Cyhoeddi yn gyntaf: 7 Hydref 2025 -
Wedi diweddaru: 12 Tachwedd 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Pympiau gwres ar gyfer eich cartref: grantiau, budd-daliadau a sut i ddechrau
Mae mwy na 8,500 o bobl yng Nghymru eisioes wedi gwneud cais am y Cynllun Uwchraddio Boeleri.
Mae pwmp gwres yn cynnig ffordd effeithlon o gynhesu eich cartref a'ch dŵr. Mae'n cadw tymheredd cyson yn eich cartref drwy gydol y flwyddyn.
Gyda grantiau llywodraeth o £7,500 ar gael, neu £9,000 ar gyfer cartrefi sy'n newid o olew neu LPG, gall osod pwmp gwres fod yn fwy fforddiadwy nag yr ydych chi'n meddwl. Mae benthyciadau llog isel a dim llog hefyd ar gael trwy'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes i'ch helpu i ledaenu costau dros amser.
Dysgwch sut mae pwmp gwres yn gweithio, y manteision o osod un, faint maen nhw'n ei gostio i'w rhedeg ac a allai un fod yn iawn i chi.
Ewch yn syth i gyngor ariannol.
:fill(fff))
Beth yw pwmp gwres a sut mae'n gweithio?
Mae pwmp gwres yn gwresogi eich cartref gan ddefnyddio trydan. Mae'n gweithio yn groes i sut mae oergell yn gweithio, ac yn cymryd gwres o'r aer neu'r ddaear (hyd yn oed pan mae'n oer iawn y tu allan). Bydd yn ei gynyddu i dymheredd uwch a'i drosglwyddo i'ch cartref i ddarparu gwres a dŵr poeth. Gall pwmp gwres gynhesu'ch cartref a'ch dŵr hyd yn oed ar y diwrnodau oeraf.
Mae uned pwmp gwres o’r aer yn cael ei gosod ar y tu allan i gartref neu eiddo. Mae uned pwmp gwres o’r ddaear yn cael ei gosod y tu allan i'ch cartref a'ch eiddo.
Pam cael pwmp gwres?
Addasrwydd
Mae'r rhan fwyaf o gartrefi yng Nghymru yn addas ar gyfer pwmp gwres ac mae dros 8,500 o bobl eisoes wedi gwneud cais i'r Cynllun Uwchraddio Boeleri i osod un.
Bod yn effeithlon iawn
Mae pympiau gwres tua 3 gwaith yn fwy effeithlon na boeleri traddodiadol
Uwchraddio eich system wresogi
Mwynhau dymheredd cyfforddus a sefydlog yn eich cartref. Gallant hefyd weithio gyda'ch rheiddiaduron presennol.
Gostwng eich carbon
Hyd at 70% yn llai o CO2 na boeler nwy a dim allyriadau ar adeg ei ddefnyddio.
Lleihau eich biliau
Arbed tua £100 y flwyddyn gyda thariffau clyfar*.
Helpu i wella ansawdd aer
Nid yw pympiau gwres yn llosgi tanwydd gan helpu i leihau llygredd aer.
Cymorth ariannol ar gyfer eich pwmp gwres
Cynllun Uwchraddio Boeleri
Mae'r rhan fwyaf o berchnogion tai yng Nghymru yn gymwys i gael grant y Cynllun Uwchraddio Boeleri i helpu i dalu costau gosod pwmp gwres. Mae'r grant yn cynnig £7,500 tuag at gost pwmp gwres, neu £9,000 i'r rhai sy'n newid o ddefnyddio olew neu LPG.
I fod yn gymwys, bydd angen i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
Chi sy'n berchen ar yr eiddo - eich prif gartref neu eich ail eiddo.
Rydych chi'n disodli system wresogi tanwydd ffosil bresennol - nwy, olew, trydan neu LPG.
Mae gan eich eiddo Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ddilys.
Mae'r eiddo yng Nghymru neu Loegr.
Bydd eich gosodwr yn gwirio a ydych chi'n gymwys ac a oes angen unrhyw ddiweddariadau i'ch cartref i gael y gorau o'ch pwmp gwres. Yna byddant yn gwneud cais i'r Cynllun Uwchraddio Boeleri ar eich rhan trwy wefan Ofgem - gan arbed y drafferth i chi.
Cyllid
Gall sawl cyflenwr ynni gynnig bargeinion cyllid, fel cyllid 0% a llog isel.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael arian yn ôl trwy eich morgais, mae rhai banciau'n cynnig hyd at £2,000 o arian yn ôl ar gyfer gosodiadau pwmp gwres trwy gynlluniau cymeradwy. Mae'n werth gwirio gyda'ch banc chi.
Gallwch gael benthyciadau di-log neu log isel drwy'r Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes. Mae hyn yn golygu y gallwch osod pwmp gwres heb unrhyw gost ymlaen llaw, gan wasgaru'r taliadau dros amser.
0% TAW
Mae gosodiadau pwmp gwres yn elwa o fod wedi'u heithrio rhag TAW.
Os ydych chi eisoes wedi penderfynu cael pwmp gwres, dewch o hyd i osodwr dibynadwy yn eich ymyl i gael dyfynbrisiau ac asesiad cartref.
A yw eich cartref yn addas ar gyfer pwmp gwres?
Beth i'w ddisgwyl gan bwmp gwres
Pwmp gwres o'r aer
Bydd angen ychydig o le y tu allan arnoch ar gyfer uned ffan sydd fel arfer yn amrywio o 1 i 1.5m o uchder. Weithiau gall fod angen caniatâd cynllunio i osod un o’r rhain – gallwch wirio a oes angen gwneud hyn ar gyfer eich eiddo chi yma.
Pwmp gwres o’r ddaear,
Bydd angen mwy o le arnoch er mwyn gallu claddu pibelli mewn arae neu dwll turio. Mae'r pympiau gwres hyn yn amrywio o ran uchder o gyn lleied â 0.5m i tua 1.7m yn dibynnu ar y model.
Sŵn
Fel arfer, gwneir asesiad cadarn yn ystod y broses osod. Yn gyffredinol, canfyddir bod pympiau gwres modern yn gymharol dawel, gyda sŵn tebyg i oergell neu foeler.
Y tu mewn i'ch cartref
Os nad oes gennych un eisoes, bydd angen uned storio dŵr poeth fel silindr ar eich pwmp gwres i roi dŵr poeth i chi. Efallai y bydd gosodwyr yn argymell uwchraddio rheiddiaduron i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd y system. Lle bo angen, mae'r newidiadau hyn yn gyffredinol wedi'u cynnwys yn y dyfynbris gosod a gellir defnyddio’r grant i dalu amdanynt.
Beth i'w ddisgwyl wrth osod pwmp gwres
Gall y gwaith gosod gymryd 2-5 diwrnod.
Bydd y gwaith yn llawer llai tra erthus nag ail-wifrio neu ailosod system wresogi gyfan.
Bydd gennych ddwr poeth drwy’r amser, ac eithrio
cyfnod byr o ychydig oriau wrth newid o un i’r llall.
Os ydych chi eisoes yn cynllunio adnewyddiadau i'ch cartref, gallai newid i bwmp gwres ar yr un pryd helpu i gyfyngu ar aflonyddwch i'ch cartref yn y dyfydol.
Defnyddio pwmp gwres
Bydd eich pwmp gwres yn gweithio ochr yn ochr â thermostat i gynnal tymheredd cyfforddus yn eich cartref. Bydd yn addasu'n awtomatig pa mor galed mae’r pwmp yn gweithio yn dibynnu ar ba mor oer yw hi y tu allan.
Os oes gennych fesurydd clyfar wedi'i osod, mae rhai cyflenwyr ynni yn cynnig tariffau 'amser defnyddio' gyda thrydan rhatach yn ystod oriau brig.
Os oes gennych baneli solar neu batri yn eich cartref, gall y trydan o'ch paneli ddarparu digon o bŵer ar gyfer eich pwmp gwres yn ystod y dydd neu wedi'i storio yn eich batri. Mae hyn yn creu system glyfar sy'n defnyddio ynni o’r cartref i arbed arian ychwanegol ar eich biliau.
Clywch gan berchnogion pympiau gwres yng Nghymru
Barod i ddechrau arni?
I gael dyfynbris, ewch i wefan MCS i ddod o hyd i osodwr pwmp gwres yn eich ardal neu cysylltwch â'ch cyflenwr ynni. Mae dod o hyd i osodwr yn cymryd dim ond munudau ar eu gwefan.
Dylech ddewis gosodwr sydd wedi’i ardystio gan MCS os ydych chi'n mynd i wneud cais am gyllid gan y llywodraeth, fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri.
MCS yw marc ansawdd y DU ar gyfer systemau ynni adnewyddadwy fel pympiau gwres. Os yw eich gosodwr wedi'i gofrestru gyda MCS, maen nhw'n bodloni'r safonau cydnabyddedig ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy ac yn defnyddio cynhyrchion cymeradwy yn unig.
Hefyd, rhaid i bob Which? Trusted Trader fod wedi cofrestru gyda MCS os ydyn nhw'n gosod pympiau gwres sy'n golygu eu bod nhw'n cynnig gwasanaeth y gallwch chi ymddiried ynddo.
Eich canllaw hanfodol i bympiau gwres
* Mae costau ac arbedion sy'n gysylltiedig â thariffau clyfar yn gofyn am osod mesurydd clyfar ac yn amrywio yn dibynnu ar y tariff; pa mor aml a phryd rydych chi'n cynhesu'ch cartref; math, maint ac effeithlonrwydd ynni eich eiddo; ac effeithlonrwydd eich pwmp gwres, ymhlith ffactorau eraill. Mae'r ffigurau uchod yn seiliedig ar fodelu efelychu deinamig o dŷ ar wahân 3 ystafell wely cyffredin gyda waliau ceudod wedi'u hinswleiddio a phwmp gwres gyda ffactor perfformiad tymhorol o 3.13. Mae arbedion yn seiliedig ar brisiau tariff Octopus Cosy a'r cap pris ynni o'r cyfnod rhwng Gorffennaf 2023 - Gorffennaf 2024 ac yn tybio nad oes tâl sefydlog nwy. Wrth i brisiau ynni a chyfraddau tariff newid, felly hefyd y bydd costau ac arbedion amcangyfrifedig.
:fill(transparent))
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)
)