Cyhoeddi yn gyntaf: 18/07/2025 -

Wedi diweddaru: 18/07/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Cyfrifiad Mawr y Gloÿnnod Byw: eich 15 munud dros natur

Mae Cyfrifiad Mawr y Gloÿnnod Byw 2025 (The Big Butterfly Count 2025) sy'n cael ei drefnu gan Butterfly Conservation, elusen bywyd gwyllt blaenllaw yn y DU, yn hedfan yn ôl rhwng 18 Gorffennaf a 10 Awst, a gwahoddir pawb yn y DU i gymryd rhan.

An orange butterfly sitting on a daisy in a field

Y cyfan sydd ei angen yw 15 munud yn yr awyr agored yn eich gardd, eich parc lleol, eich cae ysgol, neu hyd yn oed ar eich balconi i gyfrif gloÿnnod byw a gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd.

Pam? Oherwydd nad pethau hardd yn unig yw gloÿnnod byw – maen nhw hefyd yn ffordd hynod dda o asesu iechyd ein hamgylchedd. Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu gwyddonwyr i nodi sut mae'r rhywogaethau hanfodol hyn yn ymdopi â bygythiadau fel newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd, a llygredd. Mae eich mewnbwn (hyd yn oed os nad ydych yn gweld yr un glöyn byw) yn bwydo i mewn i waith cadwraeth go iawn i warchod gloÿnnod byw ar gyfer y dyfodol.

Yn 2024, cymerodd dros 85,000 o bobl ran, gan gyflwyno dros 143,000 o gyfrifiadau unigol. Mae hyn yn cyfateb i bron i 36,000 awr o fonitro gloÿnnod byw. 

Cofnododd y cyfrif dros 935,000 o loÿnnod byw a gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd yn 2024, er mai dyma'r nifer cyfartalog isaf wedi'i gofnodi, dim ond saith glöyn byw fesul sesiwn 15 munud, i lawr o 12 yn y flwyddyn flaenorol. 

An orange butterfly sitting on a purple flower

Sut i gymryd rhan

  • Dewis lleoliad
    Dewiswch unrhyw leoliad awyr agored, eich gardd, eich parc, eich cae, neu hyd yn oed eich balconi.

  • Dewis diwrnod heulog
    Mae gloÿnnod byw ar eu mwyaf gweithgar mewn tywydd cynnes, heulog, felly ceisiwch gyfrif pan fydd yr haul yn tywynnu.

  • Gosod amserydd am 15 munud
    Arhoswch mewn un lle a chyfrifwch y gloÿnnod byw rydych yn eu gweld, ynghyd â'r gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd.

  • Defnyddio'r Canllaw Adnabod
    Lawrlwythwch y siart adnabod sydd ar gael am ddim neu defnyddiwch ap Cyfrifiad Mawr y Gloÿnnod Byw i'ch helpu i adnabod rhywogaethau.

  • Cyflwyno eich cyfrifiad
    Rhowch eich canlyniadau ar wefan Cyfrifiad Mawr y Gloÿnnod Byw neu drwy'r ap. Hyd yn oed os nad ydych yn gweld yr un glöyn byw neu wyfyn, mae hynny'n dal i fod yn ddata defnyddiol.

Mae Cyfrifiad Mawr y Gloÿnnod Byw yn fwy na gweithgaredd haf – mae'n ffordd seml o gael effaith fawr. Treuliwch 15 munud yn unig yn cyfrif gloÿnnod byw a chyfrannu at ymchwil hanfodol i asesu iechyd ein hamgylchedd. Ewch i'r awyr agored a helpu i lunio dyfodol natur, un glöyn byw ar y tro.

Eisiau gwybod mwy?

P'un a ydych chi'n angerddol am helpu pryfed peillio, neu eisiau dysgu mwy am wennoliaid duon a gwenoliaid y bondo, mae gan ein hadran natur stori i chi.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol