Cyhoeddi yn gyntaf: 2 Mawrth 2026 -
Wedi diweddaru: 2 Mawrth 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Pum cam syml i leihau eich deunydd pecynnu (ac arbed arian ar yr un pryd)
Yn y canllaw hwn byddwch chi'n dysgu sut i leihau gwastraff pecynnu drwy:
Ail-lenwi cynwysyddion hen
Dewis ffrwythau a llysiau rhydd
Prynu bwydydd hirhoedlog mewn swmp
Coginio swp o'r dechrau
:fill(fff))
Pam mae lleihau pecynnu yn bwysig
Yn y DU, amcangyfrifir bod pum miliwn tunnell o blastig yn cael ei defnyddio bob blwyddyn, a deunydd pecynnu yw bron i hanner hynny. Mae hynny'n llawer iawn o ddeunydd sy'n troi’n wastraff yn y pen draw, gan gyfrannu at lygredd a microplastigau sy'n niweidio cefnforoedd a bywyd gwyllt.
Ond dyma'r newyddion da: lleihau'r deunydd pecynnu rydych chi'n ei brynu yw un o'r camau hawsaf, mwyaf ymarferol y gallwch chi ei gymryd i leihau gwastraff, arbed arian, a mwynhau bwyd o ansawdd gwell. Ac mae'n gwbl gyraeddadwy gydag ychydig o arferion syml.
Pum tip syml i helpu i leihau gwastraff pecynnu
1. Creu eich adnodd pecynnu eich hun
Bagiau, jariau, tybiau, poteli y gellir eu hailddefnyddio, creu eich adnodd pecynnu eich hun yw un o'r ffyrdd hawsaf o osgoi plastigau untro.
Mae gan y rhan fwyaf ohonom gynwysyddion gartref eisoes, yn enwedig o gludfwyd. Yn hytrach na'u taflu i ffwrdd, cadwch y tybiau a'r caeadau a'u defnyddio i storio gweddillion yn yr oergell neu'r rhewgell. Gall set fach o jariau neu fagiau brethyn hefyd wneud siopa am gynnyrch rhydd yn llawer haws.
Manteision:
Lleihau plastig untro
Arbed arian ar gynwysyddion storio
Eich helpu i fod yn drefnus gartref ac oddi cartref
2. Prynu cynnyrch rhydd
Un o'r pethau symlaf y gallwch chi ei newid yw dewis ffrwythau a llysiau rhydd o'ch marchnad leol, siop fferm, neu archfarchnad.
Mae prynu cynnyrch rhydd yn helpu o ran:
Lleihau gwastraff pecynnu
Prynu’r hyn sydd ei angen arnoch yn unig, sy'n lleihau gwastraff bwyd
Dewis cynhwysion tymhorol, sy'n aml yn fwy ffres ac yn rhatach
Mae'r newid bach hwn yn cefnogi cymunedau bwyd lleol ac yn annog siopa mwy ymwybodol.
3. Prynu eitemau hir oes mewn swmp
Pan fyddan nhw’n cael eu storio'n gywir, gall bwydydd fel reis, pasta, ceirch, blawd, cnau, a phylsiau bara’n hir, ac yn aml maen nhw’n dod mewn llai o ddeunydd pecynnu pan fyddan nhw’n cael eu prynu mewn swmp.
Pam mae swmp-brynu yn helpu:
Arbed arian dros amser
Lleihau faint o ddeunydd pecynnu fesul dogn
Cadw'ch cypyrddau yn llawn o gynhwysion amlbwrpas, dibynadwy
Os oes gennych chi siopau ail-lenwi yn eich ardal chi, mae hynny hyd yn oed yn haws.
4. Coginio bwyd ffres pan allwch chi
Nid oes rhaid i goginio bwyd ffres fod yn gymhleth. Mae hyd yn oed prydau syml, pasta gyda llysiau tymhorol, cawliau, prydau troi-ffrio, neu brydau mewn hambwrdd pobi, yn lleihau faint o ddeunydd pecynnu rydych chi'n eu cludo adref, oherwydd eich bod chi'n defnyddio cynhwysion sylfaenol, amrwd yn hytrach na phrydau wedi'u pecynnu.
Mae hefyd yn:
Caniatáu i chi reoli sesnin a maint dognau
Creu bwyd dros ben naturiol y gallwch ei rewi
Eich helpu chi i arafu a mwynhau'r broses o baratoi bwyd
Gall gwneud newid bach tuag at goginio cartref leihau faint o blastig sydd yn eich cegin yn gyflym.
5. Dyblu’r cynhwysion a gwneud eich "bwydydd cyfleus" eich hun
Mae bwydydd cyfleus yn ddefnyddiol, ac nid oes unrhyw beth o'i le gyda'u defnyddio. Ond gall gwneud eich fersiynau eich hun arbed arian a lleihau deunydd pecynnu ar unwaith.
Coginiwch swp o'ch hoff brydau, gan ei rannu i dybiau y mae’n bosibl eu hailddefnyddio, a'u rhewi. Bydd gennych chi brydau cyflym yn barod heb orfod dibynnu ar ddewisiadau wedi’u prynu o siopau gyda llawer iawn o ddeunydd pecynnu.
Mae'r dull hwn yn:
Arbed amser ar ddiwrnodau prysur
Arbed arian
Lleihau gwastraff plastig
Sicrhau eich bod chi'n bwyta prydau yr ydych chi'n eu mwynhau
Dyma gyfleustra, ond heb y deunydd pecynnu ychwanegol.
Newidiadau bach, effaith fawr
Nid oes angen anelu at berffeithrwydd wrth leihau deunydd pecynnu, mae cymryd camau bach yn gwneud bywyd yn haws.
Mae pob llysieuyn rhydd y byddwch yn ei brynu a phob jar y byddwch yn ei ailddefnyddio yn helpu i greu Cymru wyrddach. Os hoffech chi barhau â’r momentwm, dysgwch fwy am leihau gwastraff bwyd neu sut i ddefnyddio llai o ynni wrth goginio.
:fill(transparent))