Cyhoeddi yn gyntaf: 3 Tachwedd 2026 -
Wedi diweddaru: 3 Tachwedd 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Diffoddwch hi: un arfer bach a all helpu i wella ansawdd aer
:fill(fff))
Efallai bod gadael eich injan yn rhedeg pan rydych chi’n aros ddim yn teimlo’n bwysig. Ond ei diffodd hi yw un o’r pethau symlaf y gallwch chi ei wneud i leihau llygredd aer diangen lle rydych chi’n byw.
O 30 Medi 2026, gallai gyrwyr yng Nghymru sy’n gadael eu hinjan yn rhedeg yn ddiangen pan fyddan nhw wedi parcio ar ffordd gyhoeddus wynebu dirwy o rhwng £75 a £150, i fyny o £20.
Ond dydy hyn ddim yn ymwneud ag osgoi dirwy yn unig. Mae’n ymwneud â’r aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu.
Pam mae’n bwysig diffodd eich injan?
Pan fydd cerbyd yn segura gyda’i injan yn rhedeg, mae’n dal i gynhyrchu llygredd.
Gall allyriadau o gerbydau ychwanegu llygryddion, gan gynnwys nitrogen deuocsid a gronynnau bach sy’n cael eu galw’n ddeunydd gronynnol, i’r aer o’n cwmpas. Gall llygredd aer effeithio ar ein calonnau a’n hysgyfaint, a gall cysylltiad hirdymor gyfrannu at glefyd cardiofasgwlaidd ac anadlol a chanser yr ysgyfaint.
Amcangyfrifwyd bod tua 33,000 o flynyddoedd o fywyd iach wedi’u colli yng Nghymru yn 2023 oherwydd llygredd aer.
Ac mae hyn yn effeithio ar rai pobl yn fwy na’i gilydd.
Mae plant yn arbennig o agored i niwed oherwydd bod eu hysgyfaint yn parhau i ddatblygu. Gall pobl hŷn a phobl sy’n byw gyda chyflyrau sy’n effeithio ar y galon neu’r ysgyfaint fod yn fwy sensitif i ansawdd aer gwael hefyd.
Mae hynny’n golygu bod diffodd yr injan yn arbennig o bwysig mewn mannau lle mae pobl yn ymgynnull yn rheolaidd, fel y tu allan i ysgolion, meithrinfeydd, lleoliadau gofal iechyd, siopau a gorsafoedd trên.
Sut mae segura cerbydau yn effeithio ar ein hiechyd?
Mae’n siŵr ein bod ni i gyd wedi’i wneud.
Rydych chi’n cyrraedd ychydig funudau’n gynnar i gasglu’r plant o’r ysgol. Rydych chi’n aros am rywun y tu allan i’r siopau. Rydych chi’n eistedd yn y car yn edrych ar eich ffôn. Gall cadw’r injan yn rhedeg ddod yn arfer heb i ni feddwl amdano.
Ond os yw eich cerbyd wedi’i barcio a does dim angen bod yr injan yn rhedeg, bydd ei diffodd yn golygu na fyddwch chi’n cynhyrchu allyriadau egsôst diangen.
Mae ymchwil a adolygwyd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi canfod bod llygredd aer sy’n gysylltiedig â thraffig yn cael effaith anghymesur ar blant, gyda phlant sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn arbennig o agored i lefelau uwch o lygredd traffig.
Felly, petai llawer ohonom ni’n gwneud newid syml, gallai helpu i leihau llygredd yn y mannau lle mae plant a grwpiau eraill sy’n agored i niwed yn treulio amser.
Pryd all fod angen i chi gadw eich injan yn rhedeg?
Mae yna sefyllfaoedd lle fydd hi ddim yn ddiogel nac yn ymarferol i chi ddiffodd eich injan. Mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod Rheolau’r Ffordd Fawr.
Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gadw eich injan yn rhedeg:
Pan fyddwch chi wedi stopio oherwydd traffig
Pan fo angen yr injan i bweru offer hanfodol, fel systemau cerbydau brys, drysau hydrolig neu unedau oeri ar lorïau neu faniau
Pan fo rhywun yn ceisio canfod nam ar gerbyd, neu pan fo cerbyd yn cael ei atgyweirio
Mae’r drosedd segura llonydd yn berthnasol ar ffyrdd cyhoeddus ac nid yw’n berthnasol ar dir preifat lle mae mynediad cyhoeddus wedi’i gyfyngu. Fodd bynnag, gall diffodd eich injan pan fo’n ddiogel ac yn ymarferol i chi wneud hynny helpu i leihau allyriadau diangen o hyd.
Does dim eithriad penodol sy’n caniatáu gadael injan yn rhedeg er mwyn dadrewi neu ddiniwlio sgrin wynt. Fodd bynnag, mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr wneud yn siŵr bod eu sgrin wynt yn glir o rew, eira a niwl cyn cychwyn. Lle bo’n bosibl, dylai gyrwyr ddefnyddio dulliau eraill yn hytrach na gadael i’r injan redeg yn ddiangen.
Ond dydy cadw’r injan yn rhedeg pan fyddwch chi wedi parcio i aros am rywun, gwefru eich ffôn, gwrando ar gerddoriaeth neu gadw’r gwres neu’r aerdymheru ymlaen i fod yn gysurus ddim yn cael ei ystyried yn rheswm dros segura.
Sut i leihau allyriadau cerbydau
Y lle hawsaf i ddechrau yw gwneud yn siŵr eich bod chi’n dod i’r arfer o “barcio a diffodd”.
Os ydych chi’n aros y tu allan i’r ysgol, yn casglu rhywun o’r orsaf neu’n eistedd y tu allan i’r siopau, diffoddwch yr injan pan fydd hi’n ddiogel i chi wneud hynny.
Gallwch chi hefyd feddwl am ffyrdd eraill o leihau’r llygredd sy’n cael ei achosi gan deithiau bob dydd. Gall mynd ar droed, ar olwyn neu ar feic ar gyfer teithiau byrrach lle bo modd, cyfuno teithiau a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyd helpu i leihau nifer y teithiau rydyn ni’n eu gwneud mewn cerbydau.
Sut gallaf wirio ansawdd yr aer yng Nghymru?
Dydy llygredd aer ddim bob amser yn rhywbeth y gallwch chi ei weld neu ei arogli.
Ar wefan Ansawdd Aer Cymru gallwch chi wirio lefelau llygredd aer wedi’i fonitro ledled Cymru, gan gynnwys nitrogen deuocsid, deunydd gronynnol ac osôn.
Gallwch chi ei defnyddio i weld gwybodaeth gyfredol am ansawdd aer lle mae’n cael ei fonitro a dysgu mwy am y llygryddion yn yr aer o’n cwmpas.
:fill(transparent))