Cyhoeddi yn gyntaf: 19 Tachwedd 2026 -
Wedi diweddaru: 19 Tachwedd 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Sut i baratoi eich cartref rhag llifogydd a thywydd y gaeaf yng Nghymru
:fill(fff))
Gall tywydd y gaeaf yng Nghymru ddod â glaw trwm, gwyntoedd cryfion, llifogydd a thymheredd rhewllyd. Gall cymryd camau syml i baratoi eich cartref helpu i ddiogelu eich eiddo a chadw eich teulu'n ddiogel.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd.
Nid eiddo sy'n agos at afonydd neu'r arfordir yn unig y mae llifogydd yn effeithio arnynt. Gall glaw trwm hefyd orlethu draeniau ac achosi llifogydd dŵr wyneb, weithiau heb fawr o rybudd.
Hyd yn oed os nad yw eich cartref erioed wedi dioddef llifogydd o'r blaen, mae'n werth gwirio'r risg a gwybod beth i'w wneud os bydd tywydd garw yn cyrraedd.
Dyma rai ffyrdd ymarferol o baratoi eich cartref ar gyfer llifogydd a thywydd y gaeaf.
Gwiriwch a yw eich cartref yn wynebu risg o lifogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu offeryn ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i wirio'r risg o lifogydd yn eich ardal chi gan ddefnyddio eich cod post.
Gall gwybod beth yw eich risg eich helpu i benderfynu pa baratoadau allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich cartref chi.
Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim yng Nghymru
Does dim rhaid i chi aros nes i law trwm ddechrau i gael gwybod a yw llifogydd yn debygol. Mae CNC yn darparu rhagolwg perygl llifogydd pum diwrnod i'ch helpu i ddeall y risg yn y dyddiau sydd i ddod.
Mae CNC hefyd yn gweithredu gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim ar gyfer eiddo sy’n wynebu risg o afonydd mawr a'r môr.
Gallwch gofrestru i gael rhybuddion dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost, sy'n rhoi amser i chi baratoi os disgwylir llifogydd. Gallwch ddewis cael rhybuddion yn Gymraeg neu Saesneg.
Hysbysiad Llifogydd: Mae llifogydd yn bosibl. Paratowch a chadwch lygad am ddiweddariadau.
Rhybudd Llifogydd: Disgwylir llifogydd. Cymerwch gamau ar unwaith i amddiffyn eich hun a'ch eiddo.
Rhybudd Llifogydd Difrifol: Mae perygl i fywyd. Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys a byddwch yn barod i adael yr ardal.
Ni ellir rhagweld pob math o lifogydd. Gall llifogydd dŵr wyneb a llifogydd o gyrsiau dŵr llai ddatblygu'n gyflym; felly, nid oes rhybuddion ar gael ar gyfer y mathau hyn o lifogydd.
Gwiriwch rybuddion llifogydd cyfredol a chofrestrwch i gael rhybuddion.
Gallwch hefyd ffonio gwasanaeth Llinell Llifogydd 24 awr CNC ar 0345 988 1188.
Paratowch eich cartref at gyfer glaw trwm a stormydd
Gall ychydig o dasgau cynnal a chadw syml helpu i ddiogelu eich cartref pan fydd tywydd gwlyb a gwyntog yn cyrraedd.
Cliriwch gwteri a draeniau
Gall dail, mwsogl a malurion eraill rwystro gwteri a phibellau draenio, gan atal dŵr glaw rhag draenio i ffwrdd yn iawn.
Sicrhewch fod gwteri’n glir a bod dŵr yn gallu llifo i ffwrdd oddi wrth eich eiddo.
Rhowch wybod i'ch cyngor lleol am ddraeniau cyhoeddus ar y stryd sydd wedi'u rhwystro.
Clymwch eitemau rhydd yn sownd y tu allan
Gall dodrefn ar gyfer yr ardd, potiau planhigion, biniau a gwrthrychau rhydd eraill gael eu chwythu o gwmpas mewn gwyntoedd cryfion.
Os rhagwelir bod storm ar y ffordd, clymwch eitemau rhydd yn sownd neu symudwch nhw dan gysgod, os yw hi’n ddiogel gwneud hynny.
Gwiriwch eich to a’ch ffenestri
Gwyliwch rhag teils ar y to sydd wedi llithro, gwteri sydd wedi'u difrodi, neu fylchau o amgylch ffenestri a drysau a allai adael i ddŵr glaw fynd i mewn.
Trefnwch i weithiwr proffesiynol cymwys wneud unrhyw waith atgyweirio sy'n golygu gweithio ar uchder.
Meddyliwch ble mae dŵr glaw yn mynd
Os yw dŵr yn casglu'n rheolaidd yn eich gardd neu ar eich dreif, ystyriwch a ellid gwella'r draeniad.
Mae CNC yn argymell arwynebau athraidd, fel graean, sy'n galluogi mwy o ddŵr glaw i dreiddio i'r ddaear yn hytrach na llifo'n syth i ddraeniau.
Paratowch ar gyfer tywydd oer a thymheredd rhewllyd
Nid stormydd gaeafol yw'r unig beth sy'n gallu difrodi cartref.
Gall tywydd oer achosi i bibellau dŵr rewi a byrstio, gan arwain at waith atgyweirio costus a difrod dŵr o bosibl.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn argymell inswleiddio pibellau sy'n agored i'r elfennau, yn enwedig y rhai mewn yn yr atig, y garej neu yn yr awyr agored.
Mae hefyd yn werth cadarnhau lle mae stopfalf dŵr eich cartref, fel eich bod yn gwybod sut i ddiffodd y cyflenwad dŵr os bydd pibell yn byrstio.
Os oes gennych foeler, ystyriwch drefnu gwasanaeth cyn y gaeaf a sicrhau bod eich system wresogi yn gweithio'n iawn.
Mae cadw eich cartref yn ddigon cynnes yn bwysig i'ch iechyd, yn enwedig i bobl hŷn, plant bach a phobl sydd eisoes â chyflyrau iechyd.
Paratowch becyn argyfwng syml
Os bydd tywydd garw yn achosi toriad trydan, yn tarfu ar gyflenwadau dŵr, neu'n golygu bod angen i chi adael eich cartref, gall bod ag ychydig o eitemau hanfodol yn barod wneud pethau'n haws.
Mae CNC yn argymell paratoi pecyn llifogydd a'i gadw mewn lle hygyrch.
Gallai eich pecyn argyfwng gynnwys:
Tortsh a batris sbâr
Gwefrydd ffôn cludadwy wedi'i wefru'n llawn
Meddyginiaeth hanfodol a phecyn cymorth cyntaf
Dŵr yfed wedi'i botelu a bwyd nad oes angen ei goginio
Dillad cynnes a blancedi
Rhifau ffôn pwysig a chopïau o ddogfennau yswiriant
Eitemau i fabanod neu fwyd anifeiliaid anwes, os oes angen
Sicrhewch fod pawb yn eich cartref yn gwybod ble mae'r pecyn yn cael ei gadw.
Os ydych yn byw mewn ardal sy’n wynebu risg o lifogydd, mae hefyd yn werth paratoi cynllun ar gyfer y camau y gallai fod angen i chi eu cymryd rhag ofn y bydd llifogydd, a ble y byddech yn mynd pe bai angen i chi adael eich cartref.
Darllenwch gyngor CNC ar baratoi ar gyfer llifogydd.
Sicrhewch eich bod yn gwybod beth i'w wneud os bydd llifogydd
Os disgwylir llifogydd yn eich ardal, dilynwch rybuddion swyddogol a chymerwch gamau yn gynnar.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn argymell symud pobl, anifeiliaid anwes ac eiddo pwysig i le diogel.
Efallai y gallwch hefyd symud eitemau gwerthfawr i fyny'r grisiau, gosod offer amddiffyn rhag llifogydd, a diffodd y cyflenwadau nwy, trydan a dŵr, os yw'n ddiogel gwneud hynny.
Peidiwch byth â chyffwrdd â switshis neu offer trydanol tra byddwch yn sefyll mewn dŵr.
Peidiwch â cherdded na gyrru drwy ddŵr. Gall fod yn ddyfnach a llifo'n gyflymach nag y mae'n ymddangos, a gall gynnwys carthion, cemegau neu beryglon cudd.
Os yw eich cartref yn dioddef llifogydd, dilynwch gyngor y gwasanaethau brys. Ffoniwch 999 os byddwch mewn perygl.
Gallwch wirio rhybuddion byw a lefelau afonydd ar wefan CNC.
Dysgwch beth i'w wneud yn ystod llifogydd.
Gwiriwch eich yswiriant a sicrhewch eich bod yn gwybod ble i gael cymorth
Os yw eich cartref yn wynebu risg o lifogydd, gwiriwch a yw eich yswiriant adeiladau a chynnwys yn cynnig yswiriant addas.
Mae CNC yn argymell gwirio beth sydd wedi'i gynnwys yn eich polisi, a yw'n cynnwys llety dros dro, a beth fyddai angen i chi ei wneud pe baech yn gwneud hawliad.
Gallwch hefyd dynnu lluniau o'ch eiddo pwysig er mwyn helpu gyda hawliadau yswiriant yn y dyfodol.
Os yw eich eiddo eisoes wedi dioddef llifogydd, cysylltwch â'ch cwmni yswiriant a dilynwch eu cyngor cyn dechrau ar atgyweiriadau mawr.
Peidiwch â throi eich nwy neu drydan ymlaen nes eu bod wedi’u gwirio ac yn ddiogel gwneud hynny.
Os ydych chi'n cael trafferthion ar ôl llifogydd, efallai y gall eich cyngor lleol roi cyngor i chi ynglŷn â llety brys, cymorth caledi, a gwasanaethau lleol.
Darllenwch ganllawiau CNC ar beth i'w wneud ar ôl llifogydd.
Sicrhewch fod cymdogion, ffrindiau a theulu yn iawn
Nid yw paratoi ar gyfer y gaeaf yn ymwneud â gofalu am eich cartref chi eich hun yn unig.
Gall glaw trwm, llifogydd, toriadau trydan a thymheredd rhewllyd fod yn arbennig o anodd i bobl sy'n byw ar eu pen eu hunain, gyda phroblemau symudedd, neu sy'n dibynnu ar offer meddygol hanfodol.
Os rhagwelir bod tywydd garw ar y ffordd, ystyriwch gysylltu â chymdogion, perthnasoedd hŷn neu unrhyw un a allai fod angen cymorth ychwanegol.
Gallech helpu rhywun i wirio rhybuddion tywydd swyddogol, casglu cyflenwadau hanfodol, neu sicrhau bod rhifau ffôn pwysig ar gael iddynt.
Gall gweithredoedd bach o gymorth wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod tywydd anodd.
:fill(fff))
Ble gallaf ddod o hyd i rybuddion llifogydd a gwybodaeth am dywydd y gaeaf yng Nghymru?
Ar gyfer gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol, defnyddiwch y gwasanaethau swyddogol hyn:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwirio’r risg o lifogydd, gweld rhybuddion llifogydd byw, a chofrestru ar gyfer rhybuddion am ddim.
Ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Y Swyddfa Dywydd
Gwiriwch rhagolygon y tywydd a rhybuddion am law trwm, gwyntoedd cryfion, eira a rhew.
Gwiriwch rybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd.
Traffig Cymru
Edrychwch am ffyrdd sydd ar gau, problemau teithio ac amodau gyrru.
Toriadau trydan
Ffoniwch 105 i roi gwybod am doriad trydan neu cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith trydan lleol.
Cwestiynau Cyffredin
Sut y gallaf wybod a yw fy nhŷ yn wynebu risg o lifogydd yng Nghymru?
Gallwch wirio eich risg o lifogydd yn ôl cod post gan ddefnyddio'r gwasanaethau mapio am ddim a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r rhain yn dangos y risg o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb.
Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd yng Nghymru?
Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost. Gallwch hefyd ffonio Rhybuddion llifogydd ar 0345 988 1188.
Beth ddylwn i ei wneud cyn storm?
Gwiriwch y rhybuddion tywydd diweddaraf gan y Swyddfa Dywydd, clymwch eitemau rhydd yn eich gardd yn sownd, cliriwch gwteri a draeniau os yw’n ddiogel gwneud hynny, gwefrwch eich ffôn a pharatowch gyflenwadau hanfodol rhag ofn y bydd tarfu.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy nhŷ yn dioddef llifogydd?
Dylech chi eich hun ac eraill symud i le diogel, osgoi llifddwr a dilyn cyngor y gwasanaethau brys. Os yw'n ddiogel, diffoddwch y cyfleustodau a symudwch eiddo hanfodol i ffwrdd oddi wrth lefelau dŵr sy'n codi. Ffoniwch 999 os oes perygl i fywyd.
A all llifogydd ddigwydd hyd yn oed os nad ydw i'n byw ger afon?
Gallant. Gall llifogydd dŵr wyneb ddigwydd pan fydd glaw trwm yn gorlethu draeniau, neu pan na all y dŵr dreiddio i'r ddaear yn ddigon cyflym. Gall effeithio ar eiddo sydd ymhell oddi wrth afonydd ac ardaloedd arfordirol.
Gall ychydig o baratoi wneud gwahaniaeth mawr
Ni allwn reoli'r tywydd, ond gallwn gymryd camau ymarferol i ddiogelu ein cartrefi a gofalu am ein gilydd.
Drwy gofrestru ar gyfer rhybudd llifogydd am ddim, clirio eich gwteri neu baratoi pecyn argyfwng, gall paratoi nawr helpu i leihau'r tarfu a'r costau a achosir gan dywydd garw.
Dechreuwch drwy wirio eich risg o lifogydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
:fill(transparent))
:fill(transparent))