Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 18 Mawrth 2026 -

Wedi diweddaru: 18 Mawrth 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Pum tip gwych gan ‘Which?’ i ostwng eich biliau ynni

Gall biliau nwy a thrydan fod yn rhan fawr o gostau cartref. Fe wnaethon ni ofyn i'r arbenigwyr Which? am eu cyngor ar sut i'w gostwng.

1. Dewis y tariff ynni cywir

Tariff sefydlog

Os nad ydych chi ar fargen tariff sefydlog eisoes, gallwch arbed arian trwy drosglwyddo i un. Rydym yn argymell mynd am dariff sefydlog am ddim mwy na 12 mis, a dewis tariff gyda ffioedd ymadael isel neu ddim ffioedd, rhag ofn bod amgylchiadau'n newid a’ch bod eisiau canslo'ch contract yn gynnar.

Tariffau amser defnyddio

Gall tariffau amser defnyddio clyfar gyflawni arbedion - yn enwedig os oes gennych dechnoleg werdd fel pwmp gwres, system storio mewn batri neu gar trydan neu hybrid. Mae'r tariffau hyn yn defnyddio'ch mesurydd clyfar i gofnodi'r defnydd o drydan, ac yn codi tâl ar wahanol gyfraddau yn ystod gwahanol gyfnodau.

Os ydych chi'n ystyried tariff amser defnydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio beth yw ei gyfnodau oriau brig, a'r cyfraddau ar yr adegau hynny. Bydd angen i chi ystyried a allech chi fanteisio ar gyfraddau allfrig rhatach, ac osgoi defnyddio gormod o drydan yn yr oriau brig.

Cymharu prisiau ynni

Defnyddiwch wasanaeth newid ynni diduedd ‘Which?’ i gymharu prisiau ynni presennol ar gyfer eich cartref.

2. Ychwanegu deunydd inswleiddio lle bo’n bosibl

Inswleiddiad cost isel

Mae gwella inswleiddio eich cartref yn ffordd hygyrch a chost-effeithiol o ostwng biliau ynni. Gall gostio cyn lleied â £15 i osod eich deunydd inswleiddio eich hun o amgylch pibellau dŵr poeth agored. Po fwyaf o ddeunydd inswleiddio rydych chi'n ei ychwanegu, y mwyaf y byddwch chi'n ei arbed.

Inswleiddiad llofft

Os nad oes gennych ddeunydd inswleiddio atig, ychwanegwch y 270mm a argymhellir, gallech arbed hyd at £200 y flwyddyn mewn tŷ pâr, a theimlo'n fwy clyd hefyd.

Inswleiddiad wal geudod

Ar ôl i hynny gael ei wneud, ystyriwch inswleiddio eich waliau hefyd. Mae hyn yn dibynnu'n fawr ar y math o waliau yn eich tŷ felly dylech gael cyngor gan aseswr ôl-osod cymwys cyn mynd ymhellach.

Atal drafftiau

Os nad ydych chi'n barod am brosiect mawr, neu os ydych chi'n rhentu ac na allwch wneud newidiadau i’r adeiledd, gallwch wneud llawer o wahaniaeth drwy ddefnyddio deunydd atal drafftiau syml. Bydd hyd yn oed newidiadau bach yn lleihau’r gwres a gollir, ac yn gwneud i'ch cartref deimlo'n fwy clyd ar dymheredd is, felly efallai na fydd angen i chi estyn am y thermostat mor aml.

Rhestr wirio atal drafftiau:

  • Ffenestri: defnyddiwch stribedi atal drafftiau o amgylch fframiau ffenestri sy'n gollwng. Mae stribedi brwsh yn gweithio'n well ar gyfer ffenestri dalennog.

  • Drysau: defnyddiwch stribedi atal drafftiau o amgylch yr ymylon, a rhimynnau atal drafftiau brwsh neu seliwr drws colfachog ar y gwaelod.

  • Estyll a sgyrtinau: mae’n rhaid i estyllau symud felly defnyddiwch lenwad silicon hyblyg wrth lenwi bylchau drafftiog.

