Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 13 Chwefror 2026 -

Wedi diweddaru: 18 Chwefror 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mae Cymru wedi arbed miliwn cilo o garbon trwy drwsio, ond beth mae hynny'n ei olygu?

Mae Cymru newydd gyrraedd carreg filltir trwsio ac ailddefnyddio enfawr.

A button being sewn back onto a blue jacket

Miliwn kilo o garbon wedi'i arbed: Pam ei fod yn bwysig

Diolch i rwydwaith cynyddol Cymru o gaffis trwsio, mae mwy na miliwn cilo o allyriadau carbon wedi'u harbed trwy drwsio'r pethau yr ydym eisoes yn berchen arnynt, yn hytrach na'u taflu i ffwrdd a phrynu pethau newydd.

Mae hynny'n sylweddol.

Mae hynny gyfystyr â char petrol yn teithio 11.2 miliwn o filltiroedd - neu deithio ar hyd yr A470 fwy na 60,000 o weithiau. Ac mae caffis yn cael ei staffio gan wirfoddolwyr, mewn mannau cymunedol, ledled Cymru.

Sut mae caffis trwsio yn gweithio yng Nghymru

Dechreuodd Fix it February eleni mewn caffi trwsio dros dro yng Nghaerdydd – gan lansio mis o drwsio, ailddefnyddio a thorchi llewys dan arweiniad Caffi Trwsio Cymru.

Erbyn hyn mae mwy na 130 o gaffis trwsio yn gweithredu ledled y wlad – gan gynnig sesiynau trwsio am ddim, cyfeillgar ar gyfer popeth o ddillad a beiciau i lampau, tegelli ac eitemau trydanol bach.

Ac mae'r effaith yn mynd ymhell y tu hwnt i garbon.

Ledled Cymru, mae caffis trwsio yn dod yn llefydd lle mae:

  • Pobl yn dysgu sgiliau ymarferol, gydol oes

  • Hyder yn tyfu ochr yn ochr â gwybodaeth

  • Cyfeillgarwch a chysylltiadau yn digwydd yn naturiol

  • Chymunedau yn dod at ei gilydd i wneud rhywbeth cadarnhaol.

I lawer o bobl, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw drwsio tostiwr, pwytho sêm neu brofi plwg.

Mae'r foment 'Rwy'n gallu gwneud hyn' yn bwysig.

Mae'r arfer o fenthyg, rhannu ac ailddefnyddio yn tyfu ledled Cymru

Mae trwsio yn rhan o agwedd Gymreig ehangach at ailddefnyddio.

Mae'r rhwydwaith llyfrgelloedd pethau cenedlaethol, Benthyg Cymru, yn ei gwneud hi'n hawdd benthyg yn hytrach na phrynu – o dŵls a phecynnau cymorth DIY i offer ar gyfer y cartref a digwyddiadau.

Mae prosiectau ailddefnyddio hefyd yn ffynnu ledled y wlad, gan gynnwys:

  • Oergelloedd cymunedol yn Sir Fynwy

  • Gwasanaethau ailddefnyddio mewn canolfannau ailgylchu yng Ngheredigion a Sir Benfro

  • Elusen ailddefnyddio Crest yng Nghonwy sy'n rhedeg pedair siop  sy'n gwerthu dodrefn, dillad ac offer trydanol wedi'u hadnewyddu

  • Menter Tyfu a Thrwsio Menter Môn ar Ynys Môn sydd nid yn unig yn rhedeg canolfan drwsio ond maen nhw hefyd yn cynnal gweithdai ar uwchgylchu a gwnïo.

Gyda'i gilydd, maen nhw'n sicrhau bod pethau defnyddiol yn cael eu defnyddio – ac yn gwneud gwastraffu llai i deimlo'n normal.

Miliwn cilo a mwy

Nid y garreg filltir hon yw'r diwedd.

Mae'n brawf o'r hyn sy'n digwydd pan fydd cymunedau yn cael eu cefnogi i rannu sgiliau, helpu ei gilydd a chymryd camau ymarferol.

Pob sip a atgyweiriwyd, pob tegell a drwsiwyd, pob dril a fenthycwyd. Mae'r cyfan yn cyfri.

Fix it February yw eich gwahoddiad i ddathlu'r hyn y mae Cymru eisoes wedi'i gyflawni – ac i helpu i arbed y filiwn cilo nesaf o garbon, un eitem ar y tro.

Dewch o hyd i'ch caffi trwsio am ddim agosaf
👉 Caffi Trwsio Cymru

Dewch o hyd i'ch llyfrgell pethau agosaf
👉 Benthyg Cymru

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol