Cyhoeddi yn gyntaf: 15/05/2025 -
Wedi diweddaru: 14/05/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Mae Cymru'n gwahardd fêps untro: yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Ydych chi erioed wedi cerdded i lawr eich stryd a gweld un o'r fêps untro llachar hynny yn gorwedd yn y gwter fel ffon olau sydd wedi rhoi'r gorau iddi? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
:fill(fff))
Yn seiliedig ar arolygon stryd go iawn, amcangyfrifir bod tua 360,000 o fêps untro yn cael eu taflu'n sbwriel bob blwyddyn yng Nghymru. Mae 120,000 arall yn cael eu fflysio i lawr y toiled. Mae hynny'n newyddion drwg i'n hafonydd, ein bywyd gwyllt, a'n systemau carthffosiaeth. Miloedd ohonyn nhw. Yn gorwedd yno, yn dadelfennu'n ficroblastigau, ac yn peri risg o dân.
Pan fyddant yn cael eu taflu'n sbwriel, mae'r fêps hyn yn rhyddhau plastig, halwynau nicotin, metelau trwm fel plwm a mercwri, a batris ïon lithiwm fflamadwy i'r amgylchedd. Gall y sylweddau hyn halogi dyfrffyrdd a phridd, ac maent yn wenwynig i fywyd gwyllt.
Y casin plastig? Mae'n dadelfennu'n ficroplastigau niweidiol sy'n aros ym myd natur.
Felly beth sy'n cael ei wneud?
O 1 Mehefin 2025 ymlaen, bydd fêps untro yn cael eu gwahardd yng Nghymru, ac ar draws y DU.
Mae hyn yn golygu na chaniateir i fusnesau werthu na rhoi fêps untro i ffwrdd. Mae hynny'n cynnwys unrhyw fêp sydd wedi'i ddylunio i'w ddefnyddio unwaith ac yna'i daflu i ffwrdd, p'un a yw'n cynnwys nicotin ai peidio.
Bydd fêps y gellir eu hailddefnyddio yn dal i fod ar gael i bobl dros 18 oed eu prynu.
Hyd fideo:
38 seconds
Pam ydyn ni'n gwneud hyn?
Oherwydd bod fêps untro yn hunllef i'r amgylchedd. Maent wedi'u gwneud o ddeunyddiau cymysg, plastig, metel a batris, sy'n eu gwneud yn anodd ac yn gostus i'w hailgylchu. A phan fyddant yn cael eu difrodi, gall y batris fynd ar dân.
Maen nhw hefyd yn ymddangos ym mhobman. Ydych chi'n cofio'r ffigurau hynny? 360,000 yn cael eu taflu'n sbwriel ar y strydoedd, 120,000 yn cael eu fflysio i lawr y toiled. Maen nhw'n creu trafferthion amgylcheddol bach ond pwerus.
Beth am fusnesau?
Os ydych chi'n gwerthu fêps, mae hyn yn effeithio arnoch chi. O 1 Mehefin 2025 ymlaen:
Rhaid i chi roi'r gorau i werthu cynhyrchion fêps untro
Ni allwch eu prynu gan gyfanwerthwyr
Rhaid i chi roi gwybod i'ch staff am y gwaharddiad
Rhaid i chi ailgylchu unrhyw stoc sy'n weddill yn ddiogel
Ni all fêps untro fynd yn y bin. Siaradwch â'ch cyflenwr neu'ch contractwr gwastraff am sut i'w gwaredu yn ddiogel.
Gallai peidio â dilyn y rheolau arwain at ddirwyon neu gamau cyfreithiol.
Ewch yma i weld y canllawiau llawn.
A allaf barhau i fepio?
Gallwch, ond mae'r ffocws bellach ar newid i fêps y gellir eu hailddefnyddio. Maen nhw'n well i'r blaned a thros amser maent yn fwy cost-effeithiol.
Rydyn ni eisiau amddiffyn ein gwlad
Mae Cymru yn gweithredu i amddiffyn y blaned. Mae'r gwaharddiad hwn yn rhan o ymdrech fwy i leihau gwastraff, mynd i'r afael â sbwriel, a gwneud dewisiadau mwy cynaliadwy. Rydyn ni'n symud i ffwrdd o ddiwylliant taflu a thuag at arferion gwell.
Nid yw hyn yn ymwneud â stopio pobl rhag fepio, (ond os ydych chi eisiau rhoi'r gorau iddi, mae cymorth arbenigol am ddim gan GIG Cymru drwy Helpa Fi i Stopio), mae'n ymwneud â stopio'r difrod amgylcheddol a achosir gan gynhyrchion sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio unwaith a'u taflu i ffwrdd.