Cyhoeddi yn gyntaf: 17/06/2025 -

Wedi diweddaru: 17/06/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Gwenoliaid duon a gwenoliaid y bondo: pam maen nhw'n diflannu o'n hawyr a beth allwch chi ei wneud

Mae dyfodiad y wennol ynghyd â’r wennol ddu a gwennol y bondo wastad wedi bod yn arwydd bod y gwanwyn wedi cyrraedd. Mae cân hwyliog y wennol gyntaf yn llonni calonnau ar ôl gaeaf hir ac mae sgrech gwenoliaid duon dros y toeau yn cyffroi’r enaid. Er hynny, mae dyfodol yr adar hyn yn y fantol. Mae gwenoliaid duon a gwenoliaid y bondo bellach ar y rhestr goch o adar prin am fod eu nifer wedi gostwng yn sylweddol.

A Swift bird flying in the sky

Yma o hyd 

Bob gwanwyn, mae'r adar rhyfeddol hyn yn teithio miloedd o filltiroedd o Affrica i Brydain i fagu eu cywion. Ar ôl cyrraedd, rhaid cael hyd i safle nythu a digon o bryfed - sydd eu hunain o dan fygythiad oherwydd plaladdwyr a cholli cynefinoedd - i fwydo eu hunain a'u cywion. Mae'r newid yn yr hinsawdd a diffyg mannau nythu wedi creu sefyllfa druenus. Yn ôl y British Trust for Ornithology, mae niferoedd gwenoliaid y bondo wedi cwympo 44% ac mae gwenoliaid duon wedi gweld gostyngiad syfrdanol o 66% ers 1995. 

Ein cymdogion adeiniog 

Mae gwenoliaid duon, sy'n treulio'u bywydau cyfan bron yn yr awyr, a gwenoliaid y bondo sy’n gwneud nythod o fwd, wedi addasu i gydfyw gyda ni yn ein trefi. Dim ond i fridio y bydd gwenoliaid duon yn glanio a byddan nhw wedyn yn treulio naw mis o'r flwyddyn ar eu hadain, gan hyd yn oed cysgu yn yr awyr. Gan ddod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn i'r un safle nythu, maen nhw'n dibynnu ar fylchau mewn hen adeiladau a bondoeon i nythu. 

Ond nid oes bylchau o'r fath mewn adeiladau newydd, wedi’u moderneiddio gan olygu nad oes lleoedd iddyn nhw nythu. Gall hyd yn oed newidiadau bach, fel gosod bondo plastig yn lle un traddodiadol, gael effaith ddinistriol, gan nad yw’r nyth yn gallu glynu wrth y plastig a gall gwympo i'r llawr gan ladd y cywion. 

Two house martin birds in a nest

Cael hyd i le diogel i nythu 

Yn ein hymdrech i greu cartrefi sy’n rhad ar ynni, rydym heb fwriad wedi anghofio am rai o denantiaid mwyaf rhyfeddol byd natur. Er enghraifft, gan fod pobl yn meddwl fod nyth gwennol y bondo’n niwsans, maen nhw’n cael gwared arnyn nhw gan dorri’r gyfraith. Ar y llaw arall, mae gwenoliaid duon yn nythu mor dawel, mae'n hawdd peidio sylwi arnyn nhw o gwbl. Ond pan fyddwn yn trwsio toeon a bondoeon, byddwn yn aml yn cau pob bwlch ac agen, a bydd yr adar yn blino ac yn cael eu hanafu yn eu hymdrech ofer i fynd 'nôl at eu nythod. Mae'r drasiedi dawel hon yn dangos beth yw pris cynnydd a bod angen i ni ddysgu byw gyda'n ffrindiau adeiniog. 

two Swift birds flying in the sky

Adeiladu dyfodol i natur 

Ond trwy drugaredd, mae yna obaith. Mae 'Swift Bricks', mannau nythu wedi'u creu'n arbennig a nythod artiffisial ar gyfer gwenoliaid y bondo yn cynnig atebion ymarferol, fforddiadwy. Maen nhw'n bethau hawdd eu gosod ar adeiladau hen a newydd. Yn ogystal â chynnig mannau nythu i'r adar, maen nhw'n cryfhau ein cysylltiad â byd natur. Mae nythod sy’n bod eisoes yr un mor bwysig, a dim ond camau syml sydd angen eu cymryd i greu lle sy’n croesawu bywyd gwyllt.

2 house martins in a nest

Cymryd camau cadarnhaol 

Gall gerddi llawn blodau peilliog, pyllau dŵr a thwmpathau compost greu cynefin i ddenu'r pryfed y maen nhw'n bwydo arnyn nhw. Ar raddfa ehangach, gall herio'r defnydd o blaladdwyr a hybu bioamrywiaeth mewn mannau cyhoeddus wneud gwahaniaeth amlwg. Yn ogystal â bod yn dda i natur, bydd yr ymdrechion hyn o les i bobl hefyd, gan gynnal amgylchedd iachach, mwy cynaliadwy i bawb. 

Ymunwch â'r ymdrech 

Ymunwch â chymdeithasau gwenoliaid duon lleol i helpu i wneud awyr yr haf yn ddiogel. Dysgwch fwy am eu gwaith trwy Swift Conservation neu fentrau fel Chirk Swifts and House Martins, sy'n annog y gymuned i gefnogi a gosod blychau nythu. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau y bydd gennym fwy nag un wennol i wneud gwanwyn am genedlaethau i ddod. 

Rhagor o fanylion yma.

Bod yn rhan o'r stori 

Rhannwch eich storïau a'ch lluniau pan fydd yr adar hyn yn ymweld â'ch cartref. Os oes gennych luniau o wenoliaid duon a gwenoliaid y bondo'n nythu yn eich to, yn hedfan trwy'r awyr las neu'n bwydo uwchben yr ardd llawn pryfed rydych wedi'i chreu, anfonwch nhw a'ch storïau aton ni i ysbrydoli pobl eraill i weithredu er lles byd natur. 

Yr awdur 

Lansiodd yr awdur Hayley Garrod y prosiect Gwenoliaid Duon a Gwenoliaid y Bondo gyda’i phartner Daniel Mullock yn 2021 er mwyn mynd i’r afael â’r lleihad yn nifer y gwenoliaid. Maent yn gweithio i’r Ymddiredolaeth Camlesi ac Afonydd ac felly yn gofalu am nythfa llewyrchus o oddeutu 25 o barau nythu ar Draphont Ddŵr Y Waun. Mae’r prosiect wedi creu dros 150 o safleoedd nythu ar gyfer gwenoliaid, gan gynnwys 2 mewn tŵr eglwys, ac mae wedi ennyn diddordeb cymunedau mewn ymdrechion cadwraeth. Mae llawer o’u blychau nythu bellach yn cynnwys gwenoliaid ac mae eu rhwydwaith o warcheidwaid gwenoliaid yn parhau i ehangu.  


Credydau ffotograffiaeth

Gwennol ddu: David Naylor

Nyth gwennol y bondo: Craig Richardson

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol