Cyhoeddi yn gyntaf: 15/03/2024 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Prosiect croesawu bywyd gwyllt yn Aberdâr

Mae prosiect Gardd sy’n Denu Gwenyn Cwmdare4Cwmdare yn Aberdâr wedi trawsnewid darn o dir a oedd unwaith yn segur yn lle i fywyd gwyllt ffynnu. 

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl gydag arian o gronfa gymunedol fferm wynt Pen y Cymoedd, a chefnogaeth gan gynllun Pecynnau Cymunedol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a reolir gan Cadwch Gymru’n Daclus. Darparodd y cynllun hwn ddeunyddiau, adnoddau ac offer i roi hwb i’r fenter, gan helpu’r gymuned leol i ddod at ei gilydd i adfer y tir ac annog bioamrywiaeth. 

Bee flying past flowers

Sut mae cynlluniau dad-ddofi tir fel y rhain yn ein helpu i wneud dewisiadau gwyrdd? 

Mae bywyd gwyllt Cymru ar drai, gydag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Mae anifeiliaid yn diflannu wrth i'w cynefinoedd gael eu dinistrio trwy glirio gofod i dyfu pethau rydyn ni'n eu gorfwyta. Ac mae colli cynefinoedd yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth. Mae prosiectau sy’n croesawu bywyd gwyllt fel hyn yn helpu i warchod cynefinoedd, gan ddarparu gofod diogel a chroesawgar i’n bywyd gwyllt ffynnu. 

Mae gan Ardd sy’n Denu Gwenyn Cwmdare4Cwmdare borthwyr adar, tŷ adar, tŷ draenogod, a chynlluniau ar gyfer gwestai trychfilod. Mae yna hefyd ardal blodau gwyllt i annog gwenyn, glöynnod byw, a bywyd gwyllt lleol arall. Maent wedi gosod gwelyau uchel i dyfu ffrwythau a llysiau tymhorol, yn ogystal â gosod meinciau i bobl eistedd a mwynhau’r olygfa dros Fannau Brycheiniog, a sied ar gyfer offer a chyfarpar. 

Yn 2022, dyfarnwyd statws ‘caru gwenyn’ i’r ardd gan Lywodraeth Cymru. 

Mae’r grŵp hefyd wedi plannu rhai coed ffrwythau mewn ‘perllan’ fach y tu ôl i’r prosiect ac maent bellach yn dechrau gweithio ar gynlluniau’r cam nesaf; yr ardal flaen, a fydd yn cynnwys seddau ac yn hygyrch i bawb. 

Mae prosiectau fel Cwmdare4Cwmdare yn enghraifft wych o sut y gall syniadau bach flodeuo yn fentrau cymunedol sydd o fudd i bawb sy’n cymryd rhan – gan gynnwys ein bywyd gwyllt. A chyda chymorth cynlluniau arbenigol fel Pecynnau Cymunedol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, maen nhw’n hawdd eu rhoi ar waith. 

Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Swyddog Gweithredol Cadwch Gymru’n Daclus:

Mae’r pecyn cychwynnol bywyd gwyllt, sy’n rhan o gynllun Pecynnau Cymunedol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, wedi’i gynllunio i roi’r offer, y cyfarpar a’r adnoddau sydd eu hangen ar gymunedau i roi hwb i’r gwaith a rheoli eu prosiectau’n annibynnol. Mae ein llawlyfr yn rhoi syniadau i gymunedau, ac mae ein hymgynghorwyr yn rhannu cefnogaeth yn ôl yr angen.

Derbyniodd ysgrifennydd y grŵp cymunedol, Ann Crimmings, a’r tîm o wirfoddolwyr becyn yn cynnwys bylbiau, blychau cynefin, llwyni a phlanhigion dringo, compost gwely wedi’i godi a delltwaith, offer, cyfarpar fel menig a chan dyfrio, a llawlyfr. Galluogodd hyn y tîm bach i glirio’r llain oedd wedi tyfu’n wyllt a’i thrawsnewid yn lle sy’n croesawu bywyd gwyllt heddiw. 

Dywedodd Ann:

Mae’r arian o gronfa gymunedol fferm wynt Pen y Cymoedd, ynghyd â’r gefnogaeth gan Cadwch Gymru’n Daclus drwy becyn cychwynnol gardd bywyd gwyllt wedi bod yn wych.


Pam bod angen gweithredu? 

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth ein planhigion a’n bywyd gwyllt. Mae angen inni eu hamddiffyn cymaint ag y gallwn. 


Mae’n wych gweld pobl fel Ann yn mynd ati i wneud newidiadau pwysig i’w cymunedau a gweld y gwahaniaeth cadarnhaol mae wedi’i wneud i’r rhai o’u cwmpas. Drwy wneud newidiadau gyda’n gilydd, gallwn gael mwy o effaith ar fynd i’r afael â’r argyfwng natur, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol.


Beth mae Cymru yn ei wneud?  

  • Mae cynllun Pecynnau Cymunedol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru'n Daclus yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

  • Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ymateb i'r argyfwng natur mewn sawl ffordd - o warchod o leiaf 30% o'r tir a 30% o'r môr erbyn 2030, i ddatblygu Coedwig Genedlaethol. Darllenwch fwy yma. 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol