Cyhoeddi yn gyntaf: 12 Tachwedd 2026 -
Wedi diweddaru: 12 Tachwedd 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes: cymorth gyda chost paneli solar, pympiau gwres a gwelliannau ynni yn y cartref
Gallai cynllun benthyciadau newydd Llywodraeth y DU ei gwneud hi'n haws i aelwydydd yng Nghymru osod paneli solar, pympiau gwres a thechnoleg arbed ynni arall, heb orfod talu'r gost lawn ymlaen llaw. Dyma sut mae'n gweithio, pwy sy'n gymwys a sut i wneud cais.
:fill(fff))
Gall gwneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon eich helpu i gymryd mwy o reolaeth o'ch defnydd o ynni a gallai leihau eich biliau. Ond gall cost ymlaen llaw gosod technoleg fel paneli solar neu bwmp gwres fod yn ddrud.
Nod y Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes newydd yw gwneud y gwelliannau hyn yn fwy fforddiadwy trwy gynnig benthyciadau llog isel ac, mewn rhai achosion, di-log.
Mae'r cynllun ar gael ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru, ac mae'n caniatáu i berchnogion tai cymwys a landlordiaid preifat ledaenu cost gwelliannau dros amser. Pan fo'n gymwys, gellir defnyddio'r cynllun ochr yn ochr â'r Cynllun Uwchraddio Boeler, gan helpu i dalu'r costau sy'n weddill ar ôl i'r grant Cynllun Uwchraddio Boeleri gael ei ddefnyddio.
Beth yw'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes a sut mae'n gweithio?
Mae'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes yn fenter a gefnogir gan Lywodraeth y DU sy'n helpu perchnogion eiddo cymwys i gael benthyciadau mwy fforddiadwy ar gyfer gwelliannau ynni yn y cartref.
Yn hytrach na thalu cost lawn gosod paneli solar, pwmp gwres neu fatri yn y cartref ymlaen llaw, efallai y byddwch yn gallu lledaenu'r gost trwy ad-dalu benthyciad yn rheolaidd.
Mae'r llywodraeth yn darparu cymorth ariannol i fenthycwyr sy'n cymryd rhan, gan eu helpu i gynnig cyfraddau llog is nag y byddent fel arall yn eu codi.
Mae rhai benthycwyr yn cynnig benthyciadau di-log ac eraill yn cynnig cyfraddau llog is. Bydd y swm y gallwch ei fenthyca, y gyfradd llog a'r cyfnod ad-dalu yn dibynnu ar y benthyciwr a'ch amgylchiadau.
Mae'n bwysig gwybod mai benthyciad yw hwn, nid grant.
Bydd angen i chi ad-dalu'r arian rydych chi'n ei fenthyca, felly mae'n werth cymharu eich opsiynau cyn gwneud penderfyniad.
Pa welliannau yn y cartref y gall y benthyciad dalu amdanynt?
Mae'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes yn cwmpasu ystod o dechnolegau a all helpu aelwydydd i gynhyrchu trydan adnewyddadwy, storio ynni neu wresogi eu cartrefi yn fwy effeithlon.
Mae'r gwelliannau cymwys yn cynnwys:
Paneli solar: Cynhyrchu trydan adnewyddadwy o olau haul, gan helpu i leihau faint o drydan y mae angen i chi ei brynu o'r grid.
Pympiau gwres: Defnyddio ynni o'r aer neu'r ddaear i wresogi eich cartref yn fwy effeithlon. Mae systemau cymwys yn cynnwys pympiau gwres o’r aer ac o’r ddaear penodol.
Batri storio yn y cartref: Storio trydan, gan gynnwys ynni a gynhyrchir gan baneli solar, i'w ddefnyddio pan fydd ei angen arnoch.
Cysylltiadau rhwydwaith gwres: Cysylltu cartrefi cymwys â system wresogi a rennir, lle bo ar gael.
Systemau ynni adnewyddadwy eraill ar raddfa ficro: Gan gynnwys tyrbinau gwynt domestig cymwys a systemau trydan dŵr.
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio benthyciad ar gyfer un gwelliant neu gyfuno sawl technoleg gymwys.
Efallai y bydd rhywfaint o waith gosod angenrheidiol, er enghraifft gwelliannau trydanol cysylltiedig, hefyd yn cael ei gynnwys.
Nid yw inswleiddio, ffenestri newydd na boeleri nwy newydd yn gymwys ar hyn o bryd o dan y cynllun hwn.
Faint allwch chi ei fenthyg?
Mae'r swm y gallwch ei fenthyca yn dibynnu ar y math o welliant, gofynion y benthyciwr a'ch amgylchiadau ariannol.
Mae gan y cynllun uchafswm benthyciad a gefnogir ar gyfer gwahanol dechnolegau.
Gwelliannau cartref | Uchafswm y benthyciad a gefnogir |
Paneli solar | £15,000 |
Batri storio yn y cartref | £15,000 |
Pwmp gwres aer-i-ddŵr | £20,000 |
Pwmp gwres o’r daear | £35,000 |
Pwmp gwres aer-i-aer | £10,000 (pan fydd ardystiad MCS ar gael) |
Boeler biomas cymwys | £20,000 |
Cysylltiad rhwydwaith gwres | £7,500 |
System gwynt neu drydan dŵr ar raddfa fach | £20,000 |
Mae'r rhain yn uchafsymiau a gefnogir gan y cynllun, nid symiau y bydd pob ymgeisydd yn gallu eu benthyca. Mae gan rai technolegau hefyd ofynion cymhwysedd neu ardystio ychwanegol.
Faint allech chi ei arbed ar ad-daliadau benthyciad?
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y gallai'r cynllun leihau cyfraddau llog hyd at bum pwynt canran o'i gymharu â chynhyrchion benthyca safonol cyfatebol.
Er enghraifft, byddai rhywun sy'n benthyca £10,000 dros saith mlynedd ar gyfradd llog o 8% fel arfer yn ad-dalu tua £155 y mis.
Trwy'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes, gallent arbed hyd at £285 y flwyddyn ar ad-daliadau benthyciad, yn dibynnu ar y cynnig sydd ar gael.
Bydd cyfraddau llog gwirioneddol ac ad-daliadau yn amrywio, felly mae'n bwysig cymharu benthycwyr ac ystyried cyfanswm y swm y byddwch chi'n ei ad-dalu.
Pwy all wneud cais yng Nghymru?
Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes os:
Rydych chi'n berchen ar eiddo preswyl yng Nghymru.
Rydych chi'n byw yn yr eiddo neu'n landlord preifat sy'n gwneud cais am eiddo rydych chi'n berchen arno.
Rydych chi'n bwriadu gosod gwelliant ynni cartref cymwys.
Rydych chi'n bodloni gofynion cymhwysedd, credyd a fforddiadwyedd y benthyciwr sy'n cymryd rhan.
Nid oes angen i chi fod yn berchen ar eich cartref yn llwyr. Nid yw bod â morgais yn eich atal rhag gwneud cais yn awtomatig.
Fodd bynnag, ni all tenantiaid wneud cais yn uniongyrchol. Os ydych chi'n rhentu a bod gennych ddiddordeb mewn gosod gwelliannau ynni yn eich cartref, gallech siarad â'ch landlord am yr opsiynau sydd ar gael.
Ni fydd pawb sy'n gwneud cais yn cael eu cymeradwyo am fenthyciad. Mae pob benthyciwr sy'n cymryd rhan yn gwneud ei benderfyniadau benthyca ei hun.
A allai'r gwelliannau hyn leihau eich biliau ynni?
Gall paneli solar, pympiau gwres a batri storio eich helpu i ddefnyddio ynni'n wahanol a gallent leihau costau ynni eich cartref.
Paneli solar - maent yn cynhyrchu trydan y gallwch ei ddefnyddio yn eich cartref, gan leihau faint y mae angen i chi ei brynu gan eich cyflenwr trydan.
Batri storio – mae’n caniatáu ichi storio trydan i'w ddefnyddio yn ddiweddarach. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych baneli solar neu dariff trydan addas.
Pympiau gwres – maent yn darparu dewis arall effeithlon i systemau gwresogi tanwydd ffosil traddodiadol. Mae p'un a ydynt yn lleihau eich biliau gwresogi yn dibynnu ar ffactorau gan gynnwys eich system wresogi bresennol, tariffau ynni a sut mae eich cartref yn defnyddio gwres.
Bydd arbedion cost yn dibynnu ar eich eiddo, y technolegau sydd wedi'u gosod, eich defnydd o ynni a phrisiau ynni yn y dyfodol.
Cyn gwneud unrhyw welliannau, mae'n werth cael cyngor ynghylch pa opsiynau sy'n addas ar gyfer eich cartref.
:fill(fff))
Sut i wneud cais am Fenthyciad Cartrefi Cynnes yng Nghymru
Rydych chi'n gwneud cais am Fenthyciad Cartrefi Cynnes trwy fenthyciwr sy'n cymryd rhan, yn hytrach nag yn uniongyrchol trwy Lywodraeth y DU.
Dyma rai camau i'ch helpu i ddechrau arni.
1. Ystyried pa welliannau sy'n iawn ar gyfer eich cartref chi
Meddyliwch am sut mae eich cartref yn defnyddio ynni ar hyn o bryd a pha dechnolegau allai wneud gwahaniaeth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn cynhyrchu eich trydan eich hun gyda phaneli solar, ailosod system wresogi hŷn neu storio trydan mewn batri yn eich cartref.
2. Gwirio a allech gael cyllid grant yn gyntaf
Cyn benthyca, gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael grantiau neu gymorth ariannol arall a allai leihau'r swm y mae angen i chi ei dalu.
Efallai y byddwch yn gallu cyfuno Benthyciad Cartrefi Cynnes â chefnogaeth gan y Cynllun Uwchraddio Boeler, ar yr amod eich bod yn bodloni'r gofynion perthnasol ac nad ydych yn derbyn cyllid ddwywaith ar gyfer yr un costau.
3. Dewch o hyd i osodwr ardystiedig priodol
Ac eithrio cysylltiadau rhwydwaith gwres, rhaid i'r holl waith gael ei gwblhau gan osodwr sydd wedi'i ardystio trwy'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS).
Mae'n werth cael mwy nag un dyfynbris fel y gallwch gymharu costau gosod, gwarantau a'r gwelliannau arfaethedig.
Dod o hyd i ddarparwr gan ddefnyddio cyfeiriadur MCS.
4. Cymharu benthycwyr sy'n cymryd rhan
Mae gwahanol fenthycwyr yn cynnig gwahanol gyfraddau, cyfnodau ad-dalu a chynhyrchion benthyciad.
Gall rhai benthyciadau fod ar gael yn uniongyrchol trwy fenthyciwr, a gellir trefnu eraill trwy osodwyr neu fanwerthwyr sy'n cymryd rhan.
Gwiriwch y gyfradd llog, unrhyw ffioedd, yr ad-daliadau misol a chyfanswm y swm ad-daladwy cyn penderfynu.
5. Gwnewch gais a threfnu'r gwaith gosod
Ar ôl i chi ddewis benthyciwr, bydd angen i chi gwblhau ei broses ymgeisio.
Bydd y benthyciwr yn asesu eich cymhwysedd, teilyngdod i gael credyd a'ch gallu i ad-dalu'r benthyciad.
Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, gallwch drefnu i'r gwelliannau cymwys gael eu gosod yn unol â'ch cytundeb cyllid.
Dysgu mwy a gwneud cais drwy wefan swyddogol Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes.
Pa gymorth ariannol arall sydd ar gael yng Nghymru?
Nid yw benthyciad o reidrwydd yr opsiwn cywir i bawb, yn enwedig os ydych ar incwm isel neu'n poeni am ymdopi ag ad-daliadau misol ychwanegol.
Efallai y bydd cymorth arall ar gael.
Nyth – Rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru
Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim ar arbed ynni a gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref. Gall aelwydydd ar incwm isel neu fudd-daliadau prawf modd sy'n byw mewn cartrefi ynni aneffeithlon hefyd fod yn gymwys i gael gwelliannau ynni yn y cartref am ddim.
Cynllun Uwchraddio Boeler
Mae'r Cynllun Uwchraddio Boeler yn darparu grantiau tuag at gost systemau gwresogi carbon isel cymwys yng Nghymru a Lloegr.
Gellir defnyddio'r cynllun Benthyciad Cartrefi Cynnes ar y cyd â'r Cynllun Uwchraddio Boeler i helpu i dalu costau gosod sy'n weddill.
Gallai gwirio pa gymorth rydych chi'n gymwys i’w gael cyn cymryd benthyciad eich helpu i ddod o hyd i'r opsiwn mwyaf addas a fforddiadwy ar gyfer eich cartref chi.
:fill(fff))
Cwestiynau cyffredin am y Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes
A yw'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes yn grant neu'n fenthyciad?
Mae'n fenthyciad, felly bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r arian rydych chi'n ei fenthyca. Mae cymorth y llywodraeth yn helpu benthycwyr sy'n cymryd rhan i gynnig costau benthyca is. Gall rhai benthycwyr gynnig cyllid di-log.
A allaf gael benthyciad di-log ar gyfer paneli solar yng Nghymru?
O bosibl. Mae rhai benthycwyr sy'n cymryd rhan yn cynnig benthyciadau di-log trwy'r cynllun. Mae argaeledd, cymhwysedd a thelerau ad-dalu yn dibynnu ar y benthyciwr a'r cynnyrch.
A allaf gael benthyciad i osod pwmp gwres yng Nghymru?
Gallwch. Efallai y bydd perchnogion tai cymwys a landlordiaid preifat yn gallu gwneud cais am Fenthyciad Cartrefi Cynnes i helpu i dalu cost gosod pwmp gwres cymwys.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael grant Cynllun Uwchraddio Boeler.
A allaf ddefnyddio'r benthyciad i dalu am inswleiddio neu ffenestri newydd?
Na. Nid yw inswleiddio a gosod ffenestri newydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn y Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes.
A oes angen i mi gael sgôr credyd da?
Mae benthycwyr sy'n cymryd rhan yn cynnal eu gwiriadau credyd a fforddiadwyedd eu hunain. Nid yw bod â hanes credyd gwael yn awtomatig yn golygu na allwch ymholi, ond nid yw cymeradwyaeth wedi'i warantu.
A allaf wneud cais os oes gen i forgais eisoes?
Cewch. Nid yw bod â morgais eisoes yn eich atal rhag gwneud cais yn awtomatig. Bydd eich benthyciwr yn ystyried eich amgylchiadau ariannol a'ch ymrwymiadau presennol.
A all landlordiaid wneud cais am Fenthyciad Cartrefi Cynnes?
Gallant. Gall landlordiaid preifat cymwys wneud cais am welliannau ynni cartref i eiddo preswyl y maent yn berchen arnynt, yn amodol ar ofynion y benthyciwr.
A all tenantiaid wneud cais?
Na. Rhaid i berchennog yr eiddo wneud cais. Os ydych chi'n denant, gallwch siarad â'ch landlord am welliannau posibl i'ch cartref.
A fydd paneli solar neu bwmp gwres yn bendant yn lleihau fy miliau ynni?
Na. Mae arbedion yn dibynnu ar eich eiddo, defnydd ynni, cost gosod a thariffau ynni. Gofynnwch i'ch gosodwr esbonio'r costau rhedeg disgwyliedig a'r arbedion posibl cyn ymrwymo.
A allaf ddefnyddio Benthyciad Cartrefi Cynnes ochr yn ochr â'r Cynllun Uwchraddio Boeler?
Gallwch, pan fo'n gymwys. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu defnyddio grant Cynllun Uwchraddio Boeler tuag at bwmp gwres a Benthyciad Cartrefi Cynnes i dalu costau cymwys sy'n weddill. Ni ellir ariannu'r un costau ddwywaith.
A oes angen Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) arnaf?
Nid yw'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes yn gofyn am isafswm sgôr EPC nac EPC fel amod cyffredinol, er y gall benthycwyr unigol fod â'u gofynion eu hunain.
Ble alla i ddod o hyd i fenthyciwr sy'n cymryd rhan?
Mae gwefan swyddogol GOV.UK yn rhoi gwybodaeth am fenthycwyr sy'n cymryd rhan, cynhyrchion benthyciadau sydd ar gael a sut i wneud cais.
Beth sy'n digwydd os ydw i'n cael trafferth ad-dalu'r benthyciad?
Cysylltwch â'ch benthyciwr cyn gynted â phosibl os ydych chi'n cael trafferth talu’r ad-daliadau. Cyn cymryd benthyciad, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall yr amserlen ad-dalu, y ffioedd a beth fydd yn digwydd os byddwch chi'n methu taliad.
Dysgwch a allai'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes eich helpu chi
Os ydych chi'n ystyried paneli solar, pwmp gwres neu fatri storio ar gyfer eich cartref, gallai'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes fod yn ffordd arall o reoli'r gost ymlaen llaw.
Gall cymryd amser i ddeall eich opsiynau, cymharu dyfynbrisiau a gwirio pa gymorth ariannol sydd ar gael eich helpu i wneud penderfyniad sy'n iawn i'ch cartref a'ch cyllideb chi.
Ystyried cael pwmp gwres? Clywch gan berchnogion tai eraill
Os ydych chi'n ystyried newid i ddefnyddio pwmp gwres, gallwch hefyd ddarllen am brofiadau Neil a Rhiannon o gael un wedi'i osod, gan gynnwys sut beth yw byw gyda phwmp gwres o ddydd i ddydd.
:fill(transparent))
:fill(transparent))
:fill(transparent))