Cyhoeddi yn gyntaf: 19/05/2025 -
Wedi diweddaru: 19/05/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Y clwb pêl-droed o Dde Cymru sy’n rhedeg ar ddŵr
Mae Cambrian United FC yn bencampwr ynni cynaliadwy, gan gynhyrchu ei drydan ei hun o ynni’r haul ac o lyn cyfagos.
:fill(fff))
Trwy Gymru gyfan, mae sawl clwb pêl-droed yn newid i ddefnyddio ynni adnewyddadwy – ond sawl clwb sy’n medru dweud bod ganddyn nhw eu pwerdy hydrodrydanol eu hunain?
Mae clwb a chaffi Cambrian United FC yn cael ei bweru yn llwyr gan ddŵr Nant Clydach. Wrth i ddŵr lifo lawr tuag at lyn cyfagos, mae’n pasio drwy dyrbin dŵr sy’n eiddo i Cambrian Village Trust. Mae’r tyrbin yn cynhyrchu ynni glân i’r clwb, gan arbed arian ar filiau a chan hefyd leihau allyriadau carbon.
Hwb i’r gymuned
Sefydlwyd Cambrian Village Trust yn 2001 er mwyn cynnig cyfleoedd i blant lleol chwarae pêl-droed. Yn ogystal â bod yn berchen ar y clwb, mae’n cefnogi cymuned Cwmclydach yn y Rhondda.
Mae’r prif weithgarwch yn digwydd yng Nghaffi a bar Lakeside, llecyn poblogaidd i ymwelwyr ym Mharc Gwledig Cwmclydach. Mae’r siop wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio pecynnu plastig er mwyn helpu’r amgylchfyd, ac mae’n hybu cynhyrchwyr lleol – o gynhyrchwyr jam a mêl i ysgythrwyr llechi a gwneuthurwyr gemwaith.
Mae nifer o grwpiau’n defnyddio’r cyfleusterau. Meddai’r cyfarwyddwr prosiectau: “Mae wir yn ganolfan i’r gymuned. Mae gennym grwpiau ar gyfer pobl sydd â dementia, a gweithgareddau hamdden ar gyfer oedolion sydd ag anawsterau dysgu. Rydyn ni’n cynnal prosiectau gydag ysgolion a phlant lleol – cynlluniau sy’n cael gwir effaith.”
“Rydyn ni’n ymdrechu’n barhaus i leihau ein hôl-troed carbon ac ymdrechion dros gynaliadwyedd, wrth i ni drio dod yn hunan-gynhaliol o ran ynni.”
Phil Williams, cyfarwyddwr prosiectau
Yr ochr draw i’r lôn o’r caffi, mae maes artiffisial 3G Cambrian United sy’n addas ar gyfer pob tywydd. Dywed Phil: “Mae’r cae newydd dderbyn buddsoddiad o £750,000 gan FAW, yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi codi campfa gymunedol, ystafelloedd newid newydd ac ystafell ffisiotherapi. Mae’n llawn cyfleusterau sy’n galluogi pawb yn y gymuned i gymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd.”
Pŵer ar gyfer y bobl
Prin yw’r ymwelwyr i’r parc gwledig sy’n sylwi ar adeilad bychan ar ymyl y dŵr sy’n gartref i’r generadur hydrodrydanol. “Mae’r generadur yn bwydo cyfleusterau’r clwb yn uniongyrchol, ” meddai Phil. “Mae’n cyflenwi trydan ar y safle ac yn gwefru tri batri.”
Mae gan y clwb gynlluniau pellach i wneud mwy o ddefnydd o ynni dŵr. Gyda chefnogaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf, mae’n gobeithio adeiladu ail bwerdy hydrodrydanol er mwyn i’r gymuned leol brofi’r buddiannau. Esbonia Phil: “Mae hwnnw’n gynllun llawer mwy o faint, a fyddai’n pweru ysgol uwchradd. Y syniad yw ein bod ni’n dod yn rhan o glwb ynni lleol, a bydd hynny wedyn yn lleihau costau ynni.”
Mae ynni solar hefyd yn helpu Cambrian United i beidio â dibynnu cymaint ar drydan o’r grid. Drwy gymorth Chwaraeon Cymru, Mae Cymru Football Foundation wedi buddsoddi mwy nag £17,000 yn y clwb. Yn ogystal â gosod paneli solar, mae’r clwb wedi darparu mannau lle gall pobl wefru eu cerbydau trydan (EVs), gan wneud defnydd da o unrhyw ynni sydd dros ben.
Meddai Phil: “Mae ein toeau yn llawn paneli ffotofoltäig (PV), ac rydyn ni wedi gosod pwyntiau gwefru EV ar adeilad y clwb. Rydyn ni hefyd wedi gosod storfa fatris a man gwefru ar safle’r maes chwarae 3G, gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol.”
:fill(fff))
Rhywbeth yn y dŵr
Mae gwella’r amgylchfyd lleol yn flaenoriaeth, ac mae’r Cambrian Village Trust wedi creu dwy ardd gymunedol ar y safle. Mae un ardal yn cynnwys gwelyau uchel er mwyn plannu ac ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer ymweliadau gan ysgolion cynradd. Mae yma hefyd ardd synhwyrau, lle gall pobl ymlacio ar feinciau a mwynhau’r amrywiaeth o flodau sy’n egino yno.
Gyda phrinder lle ar safle’r caffi, mae’r clwb nawr yn meddwl am ddatblygu canolfan iechyd a lles newydd ger y maes chwarae 3G – gan roi’r un safonau uchel o gynaliadwyedd ar waith. Meddai Phil: “Rydyn ni’n trafod cynllun gwerth £2 filiwn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, yr awdurdod lleol a Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.”
“Byddai gyda ni fwy o le i’r gymuned, a byddem yn gallu cynnal mwy o sesiynau. Byddai’n ehangu ein gallu i ddarparu addysg a meithrin sgiliau – ac yn amlwg, mwy o bêl-droed hefyd!”
Eisiau gwybod mwy?
Dysga sut mae Cymru Football Foundation yn helpu i feithrin clybiau cryfach, mwy cynaliadwy sy’n rhoi’r gymuned yn gyntaf a cher i weld sut mae Clarbeston Road FC a Welshpool Town FC yn helpu i greu Cymru wyrddach.