Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 11 Tachwedd 2026 -

Wedi diweddaru: 11 Tachwedd 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Sut i baratoi eich cartref ar gyfer y gaeaf: camau syml i'w cymryd nawr

Gan fod tywydd gwlypach a mwy gwyntog yn bosibl ledled Cymru yr hydref a'r gaeaf hwn, dyma sut y gallai ychydig bach o baratoi wneud gwahaniaeth mawr.

A woman reading by candlelight during a powercut

O sychder a thanau gwyllt yr haf i stormydd a llifogydd y gaeaf, mae Cymru wedi profi eithafion tywydd gwahanol iawn dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gan fod y Swyddfa Dywydd yn tynnu sylw at y posibilrwydd o amodau gwlypach a mwy gwyntog yr hydref a'r gaeaf hwn, dyma amser da i ystyried pa mor barod yw eich cartref.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch newydd Byddwch yn Barod, sy'n annog aelwydydd i gymryd camau syml i baratoi ar gyfer argyfyngau, yn cynnwys toriadau yn y gwasanaethau trydan, dŵr a rhyngrwyd.

Ond beth mae hyn yn ei olygu i'ch cartref chi, a beth allwch chi ei wneud nawr i fod yn fwy parod?

A allai El Niño effeithio ar dywydd y gaeaf yng Nghymru?

Patrwm hinsawdd naturiol yw El Niño sy'n digwydd pan fydd tymheredd y cefnfor mewn rhannau o'r Môr Tawel trofannol yn twymo mwy nag arfer.

Er bod hyn yn digwydd miloedd o filltiroedd i ffwrdd, gall ddylanwadu ar batrymau tywydd ledled y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai El Niño wneud tywydd gwlypach, mwy gwyntog a mwy stormus yn fwy tebygol tua diwedd yr hydref a dechrau'r gaeaf. Efallai y bydd cyfnodau oerach yn fwy tebygol yn ddiweddarach yn y gaeaf hefyd.

Dyw hynny ddim yn golygu bod Cymru'n sicr o brofi stormydd neu eira difrifol. Mae'r rhagolygon hirbell yn dweud wrthym ba dywydd sy'n fwy tebygol, yn hytrach na phryd neu ble yn union y bydd tywydd eithafol yn digwydd.

Ond gan fod newid hinsawdd hefyd yn cynyddu'r risgiau sy'n gysylltiedig â thywydd eithafol, mae bod yn barod yn syniad da.

Sut i baratoi ar gyfer argyfwng

Ar 22 Hydref 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gam cyntaf ei hymgyrch newydd, Byddwch yn Barod.

Mae'r cyngor yn annog aelwydydd i ystyried sut y bydden nhw'n ymdopi pe na byddai gwasanaethau bob dydd fel trydan, dŵr, rhwydweithiau ffôn neu'r rhyngrwyd ar gael dros dro.

Yr argymhelliad yw cael digon o gyflenwadau sylfaenol i ymdopi am ryw dri diwrnod, gan helpu aelwydydd i ymdopi tra bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu hadfer a bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf.

Y newyddion da? Does dim angen i chi brynu popeth ar unwaith.

Mae'n debyg bod llawer o'r pethau sy'n cael eu hargymell ar gael yn eich cypyrddau yn barod. Gallwch gasglu pethau eraill yn raddol wrth ichi fynd i siopa fel arfer.

Beth ddylech chi ei gynnwys mewn pecyn argyfwng?

Dyma rai o'r hanfodion y mae Llywodraeth y DU yn eu hargymell:

  • Dŵr yfed: Tua thri litr y person y dydd am dri diwrnod, gyda mwy o ddŵr ar gyfer coginio, golchi neu anifeiliaid anwes.

  • Bwyd nad oes angen ei goginio: Pysgod, ffa, llysiau a ffrwythau tun, cnau a phethau eraill y byddech chi'n eu bwyta fel arfer.

  • Tortsh a batris sbâr: Yn ddefnyddiol iawn os bydd toriad yn y pŵer. Mae tortshys batri yn fwy diogel na chanhwyllau.

  • Banc pŵer wedi'i wefru: Er mwyn i chi allu cadw'ch ffôn ymlaen yn ystod toriad yn y pŵer.

  • Dillad cynnes a blancedi: Gall cartrefi oeri'n go gyflym heb wres.

  • Radio batri neu radio weindio: I glywed y newyddion diweddaraf os bydd rhywbeth yn tarfu ar rwydweithiau ffôn neu'r rhyngrwyd.

  • Meddyginiaeth a chyflenwadau cymorth cyntaf: Gwiriwch fod gennych yr hyn sydd ei angen arnoch a gofynnwch am bresgripsiynau rheolaidd mewn da bryd.

  • Cyflenwadau hanfodol i blant ac anifeiliaid anwes: Gan gynnwys llaeth fformiwla, cewynnau (clytiau), a bwyd a dŵr ar gyfer anifeiliaid anwes os oes angen.

  • Ychydig o arian parod: Yn ddefnyddiol os nad yw peiriannau talu â cherdyn neu fannau codi arian yn gweithio.

Mae hefyd yn syniad da cadw rhifau ffôn pwysig a'ch manylion yswiriant ar bapur yn rhywle y gallwch gael gafael arnynt yn hawdd.

Gallwch weld y rhestr wirio lawn ar wefan Byddwch yn Barod Llywodraeth y DU.

A couple walking in the rain in Penarth

Pum peth rhad neu am ddim y gallwch eu gwneud cyn i'r tywydd mawr gyrraedd

Mae paratoi ar gyfer y gaeaf yn golygu mwy na dim ond llenwi'ch cypyrddau. Mae yna bethau bach y gallwch eu gwneud o gwmpas eich cartref i atal problemau gwaeth yn nes ymlaen.

A oes risg ichi gael llifogydd

Wyddoch chi fod un o bob saith cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o gael llifogydd?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n annog pawb i wirio eu risg llifogydd lleol, hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi cael llifogydd o'r blaen.

Gallwch wirio eich risg llifogydd a chofrestru am rybuddion am ddim.

Paratoi eich cartref ar gyfer y gwynt a'r glaw

Treuliwch ychydig o amser yn clirio dail o'ch draeniau a'ch gwteri pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny, rhowch ddodrefn eich gardd yn sownd a chwiliwch am ddifrod amlwg o amgylch eich ffenestri a'ch drysau.

Gallai gwneud rhai tasgau nawr helpu i atal dŵr rhag mynd i mewn i'ch cartref neu ddifrod i'ch eitemau yn ystod gwyntoedd cryfion.

Gweld a allech chi gael cymorth ychwanegol

Os oes gennych chi gyflwr iechyd, anabledd, plant ifanc neu anghenion cymorth ychwanegol, gallech chi fod yn gymwys i fynd ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PSR).

Gwasanaeth am ddim yw hwn sy'n helpu darparwyr trydan, nwy a dŵr i wybod pa aelwydydd a allai fod angen cymorth ychwanegol yn ystod toriadau yn eu cyflenwadau.

Gwybod beth i'w wneud os bydd toriad pŵer

Gwefrwch eich ffôn pan fydd rhagolygon o dywydd garw, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble mae'ch tortsh, a bod gennych chi ffordd o gadw'n gynnes.

Yng Nghymru, gallwch ffonio 105 am help wrth roi gwybod neu gael gwybodaeth am doriad pŵer.

Cadw golwg ar eich cymdogion

Gallwch baratoi drwy fynd gam ymhellach.

A oes angen help ar gymydog hŷn i baratoi ar gyfer y gaeaf? A oes rhywun gerllaw a allai ei chael hi'n anodd yn ystod toriad pŵer?

Gall cyfnewid eich manylion cyswllt neu gynnig casglu ychydig o hanfodion wneud gwahaniaeth go iawn pan fydd tywydd garw'n cyrraedd.

Sut i baratoi ar gyfer y gaeaf heb wario ffortiwn

Gan fod arian eisoes yn brin, y peth diwethaf rydych chi ei eisiau yw rhestr siopa ddrud arall.

Dechreuwch gyda'r hyn sydd gennych yn barod.

Edrychwch yn eich cypyrddau, edrychwch a oes gennych chi dortsh sy'n gweithio a gwnewch yn siŵr bod rhifau'r gwasanaethau brys ar eich ffôn wedi'u diweddaru.

Y tro nesaf y byddwch chi'n siopa, beth am gasglu tun ychwanegol o fwyd neu brynu batris newydd?

Gallech chi hefyd wirio deunydd inswleiddio ac atal drafftiau eich cartref. Gall cadw gwres i mewn wneud eich cartref yn fwy cyfforddus, gall olygu eich bod chi'n colli llai o wres ac, o bosibl, arbed arian ar filiau ynni drwy gydol y gaeaf.

A bob ychydig fisoedd, cofiwch gadw golwg ar yr eitemau rydych chi wedi'u rhoi o'r neilltu, gan fwyta bwyd hŷn cyn iddo fynd heibio'r dyddiad 'ar ei orau'.

Mae hinsawdd sy'n newid yn golygu paratoi ar gyfer gwahanol fathau o dywydd

Yng Nghymru, dyw paratoi ar gyfer y dyfodol ddim yn ymwneud â stormydd y gaeaf yn unig.

Rydyn ni eisoes yn profi effeithiau newid hinsawdd, o gyfnodau o law trwm a llifogydd i dywydd poethach a sychach.

Er bod El Niño'n batrwm hinsawdd naturiol, mae newid hinsawdd yn newid yr amodau ehangach y mae ein tywydd yn datblygu ynddynt.

Mae hynny'n golygu bod paratoi ymarferol yn fwyfwy pwysig.

Ni fydd y camau a gymerwn nawr yn atal stormydd na glaw trwm rhag digwydd, ond gallant helpu i leihau'r tarfu, amddiffyn ein cartrefi a gwneud ein cymunedau'n fwy gwydn.

Does dim rhaid i chi wneud popeth heddiw. Dechreuwch gydag un peth bach, ac ychwanegwch at hynny'n raddol.

Oherwydd dyw bod yn barod ddim yn golygu disgwyl y gwaethaf. Mae'n golygu gwneud bywyd ychydig bach yn haws os bydd yr annisgwyl yn digwydd.

Dolenni defnyddiol

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol