)
Dewch i rannu
Cyhoeddi yn gyntaf: 12 Hydref 2026 -
Wedi diweddaru: 12 Hydref 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Beth sydd nesaf ar gyfer gweithredu ar hinsawdd a natur yng Nghymru?
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur newydd, a fydd ystyried yr hyn sydd angen digwydd nesaf a sut y gallwn ni droi uchelgais yn weithredu ymarferol ledled Cymru.
Gall y dewisiadau y mae Cymru yn eu gwneud ar hinsawdd a natur greu manteision gwirioneddol i gymunedau, o aer glanach a chartrefi cynhesach i fannau cyhoeddus gwell, natur sy’n ffynnu ac ynni glanach, diogel.
Dyna pam mae'n bwysig clywed gan gymunedau, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau ac eraill ledled Cymru. Gall rhannu profiadau, syniadau ac arbenigedd helpu i nodi beth sy'n gweithio, ble mae'r rhwystrau a pha gamau gweithredu ymarferol allai wneud y gwahaniaeth mwyaf.
:fill(fff))
Cymryd rhan
Wrth i'r Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur newydd ddatblygu, bydd cyfleoedd i helpu i lunio'r Cynllun a'r modd o’i gyflawni, gyda sgyrsiau'n canolbwyntio ar greu dyfodol tecach a gwyrddach sy'n gweithio i gymunedau ledled Cymru.
Mae'r nod yn syml: codi ymwybyddiaeth, rhannu arfer gorau a throi syniadau'n weithredu.
Byddwn yn rhannu mwy am sut i gymryd rhan yma yn fuan.
Edrych yn ôl
Gallwch barhau i edrych drwy uchafbwyntiau, sgyrsiau a syniadau o Wythnos Hinsawdd Cymru 2025, gan gynnwys fideos, podlediadau a blogiau sy'n ymdrin â rhai o'r heriau a'r cyfleoedd hinsawdd a natur mwyaf i Gymru.
:fill(fff))
Darganfod trafodaethau o Wythnos Hinsawdd Cymru 2025
Cliciwch yma
)
:fill(transparent))
:fill(transparent))