Cyhoeddi yn gyntaf: 15/11/2024 -

Wedi diweddaru: 15/11/2024 -

Verified by our Editorial Panel

Helpu draenogod i oroesi a ffynu

Draenogod yw rhai o’n hoff famaliaid ni yng Nghymru, ond er gwaethaf hynny mae eu niferoedd wedi gweld gostyngiad ofnadwy, maen nhw felly angen cymaint o help ag y gallwn ni ei gynnig iddyn nhw.

Dylan ydw i, a dyma roddodd yr ysbrydoliaeth i fi ddechrau Be Hedgehog Aware yn 13 mlwydd oed, ar ôl darganfod draenogod yn fy ngardd fy hun yn Ne Cymru. 

Ar wahân i astudio Lefel-A, dwi nawr yn treulio llawer o fy amser yn siarad gyda grwpiau cymunedol am sut i helpu draenogod a dwi hefyd yn gweithio gyda chwmnïau cenedlaethol ac elusennau i ffeindio ffyrdd dychmygus i fod yn gynaliadwy wrth gefnogi draenogod. Dwi wedi helpu i achub nifer fawr o ddraenogod, ac yn gynharach eleni fe wnaethon ni lawnsio Uned Ymateb Brys Gwirfoddol ar draws Dyffryn Gwy. Fel rhan o fy ymgyrch godi ymwybyddiaeth am ddraengodod, dwi wedi perswadio gwneuthurwyr offer garddio fel Hyundai a STIGA i roi sticeri ‘Be Hedgehog Aware’ ar bob peiriant torri gwair a strimmer, yn atgoffa garddwyr i gadw llygad allan am ddraenogod a chreaduriaid eraill cyn iddyn nhw ddechrau gweithio yn yr ardd – mae’n gyngor gwych i osgoi anafiadau niweidiol ac angheuol gyda strimmers. Mae Traffyrdd y Draenog (Hedgehog Highways) nawr yn cael eu cynnwys mewn dulliau adeiladu ar gyfer tai newydd a gyda masnachwyr deunydd adeiladu ar draws Cymru, diolch i’r partneriaethau newydd hyn.

Pam draenogod?

Ar wahân i fod yn greaduriaid unigryw ac annwyl, fel yr unig famal pigog yn y wlad, maen nhw angen ein help yn fwy nag erioed. Yn y 1950au, dangosai ymchwil bod tua 30 miliwn o ddraenogod ym mhrydain – Heddiw mae llai na miliwn ar ôl. Mae’r fath ddirywiad wedi cael effaith andwyol ar y boblogaeth bresennol, gyda draenogod yn dioddef yn sgil colli cynefinoedd a ffynonellau bwyd naturiol, trychfilod a chreaduriaid diasgwrn-cefn yn enwedig.

Sut alla i ddweud os oes gen i ddraenogod yn fy ngardd, a sut alla i ofalu amdanyn nhw?

Mae rhai arwyddion amlwg gallwch sylwi arnyn nhw sy’n awgrymu bod draenogod yn ymweld â’ch gardd – byddwch yn barod i’w gweld nhw’n mynd a dod, gan eu bod nhw’n gallu trafaelu hyd at 2km bob nos ar eu coesau bychain! Chwiliwch am nythod undydd, yn enwedig twmpathau o ddail a brigau sydd ddim yn edrych mor gadarn â hynny o’u cymharu â’r nythod gaeafgysgu crwn. Mae baw draenogod yn frown tywyll ac yn cynnwys darnau o drychfilod – gallwch ei ffeindio ger bylchau mewn ffensys, lle mae draenogod o bosib wedi camu drwy laswellt hir fel llwybr teithio.

Un ffaith nad ydy pawb yn ei wybod am ddraenogod yw eu bod nhw’n nofwyr da…er eu bod nhw angen help i ddod allan o’r dŵr! Bydd sicrhau bod gyda chi ramp o ryw fath er mwyn mynd i mewn ac allan o byllau dwfn, fel planc o bren neu dwmpath o gerrig, yn helpu’r draenog i ddod allan yn ddigoel.

Sut ydw i’n gwybd os ydy draenog angen cael ei achub?

Mae’n hanfodol ein bod ni’n cadw llygad allan am ddraenogod sy’n sâl neu wedi eu hanafu wrth inni gefnogi poblogaethau, yn enwedig os ydym am weld mwy o ddraenogod newydd-anedig yn y blynyddoedd i ddod. Os dewch o hyd i ddraenog yn ystod y dydd, mae’n debygol nad yw’n iawn, oni bai ei fod yn amlwg yn ‘symud gyda phwrpas’, fel y bydd mam sy’n nythu, er enghraifft,  yn casglu brigau neu ddail gan gadw at ymylon yr ardd.

Bydd draenog sy’n isel ei egni, wedi ei amgylchynu gan glêr neu sydd ag anaf amlwg, angen cymorth brys. Gwisgwch bâr o fenyg a gosodwch y draenog yn ofalus mewn bocs sydd ag ymylon uchel gyda phapur newydd neu wellt ynddo, a hen dywel, ac yna, gosodwch e mewn man tywyll a thawel. Cynigiwch ddisgl fas o ddŵr, ond dim bwyd. Gall ffynhonell o wres fod yn hanfodol i ddraenogod heipothermaidd sydd allan yn ystod y dydd – felly lapiwch botel ddŵr poeth mewn tywel a’i gosod yn y blwch, yna ffoniwch eich canolfan achub draenogod agosaf. Triwch roi cymaint o wybodaeth â phosib, fel siâp y draenog, ble cafodd ei ffeindio, a soniwch am unrhyw anafiadau.

Galli di wneud gwahaniaeth!

Dyma dips syml ond effeithiol er mwyn cefnogi draenogod yn eich gardd:

  • Gadwch i ardal yn eich gardd dyfu’n wyllt – bydd hyn yn cynnal draenogod a bioamrywiaeth. Ystyriwch gynlluniau adfer bywyd gwyllt neu ddulliau ffermio adferol ar gyfer darnau o dir sy’n fwy o ran maint.

  • Gadwch bentyrau dail a boncyffion lle maen nhw, maen nhw’n darparu cynefinoedd gwerthfawr a deunyddiau i nythu

  • Gadwch ddisgl fas o ddŵr allan I’r draenogod – mae’n hanfodol ar gyfer eu goroesiad hyd yn oed yn ystod eu cyfnodau o aeafgysgu

  • Peidiwch defnyddio pla-laddwyr neu chwyn-laddwyr.

  • Edrychwch am ddraenogod cyn i chi ddechrau sdrimio neu dorri’r gwair mewn ardaloedd o laswellt hir – mae sticeri ar gyfer offer garddio ar gael o Hedgehog Aware.

  • Gwnewch Draffordd Draenog – sef twll 13 cm mewn ffensys sy’n caniatáu i ddraenogod drafaelu rhwng gerddi i ganfod bwyd a mannau nythu.

  • Gwnewch nodyn o unrhyw droeon byddwch y neu gweld ar wefan ‘Big Hedgehog Map’, sy’n cael ei rhedeg gan Hedgehog Street, yr elusen gadwraeth ar gyfer draenogog. Mae ganddyn nhw hefyd dudalen ymuno syn rhad ac am ddim lle gallwch fod yn rhan o gymuned o dros 100,000 o ‘Gefnogwyr Draenogod’.

Os hoffech helpu i fwydo draenogod drwy gyfranu a eu deiet o greaduriaid di-asgwrn cefn, gallwch wneud hynny gyda chig bwyd cath neu gi, neu fisgedi cenawon, ynghyd â disgl fas o ddŵr. Plîs peidiwch â rhoi bara neu laeth i ddraenogod, neu gynrhon/bwyd adar, gall y diwethaf ar y rhestr fod yn hynod o niweidiol o’I fwyta mewn gormodiaeth.

Er ei bod yn bwysig i gydnabod bod y dirywiad mewn niferoedd draenog ar draws Cymru yn feicrocosm o’r hyn sy’n digwydd ar raddfa fwy o ran colledion mewn bioamrywiaeth, wedi ei yrru gan newid hinsawdd, dwi’n credu bod yna sawl rheswm dros fod yn optimistaidd. Gall y newidiadau syml uchod wneud gwahaniaeth enfawr wrth ddarparu cynefinoedd i ddraenogod. Mae gyda ni gyfle unigryw i adeiladu dyfodol cynliadwy ar gyfer ein holl fywyd gwyllt, yn enwedig yng Nghymru gyda’r gymysgedd o diroedd gwledig ac ardaloedd trefol, lle mae’r ymchwil diweddaraf yn dangos bod niferoedd yn fwy sefydlog yn ein trefi.

Yn fyd-eang, mae dros hanner poblogaeth mamaliaid y byd mewn gwirionedd wedi aros yn sefydlog neu wedi cynyddu, o’u cymharu â’r newyddion drwg rydyn ni’n ei glywed am ddirywiad niferoedd a’r posibilrwydd o ddifodiant ar raddfa eang. Tra bod y bygythiad i ddraenogod yn para’n bryder gwirioneddol, rydw i’n dawel hyderus y gallwn ni gyd gyfrannu drwy wneud y pethau bychain a gwneud gwahaniaeth mawr, a dwi’n gobeithio y gwnewch chi ymuno ar daith o warchod ein ffrindiau pigog, gan hefyd gefnogi holl fywyd gwyllt Cymru i allu goroesi a ffynnu. 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol