Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 3 Rhagfyr 2025 -

Wedi diweddaru: 3 Rhagfyr 2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mewnwelediadau o’r wythnos

Ar draws tri diwrnod o bodlediadau fideo, paneli byw a gweithdai cydweithredol, daeth arbenigwyr hinsawdd ac arweinwyr o’r llywodraeth, busnes, diwydiant a’r trydydd sector ynghyd - gydag un nod gyffredin - creu cynllun ymarferol a chydlynol i gyflymu'r broses o leihau allyriadau carbon dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.

Roedd ffocws penodol ar ddatgloi manteision newid, yn benodol mewn meysydd fel tai, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth a defnydd tir, lle mae gan Gymru’r pwerau datganoledig i arwain newid.

Yn ystod y trafodaethau, roedd ymdeimlad clir o feddwl cydlynol a chydweithredol, gyda llawer o siaradwyr yn cytuno y dylai tri philer allweddol arwain polisïau, cynllunio a seilwaith ar draws y tri sector.

Cydweithredu, Cyfathrebu a Chymuned – yn sefyll allan fel meysydd y dylai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw yn y Gyllideb Garbon nesaf, os yw Cymru am gadw momentwm a chyflawni newid gwirioneddol a pharhaol.

Gadewch i ni edrych yn fanylach ar bob un o’r pwyntiau trafod allweddol ar draws y tri diwrnod….yn dod yn fuan.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol