Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 8 Medi 2026 -

Wedi diweddaru: 8 Medi 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mae prisiau tanwydd yn codi. A yw'n amser da nawr i brynu car trydan ail-law?

Ydy ceir trydan ail-law yn werth eu prynu, ac a allai newid o betrol neu ddisel arbed arian i chi mewn gwirionedd? Dyma'r hyn sydd angen i chi ei wybod.

A person plugging in an vehicle for charging on a drive

Pam mae mwy o bobl yn edrych ar geir trydan ail-law?

Yn ôl y Startline Used Car Tracker, arolwg o werthwyr ceir yn y DU, prisiau tanwydd uwch bellach yw'r rheswm mwyaf y tu ôl i'r diddordeb cynyddol mewn ceir trydan ail-law.

Mae rhesymau eraill yn cynnwys:

  • Mwy o geir trydan ail-law ar gael

  • Prisiau is nag ychydig flynyddoedd yn ôl

  • Mwy o lefydd i wefru

  • Mwy o bobl yn teimlo'n hyderus am fatris ceir trydan

Mae gwerthwyr ceir hefyd yn dweud bod mwy o bobl yn gofyn am geir trydan a bod ceir trydan ail-law yn gwerthu'n gyflymach nag erioed o'r blaen.

Mae data Autotrader Awst 2026 yn dangos bod cerbydau trydan tair i bum mlwydd oed yn gwerthu 10 diwrnod yn gyflymach na chyfartaledd y farchnad ceir ail-law.

Pam mae prisiau tanwydd yn codi?

Gall prisiau tanwydd newid am lawer o resymau, gan gynnwys newidiadau yn y farchnad olew fyd-eang a phroblemau gyda chyflenwadau olew.

Pan fydd prisiau petrol a diesel yn codi, gall wneud gwahaniaeth mawr i gostau aelwydydd, yn enwedig os ydych chi'n defnyddio'ch car bob dydd ar gyfer gwaith, teithiau gyda’r teulu neu fynd o le i le.

Dyna pam mae rhai pobl yn dechrau cymharu cost ceir petrol a diesel â cheir trydan.

Mae ceir trydan ail-law yn rhatach nag yr oeddent

Mae ceir trydan ail-law bellach yn llawer mwy fforddiadwy nag yr oeddent ychydig flynyddoedd yn ôl.

Mae mwy o ddewis hefyd.

Mae'r galw yn tyfu, fodd bynnag, a gall hyn olygu nad yw prisiau ar gyfer rhai modelau poblogaidd yn gostwng mor gyflym ag y maent wedi yn y gorffennol.

Y peth gorau i'w wneud yw cymharu ychydig o wahanol geir ac edrych ar y gost lawn o fod yn berchen arnynt.

A allai car trydan ail-law arbed arian i chi?

Gall, yn enwedig os gallwch chi wefru gartref.

Erbyn hyn mae mwy o geir trydan ail-law ar y farchnad ac mae hyn yn rhoi mwy o ddewis i bobl o ran maint, oed a phris.

Ond mae'n bwysig edrych ar yr holl gostau, nid pris y car yn unig.

Gall gwefru gartref fod yn llawer rhatach na phetrol neu ddisel

Os gallwch chi wefru gartref ar dariff trydan cost isel, gall gostio cyn lleied â thua 2c y filltir.

Gall car petrol gostio tua 18c y filltir mewn tanwydd.

Efallai y bydd angen i chi dalu i gael gwefrwr wedi'i osod yn eich cartref, ond os oes gennych fan parcio oddi ar y stryd, gall cost gwefru is helpu i wneud iawn am hyn dros amser.

Bydd faint rydych chi'n ei arbed yn dibynnu ar eich tariff trydan, y pellter rydych chi'n ei yrru a'r math o gar sydd gennych.

Beth os na allwch chi wefru eich car trydan gartref?

Nid yw pawb yn gallu gwefru car trydan gartref.

Os nad oes gennych ddreif neu fan parcio oddi ar y stryd, efallai y bydd angen ichi ddefnyddio gwefrwyr cyhoeddus yn amlach. Gall y rhain gostio mwy na gwefru gartref.

Mae hyn yn golygu efallai na fydd car trydan yn arbed yr un swm o arian i bawb.

Mae'r llywodraeth yn gwybod bod rhai aelwydydd yn wynebu mwy o rwystrau wrth newid i gar trydan. Mae cefnogaeth yn cael ei gyflwyno i wneud gwefru yn haws i bobl heb fan parcio oddi ar y stryd, gan gynnwys help gyda rhai opsiynau gwefru gartref ac ar y stryd.

Cyn prynu car trydan, mae'n werth gwirio pa opsiynau gwefru sydd ar gael ger eich cartref a faint maen nhw'n ei gostio.

A yw ceir trydan yn rhatach eu cynnal?

Mae ceir trydan fel arfer angen llai o waith cynnal a chadw o ddydd i ddydd oherwydd bod ganddynt lai o rannau symudol na cheir petrol neu diesel.

Nid oes angen newidiadau olew injan, plygiau tanio newydd, gwregysau amseru neu atgyweiriadau egsôst arnynt.

Fodd bynnag, gall rhai atgyweiriadau gostio mwy oherwydd bod ceir trydan yn defnyddio rhannau arbenigol ac efallai y bydd angen mynd â nhw i garejys arbenigol.

Fel gydag unrhyw gar ail-law, mae'n syniad da gwirio'r hanes gwasanaeth a'r warant cyn prynu.

Beth am y tâl fesul milltir newydd?

Mae cost arall yn y dyfodol i wybod amdano.

O fis Ebrill 2028 ymlaen, bydd gyrwyr ceir trydan yn talu tâl newydd yn seiliedig ar faint o filltiroedd maen nhw'n eu gyrru.

Mae disgwyl i geir cwbl drydan dalu 3c y filltir, tra bod disgwyl i geir hybrid plygio i mewn dalu 1.5c y filltir.

Mae hyn yn golygu na fydd ceir trydan mor rhad i'w rhedeg ag y maen nhw nawr, yn enwedig i bobl sy'n gyrru llawer o filltiroedd.

Hyd yn oed gyda'r tâl newydd hwn, mae disgwyl i geir trydan gostio llai i redeg i lawer o bobl, yn enwedig y rhai sy'n gallu gwefru gartref am bris is.

A man stood next to an electric vehicle that's plugged in to charge

Pa mor hir mae batris ceir trydan ail-law yn para?

Bywyd batri yw un o'r cwestiynau mwyaf sydd gan bobl wrth brynu car trydan ail-law.

Y newyddion da yw ein bod bellach yn gwybod llawer mwy am sut mae batris ceir trydan yn perfformio dros amser.

Mae llawer o geir trydan bellach wedi bod ar y ffordd ers sawl blwyddyn, ac mae'r rhan fwyaf o fatris yn parhau i ddal llawer iawn o'u gwefr gwreiddiol.

Mae gwiriadau iechyd batris bellach ar gael. Gall y gwiriadau hyn helpu i ddangos i chi pa mor dda mae'r batri yn gweithio cyn i chi brynu'r car.

Hefyd, mae gan lawer o fatris ceir trydan warantau hir gan y gwneuthurwr.

Os ydych chi'n prynu car ail-law, gwiriwch:

  • Iechyd y batri

  • Faint o warant sydd ar ôl

  • Hanes gwasanaeth y car

  • Pa mor bell y gall y car deithio ar wefr llawn

A yw car trydan ail-law yn iawn i chi?

Gallai car trydan ail-law fod yn werth ei ystyried os ydych chi'n meddwl am newid eich car.

Mae mwy o fodelau i ddewis ohonynt, mae prisiau'n is nag yr oeddent ychydig flynyddoedd yn ôl, a gall gwefru gartref fod yn llawer rhatach na phrynu petrol neu diesel.

Ond ni fydd y dewis cywir i bawb.

Cyn i chi benderfynu, meddyliwch am:

  • Faint o filltiroedd rydych chi'n eu gyrru

  • A allwch chi wefru gartref

  • Faint mae gwefru cyhoeddus yn ei gostio yn agos atoch chi

  • Pris y car

  • Iechyd y batri

  • Yswiriant a chostau atgyweirio

  • Y tâl milltiroedd newydd a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2028

Y ffordd orau o benderfynu yw edrych ar yr hyn sy'n gweithio i chi a'ch teithiau bob dydd.

Gallwch ddarllen ein canllaw llawn ar gyfer newid i gerbyd trydan yng Nghymru, gan gynnwys gwybodaeth am gostau, gwefru a'r hyn i feddwl amdano cyn newid.

Gallwch hefyd ddarllen canllaw Autotrader ar brynu car trydan ail-law i gael rhagor o awgrymiadau ar brynu cerbyd o’r fath.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol