Cyhoeddi yn gyntaf: 26/06/2023 -

Wedi diweddaru: 02/07/2024 -

Verified by our Editorial Panel

10 awgrym garddio ecogyfeillgar gwych ar gyfer yfory gwyrddach

P'un a oes gennych focs ffenestr neu fan agored eang, mae pob darn o wyrddni yn helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Gadewch i ni dorchi ein llewys, mynd ychydig yn fwdlyd, a phlannu ein ffordd i blaned well!

nature - green

Dyma 10 awgrym gwych i drawsnewid eich gardd yn esiampl o gynaliadwyedd

Plannu coeden
Mae coed yn bwerdy natur gan eu bod yn amsugno carbon deuocsid. P'un a ydych yn ei phlannu yn eich gardd, neu'n cael un wedi'i phlannu ar eich rhan, gall pob coeden storio carbon sy'n cyfateb i 11 miliwn o deithiau car o amgylch y blaned.

Defnyddio dŵr yn ddoeth
Defnyddiwch gasgen dŵr glaw yn hytrach na'r prif gyflenwad i ddyfrio'ch gardd. Gall y newid syml hwn arbed miliynau o litrau o ddŵr bob blwyddyn, gan olygu bod eich arferion garddio yn fwy cynaliadwy.

Dewis pridd di-fawn
Mae mawndiroedd yn storfeydd carbon hanfodol. Drwy ddefnyddio pridd di-fawn wrth i chi arddio, rydych chi'n atal carbon rhag cael ei ryddhau ac yn diogelu'r cynefinoedd hanfodol hyn.

Creu eich compost eich hun
Mae compost cartref nid yn unig yn cyfoethogi eich pridd ond hefyd yn arbed carbon ffosil. Mae pob cilogram o gompost cartref yn cadw 0.1kg o garbon ffosil rhag cael ei ryddhau.

Cael gwared ar y palmant
Rhowch blanhigion lluosflwydd yn lle metr sgwâr o balmant. Mae'r newid bach hwn nid yn unig yn gwneud eich gardd yn fwy hardd, ond mae hefyd yn helpu i atafaelu carbon, gan helpu i liniaru ar newid yn yr hinsawdd.

Tyfu planhigion ar gyfer peillwyr
Mae peillwyr wedi colli llawer iawn o gynefin, gan gyfrannu at eu dirywiad. Mae darparu cacwis, gwenyn eraill, glöynnod byw, gwyfynod, pryfed a phryfed eraill gydag ystod amrywiol o blanhigion addas, yn rhoi'r cynefinoedd a'r ffynonellau bwyd hanfodol hyn y mae mawr eu hangen.

Tyfu eich blodau eich hun
Yn lle prynu blodau a gaiff eu mewnforio, tyfwch eich blodau eich hun. Mae'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yn argymell tyfu eich blodau eich hun er mwyn i chi leihau eich ôl troed carbon a mwynhau blodau ffres o'ch iard gefn.

Newid i offer garddio trydanol
Mae offer garddio sy’n defnyddio petrol yn cyfrannu'n sylweddol at allyriadau carbon. Dewiswch offer trydanol i leihau eich effaith amgylcheddol a chael gardd dawelach a glanach.

Dod yn Wyddonydd-ddinesydd
Allwch chi dreulio deg munud yn gwylio blodau a chyfri pryfed pan mae'r tywydd yn dda? Mae'r arolwg syml FIT Counts yn casglu data ar gyfanswm nifer y pryfed sy'n ymweld â blodyn penodol, a ddewiswyd yn ddelfrydol o'n rhestr o 14 o flodau targed.Gellir gwneud FIT Counts yn unrhyw le, gan gynnwys gerddi a pharciau, mewn tywydd cynnes a sych rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.

Bwyta'n lleol
Tyfwch eich cynnyrch eich hun neu brynu eitemau sydd wedi'u tyfu'n lleol. Mae hyn yn lleihau eich milltiroedd bwyd, yn cefnogi ffermwyr lleol, ac yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, nid yn unig y byddwch yn meithrin amgylchedd mwy cynaliadwy, ond byddwch hefyd yn creu gardd iachach a mwy bywiog. Cofleidiwch yr arferion hyn a gwyliwch eich gardd yn ffynnu gan gyfrannu'n gadarnhaol i'n planed!

 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol