Cyhoeddi yn gyntaf: 5 Mai 2023 -
Wedi diweddaru: 24 Hydref 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Arbed arian ac ynni gyda'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio
Gyda gwresogi cartrefi yn cyfrif am ran fawr o ôl troed carbon pobl, a gyda biliau ynni’n codi, inswleiddio cartrefi yw un o'r camau gorau er mwyn mynd i'r afael â’r hinsawdd a chostau ynni. Ac mae angen yr help yma ar y rhai ar yr incwm isaf yn fwy na neb.
:fill(fff))
Mae'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio’n helpu i wneud ôl-osod yn hawdd ac yn gost-effeithiol, i landlordiaid a thenantiaid.
Un tenant sydd wedi elwa ar y Rhaglen yw’r gofalwr llawn amser, Jayne Martin o Bontardawe. Cafodd waliau allanol a tho cartref Jayne eu hinsiwleiddio gan Tai Tarian – un o 27 darparwr tai cymdeithasol sy’n darparu’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gyda’r cwmni technoleg ynni, Sero. O ganlyniad, mae hi’n adrodd bod ganddi gartref mwy cyfforddus a biliau ynni is, gan ddweud
Mae fy nghartref yn amlwg yn gynhesach ac yn fwy clyd. Does dim angen i mi roi’r gwres ymlaen cymaint â hynny hyd yn oed, oherwydd mae'r inswleiddiad yn helpu i gadw'r cynhesrwydd i mewn. O ganlyniad, rwy’n defnyddio llawer llai o ynni, sy’n wych ar gyfer fy mhoced a’r amgylchedd.
Dywedodd Nick Cope, pennaeth buddsoddiad cyfalaf Tai Tarian:
Mae datgarboneiddio cartrefi yn her wirioneddol, gan fod gan bob cartref lwybr hollol wahanol at sero net. Mae rhai, fel un Jayne, angen llawer o waith ar strwythur cyffredinol y cartref er mwyn helpu i gadw’r gwres i mwn, tra bod eraill yn barod ar gyfer gosod technolegau ‘gwyrdd’ er mwyn mynd â nhw i’r lefel nesaf o effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio.
Mae Tai Tarian yn berchen ar dros 9000 eiddo ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Yn 2019, gwnaeth y darparwr tai cymdeithasol addewid i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030, ac wrth fod yn rhan o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, hi hefyd yw’r unig gymdeithas tai yn y DU i adeiladu 100% o’i chartrefi newydd gyda sgôr EPC A.
Ychwanegodd Nick:
Rydyn ni wedi inswleiddio waliau allanol miloedd o gartrefi dros yr wyth mlynedd diwethaf, sydd wedi helpu llawer o’n tenantiaid nid yn unig gyda’u biliau ynni, ond hefyd i wneud eu cartrefi’n fwy cysurus.
Gall mesurau ôl-osod fel inswleiddio helpu i wneud cartrefi'n fwy ynni-effeithlon, a all leihau biliau cyfleustodau a hyd yn oed gynyddu gwerth eich eiddo. Cyn cymryd camau, mae’n bwysig ystyried adeiladwaith neu ddeunyddiau eich cartref, sut mae ynni’n cyrraedd eich cartref a’r ffordd mae eich cartref yn cael ei gynhesu ac yn storio ynni. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dewis y mesurau effeithlonrwydd ynni cywir ar gyfer eich cartref a'ch anghenion.
Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ôl-osod mewn cartrefi lle mae angen cymorth fwyaf, gan ddechrau gyda darparu gwres fforddiadwy mewn cartrefi cymdeithasol. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn rhoi'r cymorth lle mae ei angen fwyaf er mwyn helpu i wireddu'r weledigaeth ar gyfer Cymru decach.
Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio’n rhan o’r Cynllun Sero Net, ail gynllun lleihau allyriadau Llywodraeth Cymru, sy’n gosod y sylfeini ar gyfer gwneud Cymru’n sero net erbyn 2050. Mae’n cynnwys 123 o bolisïau a chynigion ar gyfer gweithredu ar newid hinsawdd. Yn gynharach eleni cyhoeddwyd y bydd bron i £2 biliwn o fuddsoddiad gwyrdd wedi’i dargedu yn cael ei ddefnyddio i gryfhau ymateb Cymru i’r argyfyngau hinsawdd a natur dros y tair blynedd nesaf.
Dysgwch fwy
Dysgwch fwy am awgrymiadau inswleiddio ac arbed ynni i helpu i leihau eich biliau ynni.
:fill(transparent))