Cyhoeddi yn gyntaf: 2 Mawrth 2026 -
Wedi diweddaru: 2 Mawrth 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
17 ffordd hawdd o leihau gwastraff bwyd gartref
Tips syml i arbed arian a helpu'r blaned
:fill(fff))
Pam mae lleihau gwastraff bwyd yn bwysig
Lleihau gwastraff bwyd yw un o'r ffyrdd symlaf o arbed arian, gwneud i’ch siopa bwyd wythnosol fynd ymhellach, ac elwa i’r eithaf o'r bwyd sydd gennych chi yn barod. Gall hyd yn oed newidiadau bach yn eich cegin eich hun wneud gwahaniaeth mawr i'ch cyllideb.
Mae'r 17 awgrym ymarferol hyn yn dangos pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio pob tamaid bach, o groen llysiau a chrystiau bara i goesynnau perlysiau, brocoli a mwy. P'un a ydych chi eisiau gostwng eich bil bwyd, lleihau gwastraff, neu wneud i'ch coginio fynd ymhellach, bydd y syniadau hyn i greu cegin ddiwastraff yn eich helpu i wneud y mwyaf o’r hyn rydych chi eisoes wedi talu amdano.
1. Defnyddio croen llysiau
Nid oes angen plicio'r rhan fwyaf o lysiau oni bai bod y croen wedi'i niweidio. Mae croen llysiau yn llawn ffeibr a maethynnau.
Gallwch eu defnyddio i greu:
"Sglodion" crensiog o groen llysiau wedi'u rhostio
Stoc llysiau cartref (gallwch eu rhewi nes bod eu hangen)
2. Ailddefnyddio crystiau a hen fara
Bara yw un o'r bwydydd sy’n cael ei wastraffu fwyaf yn y DU - ond mae hen fara’n hynod hyblyg.
Rhowch gynnig ar ei ddefnyddio i wneud:
Crŵtons
Tost garlleg
Briwsion bara
Tewhau sawsiau yn naturiol
3. Coginio gyda thopiau gwreiddlysiau
Mae topiau moron, dail betys, dail rhuddygl a dail maip i gyd yn fwytadwy.
Gallwch eu defnyddio fel:
Dewis arall yn lle sbigoglys
Cynhwysion ar gyfer pesto, pryd tro-ffrio, cawl neu salad
4. Arbedwch groen lemonau i ychwanegu blas
Mae croen sitrws yn ychwanegu lliw ac yn lleihau gwastraff.
Mae nhw’n wych ar gyfer:
Marmalêd
Cacennau a bisgedi
Gratio’r croen allanol i mewn i saws, salad a phwdin
Tip: Dewiswch sitrws organig pan fo'n bosibl.
5. Defnyddio coesynnau perlysiau meddal
Mewn bwnsiad o berlysiau, mae mwy na hanner ohono’n goesynnau - ac maen nhw'n llawn blas.
Gallwch eu defnyddio:
Wedi'u torri'n fân fel garnais
Mewn saws, cyri, cawl a marinâd
6. Peidiwch â chael gwared ar ddail blodfresych
Mae coesynnau a dail blodfresych yn flasus ac yn llawn maethynnau.
Gallwch eu:
Rhostio gydag olew a halen
Berwi, stemio neu’u ffrio fel llysiau dail gwyrdd
7. Bwyta crwyn a hadau pwmpenni a gwrdiau
Mae'r rhan fwyaf o grwyn gwrdiau yn meddalu wrth eu coginio.
Gallwch eu defnyddio:
Wedi'u cymysgu i mewn i gawliau
Wedi'u rhostio'n gyfan
Rhostio’r hadau gyda halen ac olew fel byrbryd
8. Gwedd newydd ar gyw iâr sydd dros ben
Mae cyw iâr wedi'i goginio sydd dros ben yn para hyd at ddau ddiwrnod pan gaiff ei oeri yn brydlon.
Gallwch ei ddefnyddio mewn:
Prydau troi-ffrio
Tacos
Stiw, pastai, cyri
9. Ailddefnyddio gwaddodion coffi
Mae gwaddodion coffi wedi’u defnyddio’n cynnwys gwrthocsidyddion a blas.
Rhowch gynnig arnyn nhw mewn:
Brownis a chacennau coffi
Smwddis
Eu rhwbio ar gig
Compost gardd
10. Aquafaba: dewis figan yn lle wyau
Mae aquafaba, yr hylif o ffacbys neu ffa wedi'u coginio, yn berffaith yn lle gwyn wyau.
Gallwch ei ddefnyddio ar gyfer:
Meringue
Mousse
Mayonnaise figan
Storio: 5 diwrnod yn yr oergell, 6 mis wedi'i rewi.
11. Coesynnau brocoli
Peidiwch â rhoi coesynnau brocoli yn y bin - maen nhw'n felys ac yn feddal ar ôl eu plicio.
Gallwch eu defnyddio mewn:
Prydau troi-ffrio
Mathau o golslo
Cawl
12. Dŵr tatws
Mae'r dŵr llawn startsh sy'n weddill ar ôl berwi tatws yn hynod ddefnyddiol.
Gallwch ei ddefnyddio i:
Dewhau sawsiau neu gawliau
Cyfoethogi bara cartref
13. Croen caws
Mae parmesan a chroen caws caled arall yn ychwanegu blas dwfn, sawrus.
Gallwch ei roi mewn:
Risotto
Saws tomato
Cawl (tynnu allan cyn gweini’r bwyd).
14. Ffrwythau goraeddfed
Mae ffrwythau meddal, sydd wedi cleisio neu sy’n oraeddfed, yn berffaith ar gyfer eu coginio.
Gallwch eu defnyddio mewn:
Smwddi
Bara banana
Compot
Bagiau ffrwythau yn y rhewgell i’w defnyddio rywdro arall
15. Coesynnau madarch
Yn llawn umami, ni ddylai coesynnau madarch gael eu gwastraffu.
Gallwch eu defnyddio mewn:
Pasta
Stwffin
Risotto
Omled
16. Croen winwns
Mae croen winwns yn ychwanegu lliw a dyfnder i stoc.
Gallwch ei ddefnyddio i greu:
Stoc llysiau
Potes neu gawl (tynnwch nhw allan cyn gweini)
17. Dŵr pasta
Un o'r triciau cegin ddiwastraff symlaf.
Gallwch ddefnyddio dŵr pasta i:
Dewhau sawsiau
Gwneud pesto yn llyfnach
Dod â sawsiau tomato neu hufen at ei gilydd
Dysgwch fwy
Nid oes rhaid i leihau gwastraff bwyd fod yn gymhleth - mae'n ymwneud â defnyddio'r hyn sydd gennych eisoes. Os ydych chi'n chwilio am ffyrdd symlach o arbed arian, lleihau gwastraff a choginio'n fwy cynaliadwy, archwiliwch ein hadran Dewisiadau Bwyd Gwyrdd. Fe welwch awgrymiadau ar fwyta bwydydd tymhorol, coginio'n effeithlon, a gwneud dewisiadau bob dydd sy'n cefnogi Cymru fwy gwyrdd.
:fill(transparent))