Cyhoeddi yn gyntaf: 13 Chwefror 2026 -
Wedi diweddaru: 13 Chwefror 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Ailddefnyddio bocsys cardbord 'sy’n rhy dda i'w gwastraffu' yn arbed arian ac adnoddau i Wasanaeth Gwaed Cymru
Staff â llygaid barcud yn sylwi ar gyfleoedd i barhau i ddefnyddio eitemau yn hirach – neu hyd yn oed eu rhoi i fwncïod lleol.
:fill(fff))
Yn Labordy Trawsblannu Gwasanaeth Gwaed Cymru, maen nhw wedi arfer derbyn llawer o barseli bob dydd sy'n cynnwys samplau gwaed o bob cwr o dde Cymru.
Gall hyn olygu llawer iawn o focsys a deunydd pecynnu sydd angen eu hailgylchu neu eu gwaredu.
“Rydyn ni'n derbyn tua 60 o focsys cardbord yn cynnwys samplau bob wythnos, sy'n dipyn go lew achos ein bod ni'n labordy cyfeirio," esboniodd y gwyddonydd biofeddygol Lowri Kadelka-Williams.
“Mae'r samplau y tu mewn wedi'u pacio deirgwaith a'u storio mewn twb plastig, sy'n golygu bod y bocsys cardbord allanol yn ddigon glân i'w hailgylchu. Felly un diwrnod meddyliodd fy nghydweithiwr, beth pe baem ni’n gallu eu hailddefnyddio yn hytrach na’i gwaredu?"
Am y flwyddyn ddiwethaf, mae'r labordy wedi bod yn anfon y bocsys yn ôl i ysbytai (a'u derbyn eto) fel rhan o broses cludo cynhyrchion gwaed rheolaidd yr ysbyty ar ran cleifion, felly nid oes angen tanwydd ychwanegol.
:fill(fff))
Mae tîm cynaliadwyedd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, y mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn rhan ohoni, yn cynnal sesiynau rheolaidd i staff clinigol rannu syniadau ar ffyrdd o leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Arweiniodd y sesiynau hyn at wahodd WRAP i Wasanaeth Gwaed Cymru i gynghori ar sut i leihau faint o wastraff plastig untro sy'n cael ei gynhyrchu.
“Ar hyn o bryd rydyn ni'n llenwi bin cyfan pob dydd gyda deunydd pecynnu plastig, o un gweithfan yn y labordy, a dim ond o ddanfoniadau yw hynny, dim hyd yn oed gwastraff clinigol," esboniodd Ella Williamson, Swyddog Ynni a'r Amgylchedd yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
“Roedd yn agoriad llygad i'w weld. Os yw rhywbeth wedi'i halogi, mae'n rhaid ei losgi, ond dim ond deunydd pecynnu allanol glân yw llawer o hyn. Rydyn ni’n bwriadu mynd o gwmpas y gwahanol adrannau gyda WRAP i weld a allwn ni greu posteri ar gyfer y biniau neu arwyddion am yr hyn y gellir ei ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu.”
Ella Williamson, Swyddog Ynni a'r Amgylchedd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Mae eitemau cardbord eraill, fel tiwbiau'r papur glas a ddefnyddir i orchuddio’r gwelyau rhwng cleifion, hyd yn oed wedi cael eu casglu a'u cludo i Noddfa Epaod a Mwncïod Cymru gerllaw, ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i'r mwncïod eu defnyddio mewn gweithgareddau cyfoethogi a datrys problemau.
Dywedodd Ella: "Mae'n rhodd i elusen ac mae hefyd wedi lleihau ein llif gwastraff ailgylchu hefyd, ac mae'n dda i'r mwncïod. Mae'n fuddugoliaeth driphlyg.”
Ailgylchu yn y gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd angen i bob ysbyty ddechrau gwahanu eu gwastraff i'w ailgylchu fel rhan o gyfraith ailgylchu yn y gweithle Cymru. I gael cymorth gyda'ch ailgylchu yn y gweithle, cliciwch yma.
Mwy am yr hyn y mae Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
:fill(transparent))
:fill(transparent))