  • Hatshis atig: defnyddiwch stribedi ewyn atal drafft i gadw gwres i mewn.

Cofiwch - mae angen awyriad arnoch yn eich cartref, felly peidiwch â gorchuddio tyllau sydd i fod yno, fel awyrellau diferi mewn fframiau ffenestri. Gall awyru da atal lleithder a llwydni rhag cronni.

3. Defnyddio offer yn effeithlon

Yr offer sy'n defnyddio'r mwyaf o ynni yw’r nwyddau gwyn fel arfer a'r rhai a ddefnyddir ar gyfer coginio. Mae unrhyw offer sy'n defnyddio trydan i gynhesu neu oeri aer (fel oergelloedd, poptai a sychwyr dillad) neu i gynhesu dŵr (peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad) yn defnyddio llawer o drydan. Mae offer electronig modern fel setiau teledu a gwefrwyr gliniaduron yn defnyddio llawer llai.

Peiriannau golchi-sychu yw'r offer drutaf i'w rhedeg, sy'n costio dros £200 y flwyddyn ar gyfartaledd, yn ôl profion ‘Which?’ Mae sychwyr dillad cyddwyso ac oergell-rewgelloedd Americanaidd hefyd yn costio llawer i'w defnyddio, pob un yn ychwanegu dros £125 y flwyddyn ar gyfartaledd at filiau.

Rhowch gynnig ar yr awgrymiadau hyn i ostwng eich taliadau ynni:

  • Golchwch ddillad ar dymheredd is. Mae golchi dillad ar 30ºC (yn hytrach na 40ºC) yn lleihau'r gost 38%, yn ôl ein profion ni.

  • Dim ond pan fydd yn llawn y dylech ddefnyddio eich peiriant golchi llestri, ac wedi’i lenwi mewn ffordd effeithlon, fel na fydd angen i chi ail-olchi eitemau.

  • Defnyddiwch osodiadau eco ar offer os ydynt ar gael.

  • Sychwch ddillad yn yr awyr agored pan fydd y tywydd yn caniatáu, yn hytrach na defnyddio sychwr dillad.

  • Arhoswch i fwyd oeri cyn ei rewi, a dadmer bwyd wedi'i rewi yn yr oergell.

  • Cadwch offer yn lân. Mae digennu eich tegell, dadmer eich rhewgell, glanhau hidlydd lint eich sychwr dillad a glanhau'r coiliau ar gefn eich oergell yn rheolaidd yn eu helpu i weithio’n effeithlon.

4. Addasu eich boeler a'ch thermostat

Os nad yw eich boeler nwy wedi'i osod i redeg yn effeithlon, gall eich bil gwresogi fod yn uwch nag y mae angen iddo fod. Yn ystod eich gwasanaeth boeler blynyddol, gofynnwch i'ch peiriannydd a oes unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i leihau costau rhedeg.

Optimeiddio boeleri cyfun

Os oes gennych foeler combi, gall lleihau ei dymheredd llif ostwng eich biliau. Gall peiriannydd wneud hynny wrth wasanaethu’r boeler, ond mae hefyd yn bosibl i chi ei wneud eich hunan – gwiriwch lawlyfr eich boeler neu ei weld ar-lein. Mae boeleri combi cyddwyso yn tueddu i fod â thymheredd llif gwresogi wedi'i gosod i 75-80°C, ond mae 50-70°C yn ddigon ar gyfer llawer o gartrefi. Dechreuwch gyda newid bach, a gwiriwch fod eich rheiddiaduron yn cynhesu'r ystafelloedd cyn ei ostwng ymhellach.

Manteisio i'r eithaf ar thermostatau

Gall gostwng eich falfiau rheiddiadur thermostatig leihau'r galw mewn ystafelloedd nad ydych chi'n eu defnyddio. Gwnewch yn siŵr bod eich thermostat canolog wedi'i osod i ddod ymlaen a diffodd ar adegau sy'n addas i'ch cartref, a'i fod wedi'i osod mor isel ag sy'n gyfforddus. Dylai'r rheiddiadur agosaf at eich thermostat bob amser fod â falf gwbl agored, er mwyn osgoi sefyllfa pan fo’r gwres ymlaen am gyfnod hirach nag sydd ei angen.

5. Ystyried dewisiadau amgen

Os ydych chi'n ystyried gwelliannau ynni eraill yn eich cartref – fel cyfnewid eich boeler nwy neu olew am bwmp gwres, neu osod paneli solar – mae'n well cael cyngor annibynnol.

Mae offer am ddim ar gael ar-lein. Mae gan ‘Which?’ wasanaeth cynllunio ynni cartref sy’n rhoi gwybodaeth wedi'i theilwra i chi am gostau ac arbedion, yn seiliedig ar eich Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) a data arall. Peidiwch â phoeni os nad yw eich EPC yn gyfredol - gallwch olygu'r ymatebion â llaw.

Mae opsiynau eraill yn cynnwys:

  • Diweddaru eich EPC. Mae hyn yn ofynnol pan fyddwch chi'n gwerthu neu'n rhentu eich cartref. Mae EPC yn gyflym ac yn hawdd ei chael, ac fel arfer yn costio £50-£150. Mae'r wybodaeth mae’n ei darparu yn sylfaenol, felly ni fyddem yn argymell seilio eich uwchraddiadau ar hyn yn unig.

  • Asesiad ôl-osod. Mae adroddiad ôl-osod tair rhan yn cynnwys EPC, Asesiad Meddiannaeth sy'n rhoi manylion ynghylch sut mae ynni yn cael ei ddefnyddio yn eich cartref, ac Adroddiad Cyflwr ar gyflwr yr adeilad. Mae'r rhain wedi'u bwriadu i raddau helaeth ar gyfer cynlluniau ôl-osod a ariennir gan y llywodraeth, ac eto yn darparu cyngor eithaf sylfaenol. Mae'r costau'n amrywio rhwng £150 a £300.

  • Adroddiad dichonoldeb solar neu arolwg pwmp gwres. Os hoffech gael un o'r technolegau hyn, arolwg arbenigol yw'r cam nesaf. Weithiau maen nhw'n ad-daladwy os yw'n troi allan nad yw eich cartref yn addas. Mae arolygon solar yn aml yn cael eu gwneud o bell, felly maent yn gyflym ac yn anymwthiol: chwiliwch am sefydliadau cymunedol sy'n cynnig cyngor annibynnol. Mae arolygon pwmp gwres fel arfer yn cael eu gwneud gan osodwyr. Ar ôl dyfynbris am ddim cychwynnol, byddant yn ymweld â'ch cartref i gynnal arolwg hir ar y safle. Gall yr wybodaeth fod yn ddefnyddiol iawn, ond nid yw'n ddiduedd ac ni fydd yn cynnig opsiynau amgen.

  • Cynllun ôl-osod tŷ cyfan. Dyma'r opsiwn drutaf – weithiau tua £750 – ond y mwyaf cynhwysfawr o bell ffordd. Os ydych chi'n bwriadu adnewyddu ar raddfa fawr ac eisiau argymhellion gwyddonol diduedd gyda chostau manwl, lluniadau pensaernïol ac opsiynau amserlennu, mae'n fuddsoddiad gwerth chweil. Byddwch yn aml yn cael cymorth dilynol parhaus hefyd. Chwiliwch am gydlynwyr ôl-osod yn eich ardal chi.

Cael help i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni

Rhowch gynnig ar wasanaeth cynllunio ynni cartref am ddim ‘Which?’ i gael cyngor personol ar sut i wneud eich eiddo yn fwy effeithlon o ran ynni a lleihau biliau ynni. Gallwch hefyd ganfod sut i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni, gyda gwybodaeth am ddim am baneli solar, pympiau gwres, inswleiddio ac atal drafft.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol