Cyhoeddi yn gyntaf: 28/04/2025 -
Wedi diweddaru: 28/04/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Ynysoedd bach – cyfrifoldeb mawr
Yr adeg hon o'r flwyddyn yng Nghymru, wrth i'r gwanwyn symud tuag at yr haf, rydym yn dechrau croesawu rhai o'n hadar môr mudol mwyaf eiconig i ynysoedd bach ledled Cymru.
:fill(fff))
Mae'r adar hyn sydd wedi gaeafu ledled y byd mewn cyrchfannau cyn belled â De America yn dychwelyd i Ogledd Ewrop flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer cyfnod bridio yr haf. Mae Cymru'n gartref i lawer o'r rhywogaethau hyn mewn niferoedd mawr ar ei ynysoedd bach, yn enwedig y rhai oddi ar Sir Benfro, lle bydd adar yn nythu ar yr wyneb, yn tyllu o dan y ddaear neu'n glynu wrth ymylon ei chlogwyni.
Ynysoedd Cymru
Mae ynysoedd bach Dewi, Sgomer, Sgogwm, ac Enlli, i enwi ond ychydig, i gyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi miloedd o adar môr mudol bob blwyddyn. Mae'r ynysoedd wedi'u lleoli yn agos at y tir mawr ac yn cynnig mynediad hawdd at ddigonedd o fwyd fel sardinau, llyswennod tywod, corbenwaig a phenwaig sy'n hanfodol i gynnal y boblogaeth wrth iddynt fridio dros yr haf. Credir bod Cymru yn gartref i tua hanner poblogaeth y byd o Adar Drycin Manaw yn unig tra hefyd yn cefnogi'r pâl, y gwylogod a'r gweill y penwaig eiconig ymhlith eraill.
:fill(fff))
Taith y mammoth
Felly ble mae'r adar godidog hyn yn mynd? Wel, mae llawer sy'n ymweld â Chymru yn adar môr go iawn sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser ar y môr y tu allan i'r cyfnod bridio. Mae Adar Drycin Manaw yn un o'r teithwyr gorau, sy'n teithio miloedd o filltiroedd y flwyddyn. Ar ôl i'r tymor bridio ddod i ben yng Nghymru, maent yn croesi Cefnfor Iwerydd cyn mynd i Dde America a dychwelyd i Gymru y gwanwyn canlynol.
Breuddwyd ffotograffwyr
Mae cael llun perffaith o bâl yn plymio ar y môr neu'r glanio lletchwith yn ôl i'w dwll yn freuddwyd i lot o bobl. Ond weithiau nad oes angen i chi ymweld ag ynysoedd bach Cymru i weld yr adar. Yn aml, pan fydd adar môr mudol yn cyrraedd Cymru am y tro cyntaf, efallai na fyddant yn mynd yn syth i'r ynysoedd ac efallai y byddwch yn eu gweld yn sefyll ar bentir pell neu glogwyn creigiog yn gorffwyso a chael eu hegni yn ôl.
Yn hwyrach yn yr haf, unwaith y bydd yr adar ifanc wedi gadael eu nythod, efallai y byddant yn treulio peth amser ar y môr neu'n symud i ardaloedd eraill yng Nghymru wrth iddynt fwydo cyn gwneud eu teithiau anferthol yn ôl ar gyfer y Gaeaf. Felly wrth i chi gerdded ar hyd yr arfordir, hyd yn oed mewn trefi a phentrefi, cymerwch ychydig eiliadau i oedi ac edrych.
:fill(fff))
Yr her
Gyda chymaint o adar môr mudol mewn nythfeydd llawn sy'n aml yn gorgyffwrdd â rhywogaethau eraill, mae heriau yn anochel.
Gweithgareddau dynol
Mae ein hadar môr mudol wedi wynebu cystadleuaeth gan weithgareddau dynol ers canrifoedd, gan gynnwys y bygythiad o ddadleoli, pobl yn eu bwyta a physgota. Diolch byth, mae'r bygythiadau hyn bellach wedi lleihau'n sylweddol gan fod llawer o ynysoedd Cymru bellach yn warchodfeydd wedi'u rheoli ac mae gweithgareddau dynol wedi addasu i’r graddau bod eu bygythiad yn lleihau i’r rhan fwyaf o rywogaethau adar môr mudol.
Fodd bynnag, mae heriau newydd o weithgareddau dynol ar ffurf datblygu ynni adnewyddadwy. Er y dylem gofleidio datblygiad ynni adnewyddadwy wrth i ni ymdrechu i fynd i'r afael â'n hargyfwng natur a hinsawdd, mae'n bwysig ein bod yn dysgu ac yn deall y canlyniadau anfwriadol a allai effeithio ar ein hadar môr mudol a sut rydym yn ymateb iddynt.
:fill(fff))
Bioddiogelwch yr ynys
Heb os, un o'r prif heriau i holl ynysoedd Cymru, yw cadw statws ynys rydd o ysglyfaethwyr, yn enwedig gyda'r bygythiad gan lygod mawr brown. Gall yr anifeiliaid hyn gyrraedd fel teithwyr cudd mewn bocsys neu drwy longddrylliadau a hyd yn oed nofio ar draws rhai ynysoedd. Mae ganddynt y gallu i luosi'n gyflym a dinistrio nythfeydd tan ddaear yn arbennig.
Yn fwy diweddar, mae'r bygythiad sylweddol i adar y môr wedi dod o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI), a elwir yn fwy cyffredin yn "Ffliw Adar", sydd yn anffodus wedi dinistrio llawer o rywogaethau adar môr mudol, gan gynnwys yr hugan, a credir bod poblogaeth Cymru wedi gostwng hyd at 50% yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Ffliw Adar yn fyd-eang a gallai amrywiadau newydd ddatblygu yn unrhyw le a throsglwyddo rhwng rhywogaethau wrth iddynt fudo. Fel arall, gallai'r amrywiolyn Ffliw Adar aros yn ei le a dim ond effeithio ar rywogaethau wrth iddynt basio drwy'r ardal ddaearyddol benodol honno.
Mae'r nythfeydd poblog a geir ar ynysoedd Cymru yn aml yn golygu y gallai Ffliw Adar ledaenu'n gyflym a symud i nythfeydd eraill trwy rywogaethau fector fel teulu y gwylanod sy'n tarfu ar rai rhywogaethau o adar môr mudol. Hyd heddiw, mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall effeithiau llawn Ffliw Adar.
:fill(fff))
Gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ein hynysoedd bach a'n hadar môr mudol
Mae llawer mwy y gallwch ei wneud i helpu i gefnogi ein ynysoedd bach a'n hadar môr mudol yng Nghymru. Dyma rai syniadau sut y gallwch gymryd rhan.
Gwirfoddoli – heb os, un o'r pethau mwyaf y gallwch ei wneud yw rhoi rhywfaint o'ch amser rhydd i wirfoddoli. Ceisiwch ymuno â grŵp cadwraeth lleol neu un o'r sefydliadau elusennol mwy a fyddai'n falch iawn o'ch cefnogaeth.
Tynnwch ddim byd ond ffotograffau, gadewch ddim ond olion traed – gwrandewch ar unrhyw gyngor neu rybuddion lleol, peidiwch a tharfu ar yr adar hyn ac ewch ag unrhyw sbwriel adref – ond cofiwch dynnu llun.
Addysg – siaradwch ag eraill am ein hynysoedd bach a'n hadar môr mudol. Codi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd a rhannu eich gwybodaeth.
Gwyddoniaeth dinasyddion – ystyried prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion. Mae llawer o apiau symudol neu wefannau defnyddiol sy'n eich galluogi i gyfrif, tynnu lluniau a chofnodi unrhyw ganfyddiadau rydych yn eu gweld, wrth ymweld â'r ardaloedd hyn.
Trwy gymryd y camau syml hyn, gallwch wneud eich rhan i gefnogi ein hadar môr mudol gwerthfawr ac eiconig wrth iddynt ymweld ag ynysoedd bach Cymru yr haf hwn. P'un a ydych yn wyliwr adar brwd, yn rhywun sy'n mwynhau'r amgylchedd naturiol, neu'n rhywun sy'n awyddus i fod yn yr awyr agored, cymerwch ychydig o amser i werthfawrogi ein hynysoedd bach a'r rôl hyfryd y maent yn ei chwarae flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn croesawu adar môr mudol Cymru. Peidiwch ag anghofio i tagio ni yn eich lluniau.