)
Sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar Iechyd
Cyhoeddi yn gyntaf: 12 Tachwedd 2026 -
Wedi diweddaru: 12 Tachwedd 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Mae newid hinsawdd yn effeithio ar fwy na'r tywydd yn unig. Gall hafau poethach, glaw trymach a newidiadau i'r amgylchedd oll gael effaith ar ein hiechyd a'n lles.
Mae rhai o'r pethau sy'n dda i'r hinsawdd yn dda i ni hefyd.
Cartref cynhesach. Aer glanach. Mwy o fannau gwyrdd. Cerdded yn amlach. Bwyta'n dda. Gwastraffu llai o fwyd a meddyginiaeth. Gwybod beth i'w wneud pan fydd y tywydd yn mynd yn boeth neu'n wlyb iawn.
Gall y pethau hyn ein helpu ni i deimlo'n iachach ac yn fwy cyfforddus heddiw, yn ogystal â'n helpu ni i baratoi ar gyfer yfory.
Does dim angen i chi newid popeth. Dechreuwch gyda'r pethau sy'n gyfleus i chi, eich cartref a'ch teulu.
Pam gweithredu?
Cartrefi cynhesach, iachach
Gall cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n dda ein helpu i aros yn gyfforddus, lleihau biliau ynni, a diogelu ein hiechyd yn ystod tywydd oerach.
Aer glanach
Gall lleihau llygredd o drafnidiaeth, ynni a diwydiant helpu i wella ansawdd aer a chreu lleoedd iachach i fyw, gweithio a threulio amser yn yr awyr agored.
Mwy o le i natur a lles
Mae parciau, coed a mannau gwyrdd yn cynnig lleoedd i ni ymarfer, ymlacio a chysylltu â natur. Gallant hefyd ddarparu cysgod, gwella ansawdd yr aer a helpu i reoli glaw trwm.
Paratoi ar gyfer tywydd eithafol
Gall paratoi ein cartrefi, ein cymunedau a'n gwasanaethau iechyd ar gyfer gwres, llifogydd a thywydd eithafol arall helpu i ddiogelu iechyd pobl a lleihau tarfu.
:fill(fff))
Newidiadau bach y gallwch eu gwneud heddiw
Mae digon o weithredoedd bob dydd a all fod yn dda i'ch iechyd ac i'r hinsawdd. Gall hyd yn oed un neu ddau o newidiadau fod yn fan cychwyn da.
Dewis ffyrdd iachach o deithio
Cerddwch neu beiciwch ar gyfer teithiau byrrach pan fo hynny'n ymarferol, neu treuliwch fwy o amser yn mwynhau parciau, coetiroedd a mannau gwyrdd eraill.
Gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon
Edrych ar ffyrdd o wella inswleiddio, lleihau drafftiau a chadw eich cartref yn gyfforddus trwy gydol y flwyddyn.
Gwneud y defnydd gorau o fwyd a meddyginiaethau
Mwynhau bwyd tymhorol a chynhyrchion lleol lle bynnag y gallwch, cynlluniwch brydau bwyd i leihau gwastraff bwyd, a gwiriwch pa feddyginiaethau sydd gennych eisoes cyn archebu rhagor.
Cymryd ran yn lleol
Ymunwch â phrosiect garddio neu natur lleol, cymerwch ran mewn gweithgaredd casglu sbwriel, neu cefnogwch ymdrechion i wneud eich cymdogaeth yn wyrddach ac yn iachach.
Beth sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru?
Nid unigolion sy'n gyfrifol am bopeth.
Mae newidiadau hefyd yn cael eu gwneud ledled Cymru i wneud gwasanaethau iechyd yn lanach, yn llai gwastraffus ac yn fwy parod ar gyfer y tywydd sy'n newid.
Mae ysbytai a sefydliadau iechyd yn defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, yn gwella effeithlonrwydd ynni, yn creu mannau gwyrdd ac yn dod o hyd i ffyrdd o leihau gwastraff ac ailddefnyddio offer.
Dyma rai enghreifftiau sy'n digwydd ledled Cymru:
Mae Ysbyty Treforys yn defnyddio fferm solar i gynhyrchu trydan adnewyddadwy.
Mae sefydliadau gofal iechyd yn lleihau gwastraff ac yn edrych ar ffyrdd i ailddefnyddio offer.
Mae rhai fferyllfeydd yn profi ffyrdd gwell o gasglu ac ailgylchu anadlyddion sydd wedi'u defnyddio.
Mae mannau gwyrdd o amgylch ysbytai a safleoedd iechyd hefyd yn cael eu gwella er lles cleifion, staff, ymwelwyr a bywyd gwyllt.
Pobl iachach, lleoedd iachach
Ni all un person wneud popeth.
Mae'r pethau rydyn ni'n eu gwneud gartref ac yn ein cymunedau yn mynd law yn llaw â newidiadau llawer mwy sy'n cael eu gwneud ledled Cymru.
Gyda'i gilydd, gallan nhw ein helpu ni i fyw bywydau iachach heddiw a chreu lleoedd iachach ar gyfer yfory.
)
:fill(transparent))