Cyhoeddi yn gyntaf: 09/07/2025 -

Wedi diweddaru: 09/07/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Cadwch eich ci’n ddiogel dros yr haf

Cyngor diogelwch hanfodol ar gyfer y tywydd poeth gan Dogs Trust

Two spaniels in a back garden. One is sitting in a blue children's paddling pool while the other is standing next to the paddling pool looking at the camera

Wrth i'r tymheredd godi ledled Cymru dros yr haf, mae angen i berchnogion cŵn gymryd camau brys i ddiogelu eu hanifeiliaid anwes rhag peryglon sy'n gysylltiedig â gwres, a allai fod yn angheuol. Rydym wedi ymuno â Dogs Trust sydd wedi cyhoeddi cyngor diogelwch hanfodol ar gyfer tywydd poeth i helpu perchnogion anifeiliaid anwes Cymru i gadw eu cymdeithion annwyl yn ddiogel ar ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.

Wrth i newid hinsawdd gynyddu amlder a dwyster tywydd poeth, mae Dogs Trust, elusen lles cŵn fwyaf y genedl, yn rhybuddio perchnogion y gall mynd â chŵn am dro yn ystod tywydd poeth achosi problemau iechyd difrifol i’n cŵn ac nad oes cyfnod diogel o amser i adael cŵn ar eu pen eu hunain mewn car yn ystod tywydd poeth.

dog jumping in the grass

Perygl trawiad gwres

Ni all cŵn reoleiddio gwres eu cyrff yn yr un ffordd â bodau dynol. Gallant fynd yn rhy boeth ym mhob tymheredd, felly mae angen cymryd gofal ychwanegol yn ystod tywydd cynnes. Os yw cŵn yn rhy boeth ac yn methu lleihau tymheredd eu corff yn ddigonol drwy lyfedu, gallant gael trawiad gwres, a all fod yn angheuol.

Gall trawiad gwres effeithio ar unrhyw fath o gi, ond mae rhai bridiau a mathau o gŵn yn wynebu mwy o risg, gan gynnwys bridiau brachycephalig neu wyneb fflat fel Cŵn Tarw Saesnig, Cŵn Smwt a Chŵn Tarw Ffrengig, yn ogystal â chŵn hŷn, cŵn dros bwysau a chŵn â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes.

Mae symptomau trawiad gwres mewn cŵn yn cynnwys llyfedu trwm sy'n tawelu wrth orffwys (gall hyn edrych fel "gwenu"), anadlu’n llafurus, gan gynnwys anadlu gyda'u bol, bod yn hunglwyfus ac yn gysglyd, glafoerio’n ormodol, chwydu, dolur rhydd, a syrthio.

Os yw'ch ci wedi syrthio neu'n cael trafferth anadlu, ffoniwch eich milfeddyg agosaf heb oedi. Gallant gynghori a yw'ch ci yn dioddef o drawiad gwres a beth i'w wneud. Yn y cyfamser, dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i oeri'ch ci os ydych chi'n sylwi bod eich ci yn dangos arwyddion trawiad gwres:

  • Atal – rhoi'r gorau i unrhyw weithgaredd.

  • Cysgodi – symudwch eich ci i'r cysgod, a chynnig dŵr iddo.

  • Oeri – gwlychwch ei gorff gyda dŵr oer, PEIDIWCH â defnyddio tywelion wedi'u gwlychu â dŵr. Rhowch y ci o flaen ffan neu mewn ystafell wedi’i haerdymheru.

  • Cludo – ewch ag ef at y milfeddyg.

A golden labrador been fed water from a water bottle by its owner in a field at dusk

Mae ceir poeth yn beryglus iawn

Gall y tymheredd y tu mewn i gar godi i lefelau peryglus o uchel o fewn ychydig funudau, gan achosi i unrhyw gŵn y tu mewn i'r car ddioddef trawiad gwres. Mewn rhai achosion, gall trawiad gwres arwain at farwolaeth y ci.

Mae Dogs Trust wedi rhannu ei fideo Dogs Die in Hot Cars sy'n tynnu sylw at y broblem o adael cŵn mewn ceir ar ddiwrnodau poeth. Os ydych chi'n gweld ci mewn car a’i fod mewn trallod, mae'r elusen yn eich cynghori i ffonio 999. 

Mae Dogs Trust hefyd wedi cyhoeddi'r cyngor canlynol i gefnogi perchnogion cŵn yn ystod y cyfnod hwn o dywydd poeth:

  • Osgoi mynd am dro gyda’ch ci, neu wneud gweithgareddau naill ai dan do neu yn yr awyr agored gydag ef ar adegau poethaf y dydd. Yn aml, yn gynnar yn y bore neu'n hwyrach gyda'r nos yw'r adeg orau. Os yw hi dal yn boeth ar yr adegau hyn, hepgorwch y daith gerdded a darparwch weithgareddau cyfoethogi y tu mewn yn lle hynny.

  • Ewch â digon o ddŵr gyda chi bob tro y byddwch chi gyda'ch ci, a gwnewch yn siŵr bod cysgod a dŵr ffres ar gael bob amser.

  • Adnabod arwyddion cynnar trawiad gwres, sy'n cynnwys llyfedu, anhawster anadlu, blinder, eich ci yn llai awyddus i chwarae, glafoerio, a chwydu. Dysgwch sut i roi cymorth cyntaf oeri.

  • Gall tarmac fynd yn boeth iawn yn yr haul – teimlwch ef gyda'ch llaw cyn gadael i'ch ci gerdded arno fel nad yw’n llosgi ei bawennau. Os yw'n rhy boeth i'ch dwylo chi, yna mae'n rhy boeth i'w pawennau. Os na allwch osgoi mynd â'ch ci allan yn y car ar ddiwrnod poeth, hyd yn oed os ydych chi'n teithio pellter byr, mae’n bwysig osgoi adegau poethaf y dydd.

  • Peidiwch byth â gadael eich ci mewn cerbyd ar ddiwrnod poeth. Nid hyd yn oed gyda'r ffenestr ar agor. (Gall gadael eich anifail anwes ar ei ben ei hun mewn cerbyd neu wedi'i glymu y tu allan hefyd ei roi mewn mwy o berygl o gael ei ddwyn.)

  • Defnyddiwch fat oeri neu lapiwch becyn iâ neu botel ddŵr wedi'i rewi mewn tywel sychu llestri i'ch anifail anwes orwedd arno os yw’n dymuno.

  • Defnyddiwch ddanteithion oer o'r oergell am leithder ychwanegol neu gwnewch loli iâ o gynhwysion sy'n addas ar gyfer anifeiliaid anwes.

  • Peidiwch â gadael i'ch anifail anwes losgi yn yr haul - defnyddiwch eli haul sy’n ddiogel i anifeiliaid anwes.

Dysgwch fwy am sut i gadw'ch ci yn ddiogel dros yr haf.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol