod yn gweithio i adfer mawndiroedd Cymru, sy'n storio llawer iawn o garbon – gan gyrraedd ein targedau cychwynnol flwyddyn yn gynnar.

Ble allwn ni ddechrau?

Rydyn ni eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i bawb fod â rhan wrth greu Cymru lanach, decach ac iachach.

Os ydych chi'n meddwl tybed ble i ddechrau, rydych chi wedi dod i'r lle iawn. Mae digon o wybodaeth, syniadau ac awgrymiadau ymarferol ar y tudalennau hyn.

Mwy am yr hyn y mae Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Sut gallwch chi gymryd rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Cwblhewch Dewis Gwyrdd i wybod sut gallwch chi wneud dewisiadau dyddiol, teithio, bwyd ac ynni gwyrddach.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol