Cyhoeddi yn gyntaf: 26 Tachwedd 2026 -
Wedi diweddaru: 26 Tachwedd 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Sut i arbed arian ar eich biliau gwresogi: 6 newid syml i roi cynnig arnyn nhw y gaeaf hwn
:fill(fff))
Wrth i’r tymheredd ostwng, bydd llawer ohonom yn troi’r gwres ymlaen ac yn meddwl am faint y bydd yn ei gostio.
Y newyddion da yw does dim angen i chi wario arian ar offer newydd o reidrwydd i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni.
Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2026 gan Nesta, sefydliad ymchwil ac arloesi yn y DU, gallai cartrefi â boeleri combi addas arbed tua £57 y flwyddyn drwy newid un gosodiad.
A thrwy gyfuno hyn â phum newid arall o amgylch y cartref, mae Nesta yn amcangyfrif y gallai cartref arferol sy’n cael ei wresogi â nwy arbed tua £220 y flwyddyn. Dyma chwe ffordd i ddechrau arni.
1. Gostyngwch dymheredd llif eich boeler combi
Arbediad blynyddol amcangyfrifedig: £57
Mae llawer o foeleri combi wedi’u gosod i gynhesu dŵr i 75°C neu 80°C, hyd yn oed pan nad oes angen iddyn nhw wneud hynny.
Gelwir hyn yn dymheredd llif y boeler – tymheredd y dŵr sy’n teithio o’ch boeler i’ch rheiddiaduron.
Mae Nesta yn awgrymu y gall lleihau’r tymheredd llif i 60°C helpu eich boeler i weithio’n fwy effeithlon, gan ddefnyddio llai o nwy i gynhesu eich cartref.
Efallai y bydd eich rheiddiaduron yn teimlo ychydig yn oerach, ac efallai y bydd eich cartref yn cymryd ychydig yn hirach i gynhesu, ond gallech barhau i gael tymheredd dan do cyfforddus.
Sut mae newid tymheredd llif fy moeler?
Mae Nesta wedi datblygu canllaw cam wrth gam am ddim i’ch helpu i wirio a yw eich boeler yn addas a dod o hyd i’r gosodiad cywir.
Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd.
Rhowch gynnig ar Her Arbed Arian Boeleri Nesta.
Pwysig: Mae’r cyngor hwn ar gyfer boeleri combi addas yn unig. Os oes gennych silindr dŵr poeth ar wahân, peidiwch â newid ei dymheredd yn seiliedig ar y cyngor hwn. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr neu gofynnwch am gyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr.
2. Diffoddwch swyddogaeth cynhesu ymlaen llaw eich boeler
Arbediad blynyddol amcangyfrifedig: £7
Mae gan rai boeleri combi osodiad cynhesu ymlaen llaw sy’n cadw’r dŵr yn gynnes, hyd yn oed pan nad ydych yn ei ddefnyddio.
Er bod hyn yn golygu bod dŵr poeth ar gael yn gyflymach, mae hefyd yn defnyddio ynni.
Gall diffodd y swyddogaeth hon helpu i leihau’r defnydd o nwy diangen. Efallai y bydd angen i chi aros ychydig yn hirach i’r dŵr poeth gyrraedd eich tapiau, ond gallai’r newid arbed arian dros amser.
3. Addaswch osodiadau eich rheiddiaduron yn yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio cymaint
Arbediad blynyddol amcangyfrifedig: £41
Does dim angen i bob ystafell yn eich cartref gael ei chynhesu i’r un tymheredd.
Os oes gennych chi falfiau rheiddiaduron thermostatig (TRV), gallwch addasu rheiddiaduron unigol i reoli pa mor gynnes y mae pob ystafell.
Mae Nesta yn amcangyfrif y gallai lleihau’r tymheredd tua 1.5°C mewn ystafelloedd y tu allan i’ch prif ardal fyw arbed tua £41 y flwyddyn.
Gwnewch yn siŵr bod ystafelloedd yn aros yn ddigon cynnes i osgoi lleithder a chyddwysiad, yn enwedig yn ystod tywydd oer.
4. Trowch eich thermostat i lawr un radd
Arbediad blynyddol amcangyfrifedig: £67
Gall newidiadau bach i’ch thermostat wneud gwahaniaeth i’ch biliau gwresogi.
Mae Nesta yn amcangyfrif y gallai troi eich thermostat i lawr o 20°C i 19°C arbed tua £67 y flwyddyn i gartref arferol sy’n cael ei gynhesu â nwy.
Fodd bynnag, mae’n bwysig bod eich cartref yn aros yn ddigon cynnes i bawb sy’n byw yno.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori bod isafswm tymheredd o 18°C dan do yn briodol fel arfer i ddiogelu iechyd yn ystod cyfnodau oerach. Efallai y bydd rhai pobl hŷn, plant ifanc a phobl â chyflyrau iechyd penodol angen iddo fod yn gynhesach.
:fill(fff))
5. Caewch eich llenni pan fydd hi’n tywyllu
Arbediad blynyddol amcangyfrifedig: £7 (Nesta, 2026)
Efallai ei fod yn swnio’n syml, ond gall cau eich llenni gyda’r nos helpu i gadw cynhesrwydd y tu mewn i’ch cartref.
Mae llenni yn creu rhwystr ychwanegol sy’n atal gwres rhag dianc drwy ffenestri, gan helpu ystafelloedd i aros yn gynhesach am gyfnod hirach.
Mae Nesta yn amcangyfrif y gallai’r arfer syml hwn arbed tua £7 y flwyddyn.
6. Defnyddiwch lai o’ch gwres pan fydd y tywydd yn cynhesu
Arbediad blynyddol amcangyfrifedig: £65 (Nesta, 2026)
Wrth i’r gwanwyn agosáu a’r tywydd fynd yn fwynach, meddyliwch a oes angen i’ch gwres fod ymlaen mor hir bob dydd.
Mae Nesta yn amcangyfrif y gallai byrhau’r tymor gwresogi arbed tua £65 y flwyddyn i gartref arferol sy’n cael ei wresogi â nwy.
Does dim angen diffodd eich gwres ar ddyddiad penodol. Yng Nghymru, gall y tywydd fod yn anrhagweladwy, felly mae’n bwysig defnyddio tymheredd eich cartref ac anghenion eich cartref fel canllaw.
Faint allech chi ei arbed ar eich biliau ynni?
Yn ôl Nesta, gallai cyfuno ei chwe mesur arbed ynni a argymhellir arbed amcangyfrif o £220 y flwyddyn i gartrefi arferol sy’n cael eu cynhesu â nwy.
Mae’r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar ymchwil a gomisiynwyd gan Nesta, gan gynnwys dadansoddiad gan Cambridge Architectural Research a thystiolaeth o arbrawf Salford Energy House.
Bydd yr arbedion gwirioneddol yn amrywio yn dibynnu ar eich eiddo, eich system wresogi, eich gosodiadau presennol a’ch defnydd o ynni. Ni fydd pob mesur yn addas i bob cartref.
Cwestiynau cyffredin
Ydy gostwng tymheredd llif boeler combi yn arbed arian?
Ydy. Mae ymchwil a ddefnyddiwyd gan Nesta yn dangos bod gostwng tymheredd llif y gwres canolog ar foeler combi addas yn gallu lleihau’r defnydd o nwy. Mae Nesta yn amcangyfrif y gall aelwyd nodweddiadol sy’n lleihau ei osodiad o 75°C i 60°C arbed £57 y flwyddyn.
A allaf leihau fy miliau gwresogi heb wario arian?
Gallwch. Mae Nesta yn awgrymu chwe mesur am ddim, gan gynnwys addasu gosodiadau boeler combi, newid tymheredd rheiddiaduron, gostwng thermostat yr ystafell a chau llenni gyda’r nos.
A fydd fy nghartref yn dal yn gynnes os byddaf yn gostwng tymheredd fy moeler?
Mewn llawer o gartrefi, bydd, er y gall eich rheiddiaduron deimlo’n oerach ac efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ystafelloedd gynhesu. Bydd y gosodiad cywir yn dibynnu ar eich system wresogi a pha mor dda y mae eich cartref yn cadw gwres.
Ewch i’r afael â Her Arbed Arian Boeleri
Gall gwneud newidiadau bach i’r ffordd rydych yn cynhesu eich cartref helpu i leihau eich biliau ynni a chadw eich cartref yn gyfforddus hefyd.
Gall defnyddio llai o ynni hefyd helpu i leihau’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â gwresogi ein cartrefi.
Mae Her Arbed Arian Boeleri Nesta yn darparu canllawiau cam wrth gam am ddim i’ch helpu i wirio gosodiadau eich boeler a dechrau arbed ynni.
Darganfyddwch faint y gallech ei arbed gyda Her Arbed Arian Boeleri Nesta.
Ffynonellau a gwybodaeth bellach
Nesta (22 Hydref 2026) – Miliynau o aelwydydd yn colli allan ar bron i £60 o arbedion ynni. Ffynhonnell ar gyfer yr arbediad o £57 ar foeleri, yr arbediad cyfunol o £220 a’r chwe mesur a argymhellir.
Nesta (2022) – Her Arbed Arian Boeleri: tystiolaeth ategol. Ymchwil gefndirol a thystiolaeth arbrofol ar dymheredd llif boeleri ac arbedion ynni. Mae amcangyfrifon cynharach yn defnyddio prisiau ynni hanesyddol, felly defnyddir ffigurau arbedion 2026 yn yr erthygl hon.
Sefydliad Iechyd y Byd (2018) – WHO Housing and Health Guidelines. Ffynhonnell ar gyfer yr isafswm tymheredd dan do a argymhellir o 18°C a’r angen am dymheredd uwch ar gyfer rhai grwpiau bregus.
Mae’r holl arbedion ariannol yn yr erthygl hon yn amcangyfrifon a ddarparwyd gan Nesta yn ei ymgyrch Her Arbed Arian Boeleri ym mis Hydref 2026. Ni ddylid adio’r arbedion unigol at ei gilydd i gyfrifo arbedion posibl aelwyd. Mae Nesta yn amcangyfrif arbedion cyfunol o £220 y flwyddyn.
:fill(transparent))
:fill(transparent))