Cyhoeddi yn gyntaf: 26/08/2025 -

Wedi diweddaru: 26/08/2025 -

Verified by our Editorial Panel

Helpwch ni i atal y Gagynen Goesfelen rhag lledaenu i Gymru

Beth yw'r Gagynen Goesfelen?

Mae'r gagynen goesfelen (Vespa velutina nigrithorax - Yellow-legged hornet), neu'r gagynen Asiaidd o roi ei enw arall arno, yn fath o bryfedyn sydd ddim yn frodorol i Brydain. Daw o Asia'n wreiddiol a chafodd ei gweld gyntaf yn Ffrainc yn 2004. Ers hynny, mae hi wedi cyrraedd sawl gwlad yn Ewrop, gan gynnwys Sbaen, Gwlad Belg, Portiwgal, yr Eidal, y Swistir a'r Almaen. Ers 2016, mae wedi'i gweld yn Lloegr hefyd ac mae camau wedi'u cymryd i gael hyd i'w nythod a'u dinistrio.

Mae'r gagynen hon yn newyddion drwg.. Mae'n bwyta gwenyn mêl a phryfed eraill sy'n helpu blodau i dyfu a chnydau i gynhyrchu bwyd. Dyna pam mae angen i ni ei hatal rhag ymgartrefu yng Nghymru.

Yellow legged hornet

Pam ddylen ni boeni?

Hyd yn hyn, nid oes cadarnhad eto ei bod wedi'i gweld yng Nghymru, ond mae hi wedi'i gweld ger y ffin mewn llefydd fel Swydd Amwythig a Swydd Gaer. O beidio â sylwi arni'n fuan, gallai ledaenu'n gyflym a bod yn anodd cael gwared arni.

Mae llawer o gefn gwlad yng Nghymru ac mae'r boblogaeth yn denau mewn rhai ardaloedd, felly maeg wir angen i bawb gadw llygad barcud allan amdani.


Sut i adnabod y Gagynen Goesfelen

Mae'r gagynen (neu'r horned) hon yn mynd o gwmpas ei phethau o fis Chwefror i fis Tachwedd, ond rydych chi'n fwyaf tebygol o'i gweld o fis Gorffennaf ymlaen. Mae'n hoffi:

  • Planhigion blodeuol (yn enwedig iorwg/eiddew yn yr hydref)

  • Cychod neu nythod gwenyn

  • Ffrwythau sy'n pydru fel afalau wedi cwympo

Nid yw fel arfer yn ymosodol, ond gall eich pigo os bydd hi'n teimlo bod ei nyth mewn perygl. Felly peidiwch byth â mynd yn agos at nyth.

Mae rhai o'n pryfed brodorol yn edrych yn debyg i'r gagynen goesfelen, felly mae'n bwysig dysgu sut i wahaniaethu rhyngddyn nhw. Edrychwch ar y canllaw hawdd hwn:
👉 Canllaw Adnabod y Gagynen Goesfelen (PDF)


 Sut i riportio'r Gagynen

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gweld cacynen goesfelen, rhowch wybod i ni! Mae'n well defnyddio:

  • Ap yr Asian Hornet Watch (am ddim ar gyfer Android ac iPhone)

  • Y ffurflen ar-lein ar wefan BeeBase

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys llun a lleoliad ble weloch chi'r gagynen.


Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd

Mae angen eich help arnom i ddiogelu gwenyn a natur yng Nghymru. Trwy ddysgu sut i adnabod y gagynen goesfelen a rhoi gwybod i ni pan fyddwch yn ei gweld, rydych chi'n helpu i'w hatal rhan lledaenu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen 'Yellow-Legged Hornet' yr Uned Wenyn Genedlaethol.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol