Cyhoeddi yn gyntaf: 29 Ionawr 2026 -
Wedi diweddaru: 29 Ionawr 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Mae cyfraddau ailgylchu Cymru yn parhau i godi
Mae lefelau ailgylchu wedi codi unwaith eto wrth i Gymru barhau ar ei thaith tuag at fod yn genedl ddiwastraff.
:fill(fff))
Y penawdau
Mae ffigurau gwastraff trefol awdurdodau lleol yn dangos bod y gyfradd ailgylchu wedi cynyddu o 66.6% yn 2023-24 i 68.4% yn 2024-25 – mae hyn yn trawsnewidiad llwyr o'i gymharu â thua 5% cyn datganoli.
Dim ond 0.7% o wastraff a gafodd ei anfon at safleoedd tirlenwi yn 2024 i 2025 – gostyngiad enfawr ar y 95% a anfonwyd cyn datganoli.
Mae dros hanner awdurdodau lleol Cymru wedi cyrraedd targed statudol 2024 i 2025 o 70% o'r gwastraff yn cael ei ailgylchu, a nododd dros 90% gynnydd yn eu cyfradd ailgylchu o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru
Mae cyfraddau ailgylchu uwch yn golygu bod miloedd o dunelli o ddeunyddiau ailgylchadwy gwerthfawr ychwanegol yn cael eu bwydo yn ôl i'r economi yn hytrach na chael eu llosgi neu eu hanfon at safleoedd tirlenwi.
Mae Cymru yn ail yn y byd o ran ailgylchu, o flaen y DU ac ychydig y tu ôl i Awstria yn y safleoedd byd-eang a gyhoeddwyd gan Eunomia Research and Consulting a Reloop yn 2024. Mae bod yn rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu o fewn ein gafael ni os ydyn ni'n cadw'r momentwm!
Weithleoedd Cymru, daliwn ati i sortio ein hailgylchu
Yr ystadegau hyn yw'r data blynyddol cyntaf i gael ei gyhoeddi ers i fesurau ailgylchu newydd yn y gweithle gael eu cyflwyno yng Nghymru, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob busnes, gweithle a chasglwr yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gadw deunyddiau ailgylchadwy allweddol ar wahân.
Ers hynny, mae 8,187 tunnell ychwanegol o ddeunydd ailgylchadwy wedi cael eu casglu o weithleoedd gan awdurdodau lleol – cynnydd o 42% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae gwastraff gweddilliol a gesglir o weithleoedd hefyd wedi gostwng 15.8%.
"Rwy'n falch o bawb yng Nghymru sydd wedi chwarae eu rhan er mwyn cyrraedd lle rydyn ni heddiw – yn ein cartrefi a nawr yn ein gweithleoedd hefyd. Diolch am ymuno â'r gydymdrech hon."
Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies
Dysgwch fwy
Am fwy o syniadau ar sut i leihau gwastraff ewch i'n tudalen dewisiadau dyddiol.
Dysgwch fwy am gyfraith ailgylchu yn y gweithle.
:fill(transparent))