Cyhoeddi yn gyntaf: 19/05/2025 -

Wedi diweddaru: 19/05/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Sut mae clwb pêl-droed o Sir Benfro’n troi ei gaeau’n wyrddach

O blannu dolydd blodau sy’n groesawgar i adar i roi bywyd newydd i hen sgidiau pêl-droed, mae Clarbeston Road FC eisiau rhoi cynaliadwyedd ar y blaen.

Wildflowers growing at Clarbeston Road football club in Pembrokeshire

Ar yr olwg gyntaf, mae Clarbeston Road FC yn ymdebygu i bob clwb pêl-droed arall. Fe welwch chi gaeau, ystafelloedd newid a chefnogwyr brwd ar hyd yr ystlys. Ond o graffu, fe sylwch ar ambell gyffyrddiad anarferol: dolydd o flodau gwyllt yn brysurdeb diwrnod gêm o wenyn, paneli solar yn bolaheulo a therasau o bren sy’n parchu’r amgylchedd.

Dros y degawd diwethaf, mae’r clwb o Sir Benfro wedi prysur dyfu’n un o glybiau gwyrddaf Cymru. Gyda mwy na 350 o chwaraewyr yn ei gynrychioli, mae’n dangos sut y gall chwaraeon, bod yn gynhwysol a chynaliadwy fynd law yn llaw – hyd yn oed yn y cymunedau lleiaf.

Meddai’r Cadeirydd, Steve Brown: “Fe ddechreuon ni gyda dim ond llond llaw o dimau cyntaf a thimau ieuenctid, ond nawr mae gyda ni 25 o dimau ar draws pob grŵp oedran. Mae gyda ni dîm anabl a thîm cyntaf menywod ynghyd â dau dîm i ddynion. Roedd FAW yn synnu i glywed bod gyda ni fwy o chwaraewyr nag sydd o drigolion yn y pentref!”

Maes y gad

Mae ehangu’r clwb mewn ffordd gynaliadwy wedi bod yn her. Fel sefydliad elusennol nad yw’n cyflogi neb, mae Clarbeston Road yn dibynnu ar garfan o oddeutu 85 o wirfoddolwyr brwdfrydig. Mae’r cyfleusterau wedi eu rhannu ar draws y pentref, gyda phedwar cae pêl-droed mewn tri lleoliad gwahanol yn ogystal â bloc canolog o stafelloedd newid.

Dim ond un o safleoedd y caeau chwarae y mae’r clwb yn berchen arno. “Fe brynon ni fe 25 mlynedd yn ôl gydag arian loteri,” meddai Steve. “Rydyn ni’n canolbwyntio ar y safle hwn gan ein bod ni’n rhentu neu’n talu les am y rhai eraill, sy’n cyfyngu’n defnydd ohonyn nhw.”

Er bod y clwb wedi buddsoddi tua £250,000 ar wella’r safle a’i wneud yn wyrddach, nid yw’r gwelliannau’n amlwg ar yr olwg gyntaf. Mae Steve a’i dîm wedi gosod system ddraenio gynaliadwy, system garthffosiaeth oddefol sy’n parchu’r amgylchfyd, a thanc tanwydd newydd sy’n fwy diogel ac yn annhebygol o ollwng, gan amddiffyn y dirwedd rhag peryglon llygredd.

Meddai: “Rydyn ni hefyd wedi codi eisteddle o bren i’r cefnogwyr yn hytrach nag o blastig, ac rydyn ni wedi gosod system wresogi dŵr yn ein toiledau sydd dim ond yn twymo’r dŵr pan fo angen. Mae goleuadau LED wedi cymryd lle tiwbiau fflworolau, ac rydyn ni newydd dderbyn grant wrth Chwaraeon Cymru i osod paneli solar ar ddau o’n hadeiladau. Ein gobaith yw i ddod yn hollol hunan-gynhaliol o ran ynni.”

Aerial view of the pitch at Clarbeston Road football club

Tirwedd fyw

Arwydd amlycach o weledigaeth werdd y clwb yw’r ddôl blodau gwyllt sydd rhwng caeau, wedi ei ariannu gan Cymru Football Foundation. Dywed Steve: “Rydyn ni wedi derbyn llwyth o sylwadau calonogol. Mae gan rai pobl farn draddodiadol ar sut dylai meysydd chwaraeon edrych, ac roedd un neu ddau yn ei weld yn flêr i ddechrau, ond mae wir yn sbarduno trafodaeth a thynnu pobl i mewn i’n ffordd o feddwl.”

“Rydyn ni’n ceisio darparu budd i fywyd gwyllt yn ogystal ag i’n chwaraewyr. Ers inni blannu blodau gwyllt, rydyn ni wedi gweld mwy a mwy o adar yma.”

Steve Brown, cadeirydd

Datblygiad difyr arall yw’r cynllun ail-ddefnyddio esgidiau pêl-droed, gan ei gwneud hi’n haws i blant allu chwarae pêl-droed heb orfod poeni am allu fforddio gwneud hynny. Ar ben hynny, gall unrhyw un sydd â syniadau i alluogi’r clwb i fod yn fwy gwyrdd ymuno a’i grŵp Gwyrddach Gyda’n Gilydd, a gefnogir gan yr FAW a’r elusen Global Action Plan.

O ran y dyfodol, mae’r clwb yn bwriadu adfer cloddiau cyfagos, plannu dôl flodau gwyllt newydd, ac arbed trydan drwy osod mesuryddion amser ar bob oergell diodydd oer. Mae hefyd wedi bod yn arbrofi gyda pheiriant torri gwair robotig, gan leihau’r angen i alw ar dractor diesel i ddod a thorri’r gwair a chynnal a chadw’r meysydd.

“Rydyn ni wedi cael dechrau da i’r daith, ond mae cymaint mwy i’w wneud,” meddai Steve. “Mae gyda ni gynlluniau mawr i ymgysylltu ymhellach â phobol ifanc yn y gymuned – ac rydyn ni wastad yn hapus i ddysgu o brofiadau pobl eraill a chynghorion i wneud y clwb yn fwy cynaliadwy.”

Eisiau gwybod mwy?

Dysga sut mae Cymru Football Foundation yn helpu i feithrin clybiau cryfach, mwy cynaliadwy sy’n rhoi’r gymuned yn gyntaf, a cher i weld sut mae Cambrian United FC a Welshpool Town FC yn helpu i greu Cymru wyrddach.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol